Cam ymlaen i gynllun swyddfeydd a fydd yn ysgogi pobl i ddod i ganol y ddinas
Mae cynlluniau ar gyfer datblygiad swyddfeydd newydd allweddol a fydd yn ysgogi pobl i ddod i ganol dinas Abertawe a gwario arian wedi cymryd cam arall ymlaen.


Mae Cyngor Abertawe wedi penodi Andrew Scott Ltd i lunio dyluniadau manwl a phrofi'r farchnad i sicrhau gwerth gorau ar gyfer y cynllun, a fwriedir ar gyfer ardal gerllaw hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant.
Bydd y datblygiad pum llawr yn darparu ar gyfer 800 o bobl, ac yn cynnwys cymysgedd o swyddfeydd o safon ar y lloriau uchaf. Byddai cyfleusterau masnachol, gan gynnwys arlwy bwyd a diod neu hamdden o bosib, ar y llawr gwaelod.
Byddai'r cyngor yn defnyddio un llawr yn y datblygiad swyddfeydd newydd, gyda gweddill y swyddfeydd yn cael eu rhannu rhwng cyrff sector cyhoeddus eraill a busnesau'r sector preifat.
Bydd Cyngor Abertawe'n datblygu'r adeilad ar y cyd ag Urban Splash, ei bartner datblygu, a RivingtonHark, y rheolwr datblygu.
Bydd yr adeilad, sy'n rhan o'r gwaith adfywio cyffredinol ar hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant, yn eiddo i'r cyngor o hyd.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn gwybod bod pobl leol am i ganol y ddinas fod yn fwy bywiog a chynnig mwy o siopau, ond dim ond drwy ddenu mwy o ymwelwyr i greu'r gwariant angenrheidiol i annog manwerthwyr i fuddsoddi y bydd hynny'n digwydd.
"Bydd y cynllun swyddfeydd hwn yn cyfuno â llawer o brosiectau eraill i ddenu'r ymwelwyr hynny, yn ogystal â galluogi safle'r Ganolfan Ddinesig ar lan y môr i gael ei ailddatblygu.
"Bydd yn rhan o ddatblygiad ehangach a fydd yn adfywio hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant yn gyffredinol drwy gymysgedd o swyddfeydd, siopau, bwytai a llawer o fannau gwyrdd.
"Cyhoeddir rhagor o gynlluniau ar gyfer y safle i gael adborth gan y cyhoedd maes o law."
Meddai Mark Bowen, Rheolwr Gyfarwyddwr Andrew Scott Ltd, "Mae'n bleser i ni gael ein penodi i wneud y gwaith cyn adeiladu ar y datblygiad mawr hwn yn Abertawe.
"Yn ogystal ag arddangos dyluniad modern a chynaliadwy, bydd yn sbarduno rhagor o waith adfywio yng nghanol y ddinas.
"Mae'n destun balchder i ni helpu Cyngor Abertawe i gyflawni cynllun a fydd yn ysgogi twf economaidd, yn hyrwyddo cyfrifoldeb amgylcheddol ac yn cynnig man deinamig i fusnesau a'r gymuned."
Bydd gwaith adeiladu'r cynllun swyddfeydd yn dechrau yng ngwanwyn 2026 a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn haf 2027.
Bydd y cynllun, a ddyluniwyd gan shedkm, yn ymgorffori to glas at ddibenion draenio trefol cynaliadwy a tho gwyrdd dwys i hybu bioamrywiaeth, a bydd yn cyflawni targedau o ran mannau gwyrdd, a phaneli ffotofoltäig i leihau allyriadau carbon.