Toglo gwelededd dewislen symudol

COAST yr haf a Bwyd yn ystod y Gwyliau

Ar y dudalen hon

1. Pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais?
2. Meini prawf y gronfa
COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)
Grant Bwyd yn ystod y Gwyliau - Gwyliau ysgol yr haf (dydd Llun 21 Gorffennaf - dydd Sul 31 Awst 2025
3. Sut i gyflwyno cais
4. Lefelau ariannu
5. Dyddiadau cau
6. Meini prawf y cais a'r asesiad

 

Gall ymgeiswyr wneud cais am un neu fwy o gynlluniau o'r grant hwn.

  • COAST (Creu Cyfleoedd ar draws Abertawe Gyda'n Gilydd) - Plant a Phobl Ifanc.
  • COAST (Creu Cyfleoedd ar draws Abertawe Gyda'n Gilydd) - 50 oed ac yn hŷn.
  • Grant Bwyd yn ystod y Gwyliau.

1.  Pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais?

  • cyrff cyhoeddus
  • sefydliadau elusennol neu wirfoddol
  • y rheini ag amcanion elusennol ac nid-er-elw preifat,
  • a sefydliadau'r sector preifat*

(*COAST - PPI a 50+ yn unig)

2.  Meini prawf y gronfa

Amlinellir dibenion y cynlluniau cyllido fel a ganlyn:

COAST (Creu cyfleoedd ar draws Abertawe gyda'n gilydd)

Mae Cronfa COAST yn adeiladu ar rowndiau blaenorol COAST a'i ragflaenwyr. Ei nod yw darparu gweithgareddau am ddim neu fforddiadwy i bobl sy'n byw yn Abertawe neu'n cael eu cefnogi yn yr sir.

Ariennir Cronfa Grantiau Gweithgareddau COAST gan Gyngor Abertawe a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Bydd y gronfa'n targedu gweithgareddau'n benodol ar gyfer:

  • Plant, pobl ifanc a theuluoedd - fe'i cyflwynir yn ystod cyfnod gwyliau'r ysgol o 21 Gorffennaf 2025 a 31 Awst 2025.
  • 50 oed ac yn hŷn - fe'i cyflwynir rhwng 21 Gorffennaf 2025 a 31 Awst 2025.

I gyflawni hyn, rydym yn darparu cyllid i gyflwyno cyfleoedd a gweithgareddau sydd:

  • Am ddim / yn fforddiadwy i bobl sy'n gymwys ar eu cyfer.
  • Yn hawdd cael mynediad atynt ac sy'n cael eu cynnal mewn cymunedau lleol.
  • Yn briodol i oedran.
  • Yn cefnogi mynediad cyfartal i bobl o bob gallu.

Amlinellir rhai ystyriaethau isod:

  • Sicrhau bod rhaglen gynhwysol a chytbwys o weithgareddau sy'n briodol i oedran, y gall pawb sydd am gymryd rhan gael mynediad atynt yn hawdd.
  • Cynnig amrywiaeth o weithgareddau chwarae, chwaraeon, diwylliannol ac eraill mewn amrywiaeth o leoliadau.
  • Lle bynnag y bo modd, dylid cynnal gweithgareddau mewn lleoliadau hygyrch y gellir eu cyrraedd ar droed neu ar gludiant cyhoeddus.
  • Dylai ceisiadau ar gyfer prosiectau a gyflwynir gan ddarparwyr / grwpiau / glybiau presennol fod yn ychwanegol at weithgareddau neu ddarpariaeth arferol, a dylent ymdrechu i ddenu cynulleidfaoedd newydd.
  • Bydd ceisiadau ar gyfer gweithgareddau rheolaidd grŵp gyda'i garfan sefydledig yn aflwyddiannus.
  • Ni fydd teithiau y tu allan i ardal Abertawe'n gymwys am gyllid.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Awst 2025.

Grant Bwyd yn ystod y Gwyliau - Gwyliau ysgol yr haf (dydd Llun 21 Gorffennaf - dydd Sul 31 Awst 2025)

Pwrpas y cyllid yw helpu gyda darparu mynediad at fwyd yn ystod gwyliau ysgol yr haf i blant oedran ysgol a'u teuluoedd sy'n cael trafferth gyda'r costau ychwanegol dros wyliau'r ysgol heb fynediad at brydau ysgol am ddim.

Rydym am weithio gyda chi i ddarparu cymorth ychwanegol i deuluoedd â phlant er mwyn gwella'r mynediad at fwyd o ansawdd da.

