Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cronfa Ymddiriedolaeth Deddf y Degwm Abertawe

Mae'r gronfa hon yn agored i'r holl grwpiau gwirfoddol, elusennol neu lesiannol yn Abertawe neu y mae nifer sylweddol o'r defnyddwyr yn ardal Abertawe. Mae'r grantiau a roddir i'r ymgeiswyr llwyddiannus hyd at uchafswm o £5,000.

Yn anffodus, nid yw'r gronfa yn agored i unigolion neu grwpiau nad ydynt yn gweithio yn ardal Abertawe.

Mae eglwysi, capeli a mannau eraill o addoli yn Abertawe hefyd yn gymwys, fodd bynnag mae'r grwpiau hyn yn gyfyngedig i geisiadau ar gyfer adeiladau neu waith cyfalaf arall, a'r uchafswm grant a ddyfernir yn gyffredinol yw £1,000.

Yr ymddiriedolaeth

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Deddf y Degwm Cymru drwy enillion ac asedau datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Dosbarthwyd yr asedau hyn yn gyfartal rhwng yr hen gynghorau sir yng Nghymru, ac yna fe'u rhannwyd rhwng Awdurdodau Unedol Cymru pan gawsant eu ffurfio ym 1996.

Rydym yn gweinyddu'r gronfa, a dewisir ymddiriedolwyr y gronfa o aelodau etholedig y cyngor. Mae'r ymddiriedolwyr yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn, yn y gwanwyn a'r hydref. Mae ceisiadau'n cael eu derbyn ar unrhyw adeg a byddant yn cael eu hasesu yn y cyfarfod nesaf.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

  • Sefydliadau elusennol neu wirfoddol neu rheini sydd ag amcanion elusennol
  • Sefydliadau newydd y mae angen arian 'sbarduno' arnynt i ddechrau gwasanaeth y mae galw amlwg amdano
  • Sefydliadau a fydd yn darparu gwasanaeth newydd a blaengar y mae galw amlwg amdano
  • Sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau sy'n ategu nodau ac amcanion Dinas a Sir Abertawe
  • Eglwysi, ar gyfer prosiectau cyfalaf yn unig
  • Ni fydd grwpiau sydd wedi derbyn arian o'r blaen gan yr ymddiriedolaeth yn gymwys i ailymgeisio am dair blynedd wedi dyddiad y cymeradwyo.

Ar wahân i geisiadau gan Eglwysi, rhoddir y flaenoriaeth fel arfer i gynlluniau a gyllidir drwy refeniw. Serch hynny, rhoddir ystyriaeth i gynlluniau cyfalaf, yn enwedig os ydynt yn gallu dangos y canlynol:

  • Bod arian cyfalaf arall wedi'i sicrhau eisoes neu'n destun cais am arian ychwanegol
  • ​Bydd Cronfa'r Degwm hefyd yn cael ei defnyddio i ariannu ffynonellau eraill o ariannu e.e. y Loteri, arian Ewropeaidd neu gronfeydd eraill

Ni fydd sefydliadau sy'n ceisio arian i dalu dyledion yn gymwys fel arfer nac unigolion sy'n ceisio arian at ddibenion addysgol, nawdd neu roddion elusennol.

Sut mae gwneud cais

Rhaid i'r holl ymgeiswyr gwblhau  Ffurflen gais Cronfa ymddiriedolaeth Deddf y Degwm (Word doc) [188KB] a darparu'r wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani gan yr ymddiriedolwyr cyn i ni asesu eich cais.

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani - bydd methu â gwneud hynny'n golygu oedi wrth asesu neu'r cais bellach yn anghymwys.

E-bostiwch eich ffurflen gais orffenedig i Spencer Martin

Maint y symiau

Yr uchafswm grant a roddir fel arfer yw:

  • £5,000 i grwpiau cymunedol
  • £1,000 ar gyfer atgyweirio adeiladau Eglwysi.

Sut caiff y ceisiadau eu hasesu?

Bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl yr un meini prawf a bydd gofyn i'r ymgeiswyr brofi, lle bo hynny'n briodol,

  • Eu statws elusennol/amcanion elusennol
  • Trefniadau cyfansoddiadol, ariannol a gweinyddol boddhaol
  • Gwybodaeth ariannol gyflawn gan gynnwys incwm a gwariant, a ffynonellau cyllid  eraill
  • Y bydd yr arian yn cefnogi darparu gwasanaeth lleol i drigolion Abertawe
  • Eu bod yn gweithredu polisi cyfle cyfartal
  • Y galw am brosiect o'r fath

Asesir yr holl geisiadau gan dîm sy'n cynnwys swyddogion yr awdurdod lleol a fydd yn darparu crynodeb o'r wybodaeth berthnasol i'r pwyllgor ac yn cyflwyno argymhellion i Ymddiriedolwyr Cronfa'r Degwm.

Mae Pwyllgor yr Ymddiriedolwyr yn cynnwys Aelodau lleol ac mae'n cyfarfod yn ôl y galw.  

Bydd penderfyniad yr Ymddiriedolwyr yn derfynol.

Dyddiadau cau

Nid oes dyddiadau cau penodol ar gyfer ceisiadau. Os oes digon o arian ar gael, mae'r panel ymddiriedolwyr yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn. Bydd y ceisiadau a dderbynnir yn cael eu cyflwyno gerbron y panel perthnasol nesaf.

Spencer Martin

Enw
Spencer Martin
Teitl y Swydd
Tîm Partneriaeth
Rhif ffôn
01792 636734
Rhif ffôn symudol
07976 899384
Close Dewis iaith