Cysylltiadau cymorth a chyngor yr adran tai
Gallwn ddarparu ystod eang o gymorth a chyngor, p'un a ydych yn denant y cyngor ai peidio.
Yr Uned Cefnogi Tenantiaid
Mae'r Uned Cefnogi Tenantiaid yn darparu cefnogaeth a chyngor sy'n ymwneud â thai i berchnogion tai, tenantiaid cymdeithasau tai, tenantiaid cyngor a'r rheini sy'n rhentu o'r sector preifat.
Opsiynau Tai
Rydym yn ceisio atal digartrefedd lle bo'n bosib. Gallwn wneud hyn drwy'ch helpu i aros lle'r ydych yn y tymor hir neu drwy'ch helpu i aros lle'r ydych nes i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw.
Ymholiadau cyffredinol am dai
Rhowch wybod i ni a oes gennych ymholiad penodol am dai neu os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth neu'r cyswllt rydych chi'n chwilio amdano ar-lein.
Swyddfeydd tai ardal
Manylion cyswllt, lleoliadau, cyfleusterau a gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer ein swyddfeydd tai ardal.
Swyddogion cymdogaethau
Mae gan bob tenant y cyngor Swyddog Cymdogaeth wedi'i glustnodi a fydd yn eich helpu gyda'ch tenantiaeth ac yn goruchwylio'r ardal lle rydych yn byw.
Uned Cefnogi Cymdogaethau
Mae'r Uned Cefnogi Cymdogaethau yn darparu gwasanaeth landlordiaid 24 awr ar ein stadau.
Tîm Grantiau Tai
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am grantiau tai os na allwch ddod o hyd iddi ar ein gwedudalennau.
Swyddog Lesddaliad
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am brydlesu eiddo'r cyngor a ni allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano ar-lein, gallwch gysylltu â ni'n uniongyrchol.
Tîm Rhenti
Os oes gennych chi ymholiad ynghylch talu eich rhent, gallwch gysylltu â'r Tîm Rhenti.
Tîm tenantiaeth wedi'i dodrefnu
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am denantiaeth wedi'i dodrefnu bresennol, os hoffech adael sylw am y gwasanaeth neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, rhowch wybod i ni.
Adborth a sylwadau am y gwasanaeth tai
Rhowch wybod i ni am eich barn am y gwasanaeth rydych wedi'i dderbyn neu os ydych yn meddwl y gallwn wneud unrhyw welliannau.
Cyngor a chefnogaeth bellach ar dai
Sefydliadau eraill a all helpu gyda materion tai.
Gostyngiad Budd-dal Tai a Threth y Cyngor
Os ydych chi ar incwm isel efallai y gallwch wneud cais am Fudd-dal Tai i'ch helpu gyda chostau rhent a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor er mwyn helpu gyda chostau treth y cyngor.
Cyngor ar ddyledion
Cefnogaeth a chyngor am ddim ar reoli dyled i bobl â phryderon ariannol neu sy'n poeni am ddyled.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 13 Awst 2024