Cwestiynau cyffredin am oleuadau traffig/arwyddion ffordd
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am oleuadau traffig/arwyddion ffordd.
Sawl system goleuadau traffig y mae Cyngor Abertawe'n berchen arni ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu 105 o gyffyrdd arwyddion traffig a 106 o groesfannau i gerddwyr.
Faint mae wedi costio bob blwyddyn i gynnal, cadw ac atgyweirio'r goleuadau traffig parhaol?
2020/21 | 2019/20 | 2018/19 | 2017/18 | 2016/17 | 2015/16 | |
---|---|---|---|---|---|---|
Goleuadau traffig (trydan a chyfathrebu) | £148,000 | £164,800 | £153,000 | £127,000 | £122,300 | £124,100 |
Cynnal a chadw goleuadau traffig | £125,700 | £146,500 | £138,600 | £112,600 | £137,800 | £145,300 |
Mae costau gweithredu, cynnal a chadw hefyd yn cynnwys arwyddion sy'n ymateb i gyflymder ceir (81 o safleoedd), systemau rheoli mynediad (8 safle) a gwariant sy'n darparu gwasanaethau cynnal a chadw i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Nid yw hyn yn cynnwys costau staff.