Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwelliannau ar y gweill i gastell hanesyddol

Mae cynlluniau i wneud Castell Ystumllwynarth hanesyddol Abertawe hyd yn oed yn fwy croesawgar i ymwelwyr wedi cymryd cam pwysig ymlaen.

Oystermouth Castle

Oystermouth Castle

Mae arian wedi'i sicrhau er mwyn cynnal astudiaeth dichonoldeb ar gyfer amrywiaeth o ddatblygiadau arloesol yn yr atyniad.

Gallai arwain at greu derbynfa, siop, cyfleusterau addysg, man arddangos a thoiled i ymwelwyr.

Sicrhawyd y grant gwerth £148,020 gan grŵp gwirfoddol Cyfeillion Castell Ystumllwynarth drwy gyfran Cyngor Abertawe o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sy'n rhan o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Meddai Cadeirydd Cyfeillion Castell Ystumllwynarth, Paul Lewis, "Bydd y grant hwn yn caniatáu i'n haelodau wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer y castell  a bydd yn sicrhau ei fod yn cyflawni ei botensial fel atyniad eiconig i ymwelwyr yn y Mwmbwls.

"Rydym am wella ein profiad i ymwelwyr a darparu amgylchedd dysgu gwell er lles addysg leol."

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Elliot King, "Rydym yn edrych ymlaen at weld sut bydd yr astudiaeth dichonoldeb hon yn helpu i arwain y ffordd ar gyfer cynlluniau cyffrous y grŵp."

Yn y cyfamser, mae'r castell, gyda'i golygfeydd panoramig o Fae Abertawe, bellach ar agor ar gyfer tymor y gwanwyn a'r haf.

Mae'r castell ar agor i'r cyhoedd rhwng 11am a 5pm bob dydd heblaw am ar ddydd Mawrth hyd at 30 Medi, a phob penwythnos ym mis Hydref.

Bydd tymor 2024 yn cynnig digwyddiadau sy'n addas i deuluoedd drwy gydol y flwyddyn hyd at y Nadolig.