Safon ansawdd tai Cymru
Safon darged Llywodraeth Cymru ar gyfer yr holl dai cymdeithasol yng Nghymru yw safon ansawdd tai Cymru (SATC).
I fodloni'r safon, rhaid i dai:
- fod mewn cyflwr da
- bod yn saff ac yn ddiogel
- cael eu gwresogi'n ddigonol, bod yn effeithlon o ran tanwydd a bod wedi'u hinswleiddio'n dda
- cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
- bod wedi'u rheoli'n dda (o ran tai wedi'u rhentu)
- bod wedi'u lleoli mewn amgylchedd deniadol a diogel
- bod yn addas ar gyfer anghenion penodol y rheini sy'n byw ynddynt, os yw hynny'n bosibl, er enghraifft pobl ag anableddau
Rhaid cynnal y safonau hyn hefyd.
Yr hyn rydym yn ei wneud i fodloni'r safonau
Rydym wedi bod yn parhau gyda gwaith i wella cartrefi a stadau hyd at Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) erbyn 2021, yn dilyn estyniad oherwydd COVID.Mae rhaglen waith barhaus o'r enw Rhaglen Cyfalaf Tai sy'n nodi pa atgyweiriadau a gwelliannau y byddwn ni'n eu gwneud i'n 13,585 o eiddo cyngor a 609 o'n heiddo prydles. Bob blwyddyn o gwmpas mis Chwefror pennir y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gan benderfynu pa waith yr ymgymerir ag ef fel rhan o'r Rhaglen Cyfalaf Tai flynyddol.
Rydym yn buddsoddi £46,875,000 ar gyfer 2021 er mwyn cyrraedd SATC erbyn Rhagfyr 2021.Mae'r gwaith yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau a gall fod angen rhagor o waith ar rai eiddo nag eraill oherwydd bod yr eiddo o wahanol oedrannau, ffurfiau a meintiau ac wedi'u hadeiladu o wahanol ddeunyddiau. Rydym yn gweithio gyda nifer o wahanol gontractwyr i wneud y gwaith gwella.
Darllenwch ragor am y gwaith sy'n mynd rhagddo eleni a'r cynnydd hyd yn hyn Gwelliannau tai cyngor
Ariannu'r gwaith
Darperir y cyllid gan gyfuniad o incwm rhent tai cyngor ac arian a fenthycwyd. Rhoddir rhan o'r buddsoddiad hwn i ni fel grant Lwfans Atgyweirio Sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Cyfanswm y Lwfans Atgyweirio Sylweddol a glustnodir ar gyfer 2021 yw £9,271,000. Mae'r grant hwn yn helpu i wella bywydau'r rhai sy'n byw yn nhai'r cyngor, yn ogystal â darparu buddion cymunedol.
Cydymffurfio â SATC
Cydymffurfir â SATC pan ystyrir bod holl elfennau SATC o ansawdd rhesymol a'u bod yn perfformio fel a fwriadwyd. Mesurir lefel y cydymffurfio trwy arolygon cyflwr tai a diweddariadau pan fydd atgyweiriadau a gwelliannau wedi'u cwblhau.
Mae'r cyfleuster i nodi elfennau fel 'methiant derbyniol' yn nogfen arweiniad SATC. Mae'r ddogfen yn cydnabod efallai na fydd yn bosib sicrhau bod yr holl elfennau'n bodloni'r safon a gall landlordiaid adrodd am y rhain fel un o'r categorïau methiant derbyniol canlynol: cost y gwelliant; amserlen y gwelliant; dewis y preswylwyr; a chyfyngiadau ffisegol. Bydd yr elfennau hynny na ellid sicrhau eu bod yn bodloni SATC yn parhau i gael eu cynnal a'u cadw a'u hatgyweirio er mwyn sicrhau bod cartrefi'n parhau i fod yn ddiogel.
Gellir gweld lefel cydymffurfio â SATC Abertawe ar wefan Stats Cymru: Cydymffurfiaeth gyffredinol â SATC (Stats Cymru)
