Cwestiynau cyffredin am oleuadau traffig/arwyddion ffordd
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am oleuadau traffig/arwyddion ffordd.
Sawl system goleuadau traffig y mae Cyngor Abertawe'n berchen arni ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd rydym yn gweithredu 130 o gyffyrdd arwyddion traffig a 188 o groesfannau i gerddwyr gan gynnwys y rheini a weithredir ac a gynhelir ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Faint mae wedi costio bob blwyddyn i gynnal, cadw ac atgyweirio'r goleuadau traffig parhaol?
2024/25 | 2023/24 | 2022/23 | 2021/22 | 2020/21 | |
---|---|---|---|---|---|
Goleuadau traffig (trydan a chyfathrebu) | £262,023 | £264,467 | £181,568 | £156,176 | £148,000 |
Cynnal a chadw goleuadau traffig | £145,278 | £137,200 | £120,435 | £152,245 | £125,700 |
Mae costau gweithredu a chynnal a chadw hefyd yn cynnwys systemau rheoli mynediad (7 safle) a'r gost o ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Nid yw hyn yn cynnwys costau staff.