Pwrpas y cyllid yw darparu cymorth ychwanegol sy'n helpu i liniaru tlodi bwyd plant ac ansicrwydd bwyd yn ystod gwyliau'r ysgol drwy:

  • Ddarparu pecynnau bwyd, neu fynediad at fwyd (er enghraifft dosbarthu talebau bwyd fel y bo'n briodol) y gellid mynd â nhw oddi ar y safle.
  • Darparu bwyd / prydau o ansawdd da ar y safle.

Mae gwariant cymwys yn cynnwys y canlynol (yn Abertawe):

  • Costau ar gyfer darparu / paratoi bwyd ychwanegol a ddarparwyd i'w fwyta yn eich prosiect.
  • Costau ar gyfer darparu bwyd ychwanegol neu fynediad at fwyd (er enghraifft, talebau bwyd) y gellir mynd ag ef oddi ar y safle.
  • Costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â dosbarthu / casglu bwyd.
  • Treuliau ychwanegol ar gyfer gwirfoddolwyr.

Er mwyn sicrhau gwerth am arian, byddem yn disgwyl na fydd y gost fesul pryd yn fwy na £5 y pen.

Mae'r elfen hon o'r grant yn darparu cyllid refeniw yn unig.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Awst 2025.

3.  Sut i gyflwyno cais

Llenwch y ffurflen gais a chyflwynwch yr wybodaeth ychwanegol angenrheidiol sy'n ofynnol. Gall peidio â chyflwyno'r wybodaeth sy'n ofynnol arwain at oedi wrth asesu'ch cais neu gall y cais ddod yn anghymwys i'w ystyried.

4.  Lefelau ariannu

Hyn a hyn o arian sydd ar gaelasesir pob cais yn ôl ei haeddiant, gan gynnwys gwerth am arian.

Fel canllaw, byddem yn awgrymu bod yr chafswm y gallwch ofyn amdano ar gyfer pob cynllun fel a ganlyn:

PPI COAST - £5,000
50+ COAST - £5,000
Cronfa Bwyd yn ystod y Gwyliau - £2,000

Os hoffech drafod eich cais COAST cyn ei gyflwyno, neu os hoffech wneud cais am fwy na'r symiau a awgrymir uchod, e-bostwich GrantiauPaCh@abertawe.gov.uk

Os hoffech drafod eich cais am Fwyd yn ystod y Gwyliau cyn ei gyflwyno, neu os hoffech wneud cais am fwy na'r symiau a awgrymir uchod, e-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

5.  Dyddiadau cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Sul 15 Mehefin 2025, 11.59pm.

Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau hwn yn cael eu hystyried.

Asesir pob cais yn erbyn y meini prawf uchod gan banel sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r cyngor a'r trydydd sector. Bydd y panel yn chwilio am ystod amrywiol o weithgareddau hygyrch ar draws y ddinas sy'n cynnig gwerth am arian ac sy'n denu cynulleidfaoedd newydd i brofiadau newydd.

Os oes gormod o geisiadau na'r cyllid sydd ar gael, rhoddir blaenoriaeth i'r prosiectau hynny mewn ardaloedd lle mae angen penodol - nodweddion daearyddol a gwarchodedig.

Mae penderfyniad y Panel yn derfynol; ni chaiff apeliadau eu hystyried.

6.  Meini prawf y cais a'r asesiad

Caiff yr holl geisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf isod a bydd angen i ymgeiswyr arddangos y canlynol:

  • Statws sefydliadol / amcanion elusennol.
  • Y bydd y cyllid yn bodloni unrhyw angen / anghenion a nodwyd.
  • Tystiolaeth o angen.
  • Hygyrchedd a chyfleoedd cyfartal.
  • Dadansoddiad ariannol llawn o'r arian y cyflwynwyd cais amdano.
  • Gwerth am arian.

Caiff ceisiadau eu cymeradwyo ar gyfer grwpiau sy'n darparu ac yn meddu ar y canlynol yn unig:

  • Dogfennau neu gyfansoddiad llywodraethu cyfredol.
  • Cyfrif banc busnes priodol.
  • Cyfrifon archwiliedig - neu os yw'n grŵp newydd, cyfriflenni banc cyfredol.
  • Polisïau Diogelu priodol - Diogelwch Plant, Oedolyn Agored i Niwed, anabledd a / neu unrhyw ofynion diogelu priodol eraill.
  • Polisïau Corfforaethol priodol - Cydraddoldeb, Y Gymraeg, Amgylcheddol (COAST yn unig).

Cysylltwch â Chyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA) gydag unrhyw ymholiadau ynghylch y rhestr uchod. E-bostiwch  scvs@scvs.org.uk neu ffoniwch 01792 544400

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Mai 2025