Disgyblion yn ychwanegu lliw at ddatblygiad newydd yn Abertawe
Mae disgyblion o Ysgol Calon Lân yn Abertawe wedi bod yn gwneud eu marc ar un o brif brosiectau adfywio'r ddinas.


Yn ddiweddar, ymwelodd disgyblion o gampws Tŷ Dyfaty'r ysgol â datblygiad Y Storfa yng nghanol dinas Abertawe lle buon nhw'n cyfrannu at y gwaith paentio sy'n digwydd y tu mewn.
Mae disgwyl i hwb gwasanaethau cymunedol Y Storfa, a gyflwynir gan Gyngor Abertawe ac sy'n cael ei ddatblygu yn hen uned BHS ar Stryd Rhydychen, agor yn ddiweddarach eleni.
Bydd yn cynnwys gwasanaethau'r cyngor fel llyfrgell ganolog newydd, y Ganolfan Gyswllt, Opsiynau Tai, Dysgu Gydol Oes, Refeniw a Budd-daliadau, a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Disgwylir i denantiaid yr adeilad nad ydynt yn denantiaid y cyngor gynnwys Gyrfa Cymru, Cyngor ar Bopeth a Llyfrgell Glowyr De Cymru Prifysgol Abertawe.
Gan weithio ochr yn ochr â chwmni lleol Swansea Decorating Services, trefnwyd ymweliad Ysgol Calon Lân gan brif gontractwr Y Storfa, Keir Group, fel rhan o'u rhaglen buddion cymunedol.
Mae Kier Group yn Bartner Gwerthfawr Ysgol Gyrfa Cymru. Roedd yr ymweliad yn rhan o raglen barhaus o weithgareddau i ddarparu profiadau sy'n ymwneud â gyrfaoedd a gwaith.
Roedd staff addysgu'r ysgol hefyd yn bresennol, ynghyd â chynrychiolwyr Gyrfa Cymru.
Canmolwyd y prosiect gan athrawon o Ysgol Calon Lân am roi hwb i hyder y plant ac am ddarparu profiadau cyfoethog y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
Meddai Mark Saunders, o Ysgol Calon Lân, "Rhoddodd y profiad ymarferol hwn gyfle gwerthfawr i'm myfyrwyr ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, gan ddatblygu sgiliau newydd mewn lleoliad byd go iawn.
"Roedd y staff yn y lleoliad yn hynod groesawgar a chyfathrebon nhw'n dda â fy myfyrwyr, gan wneud y diwrnod yn bleserus ac yn addysgol.
"Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a fu'n rhan o hyn am gefnogi ein dysgwyr a helpu i wneud y prosiect hwn yn llwyddiant."
Mae arianwyr datblygiad Y Storfa'n cynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Ewch yma i gael rhagor o wybodaeth am Y Storfa, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin.