Tai
O dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, gelwir tenantiaid bellach yn ddeiliaid contract. Byddwn yn defnyddio'r term deiliaid contract mewn dogfennau a chyfathrebiadau ffurfiol a chyfreithiol. Fodd bynnag, yn ein gwybodaeth gyffredinol (gan gynnwys ar y wefan) byddwn yn cyfeirio at ddeiliaid contract fel tenantiaid o hyd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y newidiadau, ffoniwch: eich Swyddfa Dai Ardal; Alison Winter (Swyddog Cyfranogiad Tenantiaid) ar 01792 635043 | 07775221453; neu e-bostiwch housing@abertawe.gov.uk
Oes angen cymorth arnoch gyda chostau byw? Cymerwch gip ar ein tudalennau cymorth costau byw: Cymorth Costau Byw