Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddogion cymdogaethau

Mae gan bob tenant y cyngor Swyddog Cymdogaeth wedi'i glustnodi a fydd yn eich helpu gyda'ch tenantiaeth ac yn goruchwylio'r ardal lle rydych yn byw.

Bydd eich Swyddog Cymdogaeth yn:

  • eich helpu gyda phroblemau sy'n ymwneud  â thai ac yn rhoi cyngor a chymorth i chi fel y gallwch reoli a chynnal eich tenantiaeth
  • rhoi cyngor ac arweiniad i chi am eich stad a'ch tenantiaeth
  • mynd o gwmpas eich stad i sicrhau ei fod yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn lân
  • adrodd am achosion o dipio anghyfreithlon  a sbwriel ac yn sicrhau yr ymdrinnir ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn brydlon
  • yn annog ymdeimlad o gymuned a pherthyn
  • ymweld â chi yn eich cartref a disgwyl i chi gadw'ch cartref a'ch gardd mewn cyflwr da
  • cynnig cyngor ar sut i symud cartref
  • eich cyfeirio at unrhyw help os bydd angen cefnogaeth ychwanegol, gan gynnwys gweithio gyda'ch Swyddog Rhent

Swyddogion cymdogaeth yn Swyddfa Dai'r Ardal Ganolog

Manylion cyswllt swyddogion cymdogaeth a'r strydoedd maent yn gyfrifol amdanynt ar gyfer ardaloedd Townhill a chanol y dref.

Swyddogion cymdogaeth yn Swyddfa Dai Ardal y Dwyrain

Manylion cyswllt swyddogion cymdogaeth a'r strydoedd y maent yn gyfrifol amdanynt yn Eastside a Threforys.

Swyddogion cymdogaeth yn Swyddfa Dai Ardal y Gogledd

Manylion cyswllt swyddogion cymdogaeth a'r strydoedd y maent yn gyfrifol amdanynt ym Mlaen-y-maes a Phen-lan.

Swyddogion cymdogaeth yn Swyddfa Dai Ardal y Gorllewin

Manylion cyswllt swyddogion cymdogaeth a'r strydoedd y maent yn gyfrifol amdanynt yng Ngorseinon, Sgeti a West Cross.

Map swyddog cymdogaeth

Map o'r ardaloedd y mae'r swyddogion cymdogaeth a'r swyddfeydd tai ardal yn gyfrifol amdanynt.
Close Dewis iaith