Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith wedi'i gwblhau ym mharc sglefrio cymdogaeth Coed Bach

Mae parc sglefrio cymdogaeth wedi'i uwchraddio yng Nghoed Bach ym Mhontarddulais bellach ar agor ac yn barod i'w ddefnyddio. Bydd yn hwb pellach i sglefrfyrddwyr, beicwyr BMX a selogion chwaraeon olwynog eraill lleol.

Skateboarding

Skateboarding

Mae'r cyfleuster newydd yn rhan o ymrwymiad Cyngor Abertawe i fuddsoddi £2.8m mewn parciau sglefrio mewn cymdogaethau ar draws y ddinas drwy weithio mewn partneriaeth agos â chymunedau lleol a chwmni dylunio arbenigol o'r enw Curve Studio.

Mae'r cyfleuster concrit newydd ym Mharc Coed Bach sy'n goch, gwyrdd a llwyd yn disodli hen ramp metel a oedd yn y parc yn flaenorol.

Coed Bach skating

Mae gwaith hefyd wedi dechrau i wneud gwelliannau i'r parc sglefrio presennol ym Melin Mynach yng Ngorseinon. Bydd hyn yn cynnwys adeiladu llwybr pwmpio newydd i feicwyr BMX dibrofiad ac iau.

Mae cynlluniau'r cyngor yn golygu na fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o bobl deithio mwy na dwy filltir i gyrraedd parc sglefrfyrddio neu gyfleuster chwaraeon olwynog a ailddatblygwyd unwaith y bydd y buddsoddiad wedi'i gwblhau.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae sglefrfyrddio, beicio BMX a chwaraeon olwynog eraill yn boblogaidd iawn yn Abertawe, ond mae nifer o'n pobl ifanc wedi gorfod defnyddio cyfleusterau o safon mewn mannau eraill er mwyn dilyn eu diddordebau yn ddiweddar oherwydd nad oedd safon y cyfleusterau yma yn ddigon da.

"Dyma pam rydym yn buddsoddi bron £3m mewn parciau sglefrio mewn cymdogaethau ar draws y ddinas oherwydd bydd yn helpu i ateb y galw wrth hefyd godi proffil Abertawe fel un o gyrchfannau gorau'r DU ar gyfer chwaraeon olwynog."

Mae safleoedd eraill a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer gwelliannau i barciau sglefrio mewn cymdogaethau yn cynnwys Parc Fictoria, Mynydd Newydd ym Mhen-lan a Chanolfan y Ffenics yn Townhill. Bydd y llwybr pwmpio presennol yn Nyffryn Clun hefyd yn cael ei ailwampio. 

Bydd manylion ynghylch pryd y bydd y gwaith gwella yn dechrau ar y safleoedd hynny - yn ogystal â gwybodaeth am safleoedd eraill a fydd yn elwa - yn cael eu cyhoeddi yn y man.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Ebrill 2025