Safon Ansawdd Tai Cymru 2023: Polisi Cydymffurfio
Mae Cyngor Abertawe'n ymrwymedig i gynnig llety o safon uchel a chyflawni a chynnal Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ar draws ei stoc dai. Cydymffurfiodd Cyngor Abertawe'n llawn â SATC ym mis Rhagfyr 2021.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn newydd o Safon Ansawdd Tai Cymru yn 2023. Yn y ddogfen bolisi, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno safonau ychwanegol i alluogi'r holl denantiaid i fyw'n gyfforddus yn eu cartrefi a sicrhau bod yr holl stoc tai cymdeithasol yn bodloni'r ymrwymiadau i'r hinsawdd erbyn 2050. Mae'r polisi hwn yn nodi ymagwedd y cyngor at fodloni gofynion diwygiedig SATC 2023.
Mae SATC 203 yn nodi'r gofynion bod pob llety cymdeithasol yn cael ei ddiweddaru a'i gadw mewn cyflwr da fel y bydd tenantiaid cymdeithasol yn cael y cyfle i fyw mewn cartref sydd:
- mewn cyflwr da
- yn ddiogel
- yn fforddiadwy i'w wresogi ac yn cael cyn lleied o effaith â phosib ar yr amgylchedd
- yn cynnwys cegin ac ardal gyfleustodau gyfredol
- yn cynnwys ystafell ymolchi gyfredol
- yn gyfforddus ac yn hyrwyddo lles
- yn cynnwys gardd addas
- yn cynnwys ardal awyr agored atyniadol.
Yr hyn y mae'r polisi'n ei gwmpasu
Mae fformat y Polisi Cydymffurfio hwn yn dilyn argymhellion dogfen bolisi 'Safon Ansawdd Tai Cymru 2023' Llywodraeth Cymru. Mae'r polisi'n ymdrin â'r meysydd canlynol.
Mae rhagor o fanylion am ofynion llawn SATC 2023 ar gael yma: Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) 2023
1. Ymagwedd at gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)
Mae Cyngor Abertawe wedi rhoi'r trefniadau canlynol ar waith i sicrhau ei fod yn cyflawni SATC 2023:
Cynllun Busnes Ariannol y Cyfrif Refeniw Tai
Bydd y cyngor yn llunio cynllun busnes ariannol blynyddol y Cyfrif Refeniw Tai a fydd yn pennu'r anghenion buddsoddi a'r cyfrifiadau ariannol sy'n dangos sut y bodlonir SATC yn ariannol. Caiff pob cynllun ariannol ei awdurdodi'n fewnol gan Swyddog Adran 151 y cyngor (Adran 151 Deddf Llywodraeth Leol 1972).
Strwythur sefydliadol
Bydd y cyngor yn cynnal strwythur sefydliadol a threfniadau llywodraethu er mwyn sicrhau y caiff SATC ei chyflawni.
Fel rhan o'r strwythur hwn, bydd y cyngor yn cynnwys timau a fydd yn gyfrifol am gyflwyno cynlluniau a rhaglenni at y dyfodol, dylunio, ymgysylltu ac ymgynghori, darpariaeth, monitro cynnydd ac adrodd am SATC. Mae gan y cyngor reolwr cynllunio a chyflawni sy'n gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gyflawni prosiectau a rhaglenni SATC.
Asesiad technegol
Caiff rhaglenni buddsoddi cyfalaf eu hasesu, eu blaenoriaethu a'u datblygu'n seiliedig ar ddata arolygon cyflwr tai, adborth gan wasanaethau atgyweirio a barn tenantiaid yn unol â'r buddsoddiad sydd ar gael. Mae'r gweithgareddau penodol a wneir i gefnogi hyn yn cynnwys:
- Cofnodi a chynnal data technegol ar sail elfen am ei stoc dai yn erbyn gofynion Safon Ansawdd Tai Cymru.
- Pennu gradd Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer pob eiddo.
- Paratoi a chyflwyno llwybr ynni targed ar gyfer pob eiddo unigol.
- Comisiynu asesiad rheolaidd o stoc gan arbenigwr annibynnol - fel arfer bob pum mlynedd - o sampl sy'n cynrychioli'r stoc dai.
- Asesu'r mwyafrif o eiddo yn unol â'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS).
- Pennu gwaelodlin cydymffurfio.
Yn seiliedig ar y data a gesglir, caiff rhaglenni gwaith eu blaenoriaethu i gydymffurfio o ran rheoliadau, peryglon categori 1, datgarboneiddio a lles tenantiaid. Bydd y prosiectau a'r rhaglenni'n cyd-fynd â'r adnoddau ariannol.
Bydd y cyngor yn pennu ei ymagwedd fanwl at brosiectau a rhaglenni yn y Rhaglen Gyfalaf pedair blynedd fel rhan o raglen waith reolaidd (y llyfr glas), gan gynnwys rhoi SATC 2023 ar waith.
Mae'r cyngor yn ceisio cymeradwyaeth flynyddol gan ei Gabinet a'i gyngor llawn.
Mesuryddion a Dangosyddion Perfformiad
Bydd y cyngor yn defnyddio'r confensiynau canlynol wrth fesur cydymffurfiaeth â SATC:
- Cyfrifir cydymffurfiaeth â SATC ar sail amrywiaeth eang o elfennau unigol SATC.
- Mae'n rhaid i bob elfen o SATC gydymffurfio er mwyn i gartref gydymffurfio â SATC.
- Y flwyddyn adnewyddu a restrir ar gyfer pob elfen o SATC fydd y flwyddyn lle rhagwelir na fydd yn cydymffurfio â SATC mwyach. Caiff elfennau sydd wedi parhau'n hwy na'u disgwyliad oes rhagweledig ond y bernir eu bod mewn cyflwr da eu categoreiddio fel elfennau sy'n cydymffurfio a nodir blwyddyn adnewyddu newydd.
- Caiff yr holl flynyddoedd adnewyddu presennol a blaenorol eu hystyried yn fethiannau.
- Ystyrir bod gwelliannau tenantiaid yn cydymffurfio os yw'n briodol a rhoddir blwyddyn adnewyddu newydd yn seiliedig ar gyflwr.
- Llunnir llwybr ynni targed.
Bydd y cyngor yn sicrhau y caiff yr holl waith gwella ac atgyweirio ei ddylunio a'i lunio i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â SATC.
Gwneir hynny drwy amrywiaeth o ddulliau, o welliannau ag un neu sawl elfen i adnewyddu tai cyfan. Bydd y cyngor yn mabwysiadu'r ymagwedd fwyaf addas at gartrefi, gan ddibynnu ar anghenion yr anheddau, atgyweiriadau hanesyddol, cost effeithiolrwydd a'r hyn a ffefrir gan denantiaid.
Bydd cydymffurfiaeth yn seiliedig ar asesu a yw elfennau unigol adeiladau yn llwyddo neu'n methu. Bydd cartref yn bodloni'r safon pan fydd yr holl elfennau perthnasol yn llwyddo. Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod nad yw rhai elfennau o'r safon yn berthnasol i bob cartref neu efallai na fydd modd eu cyflawni. Gellir nodi methu dros dro mewn sefyllfaoedd sydd y tu allan i reolaeth y cyngor, e.e. tenant yn gwrthod, ond caiff y rhain eu nodi ar gyfer elfennau dethol o'r safon. Gellir hefyd nodi llwyddo'n amodol mewn sefyllfaoedd lle mae rhwystrau ffisegol.
Bob blwyddyn, bydd y cyngor yn cyflwyno data am ddangosyddion perfformiad sy'n mesur cydymffurfiaeth bresennol â SATC, gan nodi'r cynnydd diweddaraf tuag at SATC 2023, gan gynnwys:
- nifer yr eiddo sy'n cyflawni prif elfennau SATC 2023
- methu dros dro neu lwyddo'n amodol
- boddhad cwsmeriaid
- sgôr gweithdrefn asesu safonol
- data grantiau'r lwfans atgyweiriadau mawr
- buddion cymunedol - e.e. oriau hyfforddiant
- buddion cymunedol - prentisiaethau (Y Tu Hwnt i Frics a Morter)
Rhoddir gwybod i Aelod y Cabinet yn rheolaidd am y cynnydd diweddaraf o ran bodloni SATC.
Caiff adroddiad blynyddol ei gyflwyno i Bwyllgor Rhaglen Graffu'r cyngor sy'n amlinellu:
- Lefel bresennol cydymffurfio â SATC ar sail elfen unigol a'r holl stoc
- Lefel y cynnydd a gyflawnwyd yn y flwyddyn flaenorol
- Lefel y gwelliannau arfaethedig ar gyfer y flwyddyn bresennol
- Cynlluniau ar gyfer y dyfodol sy'n rhan o'r rhaglen pedair blynedd y cytunwyd arni (gan y cyngor)
Bydd y cyngor yn rhannu gwybodaeth am gydymffurfio â SATC â thenantiaid a lesddeiliaid drwy:
- ei gylchgrawn i denantiaid, 'Tŷ Agored'
- gwefan gyhoeddus y Gwasanaeth Tai
- trafodaethau â grwpiau o denantiaid a lesddeiliaid
- mewn fforymau lleol a chyfarfodydd cynnwys untro
- ymateb i ymholiadau unigol
2. Cronfeydd data / meddalwedd rheoli asedau
Mae Cyngor Abertawe'n gweithredu cronfeydd data MS Access ar hyn o bryd. Mae'r cyngor wrthi'n rhoi system rheoli asedau MRI a meddalwedd Sava Intelligent Energy ar waith. Disgwylir y bydd y rhain yn hollol weithredol erbyn rhan olaf 2027.
3. