Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin - Llety Byw'n Annibynnol

Cwestiynau cyffredin am lety byw'n annibynnol.

Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn cael cynnig eiddo byw'n annibynnol?

Pan gewch gynnig eiddo byw'n annibynnol, bydd swyddog y gymdogaeth yn trefnu i gwrdd â chi a chyflwyno'r eiddo i chi a'ch cyflwyno i'r warden. Gall y warden ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch symud i gynllun lloches, a bydd yn gallu cynnig cyngor a chymorth i chi.

Pa mor ddiogel yw'r cyfadeilad?

Mae'r warden yn gyfrifol am sicrhau bod y cyfadeilad yn amgylchedd diogel i chi fyw ynddo, ac i'ch ffrindiau a'ch perthnasau ymweld ag ef. Eich cyfrifoldeb chi yw diogelwch eich llety unigol. Bydd y warden yn gallu cynnig cyngor am fesurau diogelwch y gallwch eu cymryd er mwyn i chi deimlo'n fwy diogel yn eich cartref.

Byddwch yn talu am yswiriant adeiladau yn eich rhent. Cynghorir i chi brynu yswiriant cynnwys i ddiogelu'ch pethau personol.

A fydd y warden yn ymweld â mi?

Gall warden dynodedig ymweld â'i holl denantiaid byw'n annibynnol yn rheolaidd yn ystod oriau gwaith arferol o ddydd Llun i ddydd Gwener. Y warden fydd yn penderfynu ar amlder yr ymweliadau, gan ddibynnu ar eich anghenion cefnogaeth. Bydd y warden yn cwblhau cynllun cefnogaeth, fel arfer yn flynyddol, er mwyn nodi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

Ar benwythnosau a gwyliau banc, cynorthwywyr gofal a gyflogir gan April Care Solutions fydd yn cynnal yr ymweliadau. Bydd y warden yn asesu a oes angen cefnogaeth am yr ymweliadau hyn fel rhan o'r broses cynllunio cefnogaeth.

Mae ymweliad y warden yn elfen bwysig o'r gefnogaeth y gallwn ei rhoi i chi. Bydd yr ymweliad gan y warden yn:

  • galluogi'r warden i wirio'ch iechyd a'ch lles cyffredinol
  • eich sicrhau a thawelu'ch meddwl
  • rhoi ffordd i chi adrodd am bryderon a chael cyngor a chymorth gan asiantaethau eraill

Bydd swm a lefel y gefnogaeth yn cael eu pennu'n ôl eich anghenion. Mae'r staff yno i'ch cefnogi i allu byw bywyd annibynnol.

Fodd bynnag, ni fydd y warden yn glanhau, yn coginio, yn rhoi meddyginiaeth, yn rhoi gofal personol etc.

A fydd y warden yn gallu dod i'm tŷ heb ganiatâd?

Ni fydd y warden yn rhoi allwedd eich tŷ i unrhyw un oni bai eu bod nhw ar restr eich 'deiliaid allweddi' dynodedig. Fodd bynnag, gallwch roi allwedd i bwy bynnag yr hoffech.

Nid yw cael mynediad i gartref rhywun yn rhywbeth y mae unrhyw aelod o staff Cyngor Abertawe yn ei ystyried yn ddibwys. Bydd y warden ond yn ystyried mynd i mewn i'ch cartref os yw pob gwiriad arall wedi methu. Gall y warden ond ddod i'ch cartref pan ac os oes pryder uniongyrchol i'ch diogelwch a'ch lles. Gall adegau o'r fath gynnwys:

  • pan ellir gweld tenant drwy ffenestr neu flwch llythyrau ac mae'n analluog neu'n cael anawsterau difrifol.
  • pan fydd naill ai cymydog neu berthynas yn hysbysu'r warden fod ganddynt bryderon difrifol am eich lles.

A oes gan y cyfadeiladau unrhyw le i berthnasau aros os ydynt yn ymweld â mi dros nos?

Mae gan rai cyfadeiladau ystafelloedd i westeion y gellir eu rhyddhau ar gyfer ymwelwyr neu berthnasau tenant lloches y mae'n rhaid iddynt aros dros nos oherwydd salwch tenant neu oherwydd eu bod yn byw'n rhy bell i deithio. Byddwn yn codi tâl am yr ystafell. Os bydd angen defnyddio'r ystafell westeion ar frys ac nid oes un ar gael yn y cyfadeilad yr ydych yn byw ynddo, gellir gwneud ymholiadau mewn cyfadeiladau cyfagos.

Beth yw'r system larwm argyfwng?

Mae gan ein holl eiddo byw'n annibynnol system larwm argyfwng sy'n cynnwys cortyn tynnu ac intercom a osodir yn eich eiddo ac ym mhob ardal gymunedol. Gellir defnyddio'r rhain mewn argyfwng ar unrhyw adeg o'r dydd a'r nos. Os bydd y larwm yn cael ei ddefnyddio, bydd yr alwad yn mynd i'r warden yn uniongyrchol os yw e ar ddyletswydd. Pan na fydd y warden ar gael, bydd yr alwad yn cael ei hateb gan Careline a fydd yn gyrru help atoch. Gall y tenantiaid mwyaf diamddiffyn ac ansymudol hefyd wisgo cadwyn 'galw'r warden' am eu gwddf neu arddwrn er mwyn galw am help pan fydd angen. Bydd eich warden yn asesu a ydych yn gymwys am un o'r rhain.

Sut gallaf drefnu gwaith atgyweirio?

Dylid adrodd am unrhyw waith atgyweirio sy'n angenrheidiol yn eich eiddo wrth y Ganolfan Cyswllt Atgyweiriadau drwy ffonio 01792 635100 rhwng 8.30am a 5.00pm ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.30am a 4.30pm ar ddydd Gwener, neu i'ch warden a fydd yn adrodd amdano ar eich rhan. Dylid ffonio 01792 521500 am unrhyw atgyweiriadau brys y tu allan i'r oriau hyn.

A oes gan y cyfadeiladau unrhyw weithgareddau cymdeithasol?

Bydd y warden yn annog ac yn helpu tenantiaid i drefnu gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol i'r tenantiaid eraill. Gellir hefyd drefnu gweithgareddau ar y cyd rhwng cyfadeiladau hefyd. Mae amrywiaeth y gweithgareddau'n cynnwys: boreau coffi, bingo, teithiau i'r theatr, sgyrsiau a seminarau, nosweithiau thema a grwpiau diddordebau etc. Anogir tenantiaid i ymuno oherwydd gall hyn leihau unrhyw deimlad o unigrwydd ac mae'n meithrin ymdeimlad o gymuned gref. Fodd bynnag, nid oes rhaid i denantiaid gymryd rhan os nad ydyn nhw am wneud hynny.

Sut gallaf orffen tenantiaeth byw'n annibynnol?

Ewch i: Gadael tai'r cyngor

Beth os oes angen help arall arnaf?

Efallai gall y Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig cymorth i'ch helpu i fyw yn eich cartref eich hun yn fwy annibynnol. Maent yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, sy'n cynnwys:

  • gofal cartref neu ofal domestig preifat yn y cartref
  • cyfarpar arbenigol i chi ei ddefnyddio yn eich cartref
  • cyngor a gwybodaeth

Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC)

Close Dewis iaith