Arddangosiad coginio am ddim yn y farchnad gyda phen-cogydd o fri
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd cyfle i'r rhai sy'n dwlu ar fwyd gael blas ar ddigwyddiad coginio byw arbennig yng nghwmni Jonathan Woolway ym Marchnad Abertawe.


Rhwng 11am a 12.30pm ddydd Gwener 10 Hydref, gall ymwelwyr wylio hen ben-cogydd gweithredol bwyty clodwiw St John yn Llundain yn arddangos ei sgiliau mewn cyfres o arddangosiadau coginio am ddim.
Gan ddefnyddio cynnyrch masnachwyr y farchnad, bydd Jonathan yn paratoi ac yn rhannu prydau sy'n tynnu sylw at ansawdd ac amrywiaeth y cynhwysion sydd ar gael yng nghanol Abertawe.
Bydd Jonathan, sydd wedi dychwelyd i Abertawe yn ddiweddar i agor ei fwyty ei hun, The Shed, yn SA1 hefyd yn rhannu mewnwelediadau o'i gyfnod yn un o fwytai enwocaf Llundain.
Mae'r arddangosiad yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac yn cael ei drefnu gan dimau cymorth busnes y cyngor a thimau'r farchnad.
Mae'n rhan o waith parhaus y cyngor i gefnogi busnesau lleol, hyrwyddo diwylliant bwyd ffyniannus Abertawe a denu mwy o ymwelwyr i ganol y ddinas.
Meddai'r Cynghorydd David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Gyflwyno, "Rydym yn falch iawn o groesawu Jonathan i'r farchnad ar gyfer y digwyddiad cyffrous hwn.
"Marchnad Abertawe yw un o drysorau ein dinas; mae'n cefnogi busnesau lleol ac yn arddangos y cynnyrch gorau o Gymru. Mae hefyd yn enghraifft wych o'n timau cymorth busnes a'r farchnad yn gweithio'n agos gyda'i gilydd er budd pobl leol a stondinwyr y farchnad.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn dathlu ein treftadaeth, ein masnachwyr a'n dyfodol, ac rydym yn annog cynifer o bobl â phosib i ddod draw i'w mwynhau."
Gyda thros 100 o stondinau sy'n cynnig popeth o gig a physgod ffres i gynnyrch artisan, mae'r farchnad wedi'i chydnabod yn genedlaethol fel marchnad dan do fawr orau Prydain.
Mae'r farchnad yn parhau i ddenu miloedd o siopwyr bob wythnos ac mae'n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi masnachwyr annibynnol.