Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Arweinwyr busnes Abertawe'n cefnogi'r gwaith i adfywio canol y ddinas

Mae arweinwyr busnes Abertawe'n cefnogi'r gwaith gwerth miliynau o bunnoedd sy'n digwydd ar hyn o bryd i adfywio canol y ddinas.

View of Swansea and the Bay from Kilvey Hill

View of Swansea and the Bay from Kilvey Hill

Dywed Alan Brayley, Rheolwr Gyfarwyddwr AB Glass, a Natasha Fulford, Rheolwr Gyfarwyddwr MGB Communications, fod graddfa'r gwaith adfywio'n creu cyfleoedd i fusnesau lleol ac yn cynhyrchu canol dinas gwell i breswylwyr lleol ac ymwelwyr â'r ddinas.

Mae Cyngor Abertawe'n arwain ar sawl cynllun adfywio mawr, gan gynnwys ardal cam un Bae Copr sy'n werth £135m. Mae'r cyngor hefyd yn arwain y ffordd ar y gwaith gwerth £12 miliwn i drawsnewid Ffordd y Brenin yn amgylchedd gwyrddach a mwy pleserus, ynghyd â phrosiect gwerth £3m i wneud Wind Street yn gyrchfan mwy addas i deuluoedd.

Meddai Alan sydd hefyd yn llywydd Clwb Busnes Bae Abertawe, "Rwy'n croesawu'r holl waith adfywio sy'n parhau i ddigwydd yn ein dinas, diolch i gyngor dynamig, cyfoes ei feddwl, a'i bartneriaid datblygu.  

"Yr hyn sy'n arbennig o galonogol yw'r cyfleoedd i fusnesau lleol elwa o'r gwaith adfywio hyn drwy gaffael, sydd o bwys enfawr i'r economi leol.

"Mae'r holl gynnydd a wnaed drwy gydol y pandemig wedi creu argraff arnom. Mae datblygiad Bae Copr yn rhoi ymdeimlad o obaith i gymuned fusnes y ddinas, ac mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn newid pethau'n sylweddol i'r rhanbarth gyfan sydd wedi rhoi hwb i hyder.

"Nid siarad mo'r cynlluniau adfywio mwyach - maen nhw'n digwydd mewn difrif, ac mae'r ddinas a'r dinas-ranbarth ehangach ar y trywydd iawn.

"Rwy'n credu bod y bont sy'n cysylltu canol y ddinas ag Arena Abertawe sy'n cael ei chodi nawr yn wych - mae'n gyfoes ac yn dra modern. Mae'r mannau gwyrdd ar Ffordd y Brenin hefyd yn dechrau dod yn fyw, ac mae'r cynllun a'r golwg newydd yn creu naws gyfandirol.

"Mae hefyd yn galonogol gweld faint o lety i fyfyrwyr sy'n cael ei ddatblygu yn y ddinas, sy'n adeiladu ar gryfder ein prifysgolion o'r radd flaenaf a'u campysau newydd ar y glannau. Mae gwaith adeiladu fel hyn yn rhoi cyfleoedd cadwyni cyflenwi i fusnesau lleol a hefyd yn golygu bod mwy o bobl yn dod i ganol y ddinas. Bydd hyn yn cynhyrchu mwy o wariant yn ein busnesau presennol, wrth annog rhagor o fusnesau fel caffis a bwytai i agor yno yn y dyfodol."

Meddai Natasha, "Fel cyd-berchennog un o'r asiantaethau cyfathrebu mwyaf hir-sefydlog yn Abertawe, sydd yng nghanol y gwaith adfywio cyfredol, mae'r ffordd y mae datblygiadau Bae Copr, Ffordd y Brenin a Wind Street wedi dod yn eu blaen wedi creu argraff arnaf.

"Rwyf wedi byw a gweithio yn Abertawe am y rhan fwyaf o'm bywyd ac rwy'n falch o wneud hynny, ond ni fu erioed amser mor gyffrous i fod yn rhan o stori Abertawe. Fel nifer o fusnesau lleol, mae MGB yn ymroddedig i ddyfodol tymor hir yng nghanol dinas Abertawe ac mae ei gweld yn dod i'r amlwg fel dinas llawn hyder, sy'n barod ar gyfer rhagor o fuddsoddiad, yn meithrin hyder ynom mai dyma'r penderfyniad iawn i ni fel cwmni."

Mae cynlluniau eraill sydd ar ddod yng nghanol dinas Abertawe'n cynnwys adeiladu datblygiad swyddfeydd uwch-dechnoleg yn 71/72 Ffordd y Brenin. Bydd gwaith yn dechrau cyn bo hir ar y cynllun hwn, a arweinir gan y cyngor ac a ariennir yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi.

Close Dewis iaith