Llyfrgell Ganolog Abertawe'n barod i symud i'r Storfa
Bydd Llyfrgell Ganolog Abertawe'n symud o'r Ganolfan Ddinesig i'r Storfa'n fuan, sef hwb gwasanaethau cymunedol newydd y ddinas sy'n datblygu'n gyflym yn yr hen uned BHS ar Stryd Rhydychen.


Mae'r symudiad yn garreg filltir pwysig yn rhaglen adfywio canol y ddinas Cyngor Abertawe werth £1bn, a bydd Y Storfa'n cyflwyno amrywiaeth eang o wasanaethau dan yr unto, gan gynnwys llyfrgell ganolog newydd, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Opsiynau Tai, Gyrfa Cymru, Cyngor ar Bopeth a Llyfrgell Glowyr De Cymru.
Bydd y llyfrgell ganolog bresennol yn y Ganolfan Ddinesig ar gau o ddydd Llun 20 Hydref er mwyn rhoi'r cyfle i staff baratoi cyn symud. Bydd y llyfrgell newydd yn Y Storfa'n agor yn ddiweddarach eleni, a chaiff yr union ddyddiad ei gadarnhau'n fuan.
Nid oes unrhyw newidiadau ar ddod ar gyfer gwasanaethau eraill y cyngor sydd wedi'u lleoli yn y Ganolfan Ddinesig ar hyn o bryd.
Meddai'r Cyng. Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, "Bydd Y Storfa'n cynnig Llyfrgell Ganolog groesawgar a modern yng nghanol y ddinas i breswylwyr gan ei wneud yn haws nag erioed o'r blaen i gael mynediad at lyfrau, adnoddau digidol ac amrywiaeth o wasanaethau mewn un lle.
"Mae'r symudiad yn rhan allweddol o'n cynlluniau adfywio ehangach sy'n trawsnewid Abertawe ar gyfer y dyfodol."
Yn ystod y cyfnod pontio bydd aelodau'r llyfrgell yn gallu parhau i ddefnyddio'r 16 o lyfrgelloedd cymunedol eraill ar draws dinas Abertawe.
Gallwch ddychwelyd eitemau a fenthycwyd yn y llyfrgelloedd hyn, a bydd gwasanaethau ar-lein - gan gynnwys e-lyfrau, llyfrau llafar a chylchgronau digidol - yn parhau i fod ar gael 24/7.
Bydd digwyddiadau fel amser rhigwm, grwpiau darllen a sesiynau cefnogaeth ddigidol hefyd ar gael yn y llyfrgelloedd cymunedol. Caiff yr holl aelodau presennol eu trosglwyddo'n awtomatig i'r Llyfrgell Ganolog newydd yn y Storfa a chaiff cyfnodau benthyca eu hymestyn i gefnogi cwsmeriaid wrth i'r llyfrgell fod ar gau.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r symudiad i'r Storfa yn golygu mwy na adleoli gwasanaethau'n unig, bydd yn creu canolbwynt lle gall pobl ddod i ddysgu, cael mynediad at gefnogaeth a dod at ei gilydd fel cymuned.
"Bydd hefyd yn cyfuno â nifer o gynlluniau eraill i gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas er mwyn denu rhagor o siopau a busnesau eraill.
"Ar yr un pryd, mae'n rhoi'r cyfle i ni wneud cynnydd gyda chynlluniau ailddatblygu cyffrous ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig mewn partneriaeth ag Urban Splash.
"Mae'r gwaith i adfywio Abertawe'n symud ymlaen yn gyflym ac mae'r Storfa'n rhan hanfodol o'r gwaith hwnnw."
Caiff y diweddaraf am y symudiad i'r llyfrgell, dyddiadau agor a threfniadau pontio eu rhannu ar wefan Cyngor Abertawe ac ar gyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe.