Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwelliannau i dai cyngor

Rydym bellach wedi cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ac wrth wneud hynny, rydym wedi cyflawni rhaglen enfawr o atgyweiriadau a gwelliannau i'n tai cyngor ar draws Abertawe.

Beth sydd wedi'i gyflawni?

Cyflwynwyd SATC 18 mlynedd yn ôl ac yn y cyfnod hwnnw rydym wedi buddsoddi dros £546 miliwn yn ei gartrefi ac yn y blynyddoedd diweddar rydym wedi gwario dros £50 miliwn y flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'n rhaglen ac wedi darparu £165 miliwn drwy ei Lwfans Atgyweiriadau Mawr tuag at gyflawni'r atgyweiriadau hyn.

Defnyddiwyd yr arian i gyflawni ystod eang o welliannau:

  • Yn ein cartrefi, rydym wedi darparu ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, boeleri effeithlon newydd, wedi gosod gwifrau trydan cwbl newydd, synwyryddion mwg a synwyryddion carbon monocsid.
  • Yn allanol, rydym wedi gwneud gwaith diddosi rhag y gwynt a'r tywydd sy'n cynnwys toeon newydd, atgyweirio waliau, drysau, ffenestri a llawer o fesurau inswleiddio. Rydym hefyd wedi atgyweirio a gwella gerddi, gan eu gwneud yn ardaloedd mwy diogel a hylaw ac wedi gwneud gwelliannau i amgylcheddau lleol. Mae'r cyngor wedi buddsoddi dros £2 miliwn y flwyddyn ar addasu cartrefi i'w gwneud yn lleoedd haws i'r tenantiaid hynny â phroblemau corfforol ac iechyd fyw ynddynt.
Mae'r tabl hwn yn nodi lefelau cydymffurfio ar 31 Mawrth 2022
Elfen SATCEiddo sy'n cydymffurfio'n llwyr% yr eiddo sy'n cydymffurfio'n llwyr
Toeon13,44799%
Ffenestri13,634100%
Drysau13,53599%
Ceginau12,11789%
Ystafelloedd ymolchi11,66886%
Systemau gwresogi13,37898%
Sgôr ynni11,84787%
Systemau trydanol13,56399%
Larymau mwg13,628100%
Gerddi10,98081%

Y dyfodol

Byddwn yn parhau i atgyweirio a chynnal a chadw'n cartrefi ac yn sicrhau ein bod yn parhau i gydymffurfio â SATC. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio ar safonau newydd a fydd yn gwella'n cartrefi ymhellach yn y dyfodol. Rydym yn disgwyl y byddwn yn gallu rhannu rhagor o wybodaeth â chi yn 2023.

Close Dewis iaith