Celfweithiau anferth newydd yn dod â mwy o ddifyrrwch i Abertawe
Mae celf gyhoeddus newydd drawiadol yn helpu i ddod â mwy o ddifyrrwch i'ch ymweliad â pharc yng nghanol y ddinas a lleoliad diwylliannol gorau Abertawe.


Mae dau furlun ar raddfa fawr wedi'u hychwanegu at waliau mewnol maes parcio De Bae Copr sy'n cael ei ddefnyddio gan filoedd o bobl sy'n mwynhau ymweld â pharc Amy Dillwyn a digwyddiadau yn Arena Swansea Building Society.
Mae un yn dangos y ddeuawd roc, Royal Blood, sef y band cyntaf i berfformio mewn digwyddiad yn yr arena lle'r oedd angen prynu tocyn ar ei gyfer yn 2022, ar ôl iddi gynnal digwyddiad House Party a oedd yn cynnwys bandiau newydd a sefydledig o Gymru.Mae House Party bellach yn ddigwyddiad blynyddol.
Mae'r llall yn dathlu Amy Dillwyn, nofelydd, cymwynaswr cymdeithasol a diwydiannwr o Abertawe. Mae'r parc poblogaidd ar ben y maes parcio wedi'i enwi ar ei hôl.
Dyluniwyd a phaentiwyd y murluniau, y mae pob un yn fwy na 2.5m o uchder a thua 8.5m o hyd, gan yr artist graffiti, RMER, o dde Cymru ar y cyd â busnes Oner Signs o Abertawe a Chyngor Abertawe.
Nod y gwaith yw gwella golwg y maes parcio, gwella profiad defnyddwyr y maes parcio a chreu celf sy'n adlewyrchu'r ardal gyfagos.
Meddai Elliott King, aelod o Gabinet y cyngor, "Mae'r darnau newydd o gelf gyhoeddus yn gwneud ymweliad â'r parc, yr arena a chanol y ddinas hyd yn oed yn fwy pleserus."
Meddai RMER, "Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio gydag Oner Signs a'r cyngor ar y comisiwn cyffrous hwn."
Meddai Ronny Oner o Oner Signs, "Rydym yn gobeithio y bydd ein celf yn rhan gofiadwy o'r diwrnod ar gyfer y rhai sy'n ymweld â'r parc neu'n dod i ddigwyddiad."
Mewn mannau eraill yn natblygiad Bae Copr, mae'r cyngor yn gweithio ochr yn ochr â chontractwyr i gwblhau maes parcio Gogledd Bae Copr a gwaith arall. Mae hyn o ganlyniad i gontractwr gwreiddiol y cynllun yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Llun: Elliott King, aelod Cabinet y cyngor, ger y murluniau newydd gyda Ronny Oner a Ryan Lewis o Oner Signs.