Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllunio strategol

Gallwch lawrlwytho'r CDLl a fabwysiadwyd ar gyfer Abertawe a chanllawiau cynllunio atodol er mwyn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion Cynllunio Strategol yn Abertawe.

Mae swyddogaeth Cynllunio Strategol y Cyngor yn gyfrifol am baratoi a monitro Cynllun Datblygu'r Cyngor, ac mae hefyd yn ymwneud ag ystod o brosiectau cynllunio strategol eraill, gyda'r nod cyffredinol o hwyluso cyflwyno datblygiad o ansawdd uchel yn Abertawe.

Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)

Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Abertawe 2010-2025 ar 28 Chwefror 2019. O dan ddarpariaethau'r Ddeddf Cynllunio (Cymru), mae'r CDLl yn rhan o'r cynllun datblygu statudol ar gyfer Cyngor Abertawe. Caiff ei ddefnyddio fel y brif ystyriaeth hanfodol i gyfeirio penderfyniadau ar geisiadau cynllunio a chynigion datblygu.

Prosiectau a dogfennau cynllunio strategol

Yn ogystal â'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a'i ganllawiau cynllunio atodol (CCA), caiff amrywiaeth eang o brosiectau a dogfennau cynllunio strategol eraill eu llunio i lywio penderfyniadau ac arwain y broses ddatblygu. Ni fabwysiedir y dogfennau hyn yn ffurfiol fel CCA ond mae'n bosib y byddant wedi llywio polisi ac y cyfeirir atynt yn y CDLl.

Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)

Mae'r cyngor yn llunio Canllawiau Atodol (CCA) ar amrywiaeth eang o faterion datblygu. Mae'r rhain yn darparu rhagor o wybodaeth i ymgeiswyr a phenderfynwyr am sut y caiff polisïau Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl) eu defnyddio. Dylid darllen a deall dogfennau CDLl er mwyn sicrhau bod cynigion datblygu'n cydymffurfio â fframwaith polisi cynllunio'r cyngor

Cyflwyno a monitro cynllunio

Bydd y cyngor yn monitro'r broses o gyflwyno'r cynigion cynllunio a hyrwyddir yn y CDLl, a bydd yn ceisio hwyluso gweithredu datblygiad drwy asesiadau perthnasol, gan gynnwys arfarniadau dichonoldeb ariannol.

Creu Lleoedd a Threftadaeth

Mae'r Tîm Creu Lleoedd a Threftadaeth yn darparu cyngor arbenigol gan arbenigwyr ar amrywiaeth o agweddau ar bob graddfa ym mhob ardal yn Abertawe. Mae gwaith y tîm yn sicrhau bod egwyddorion creu lleoedd yn sylfaen i benderfyniadau'r adran gynllunio, a bod treftadaeth unigryw a chyfoethog Abertawe'n cael ei chadw a'i gwella ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2023-2028

Mae gwaith yn mynd rhagddo i lunio Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) i Abertawe. Bydd y Cynllun newydd yn disodli'r CDLl presennol ac yn darparu'r glasbrint newydd ar gyfer datblygiad yn Abertawe yn y dyfodol, hyd at 2038.
Close Dewis iaith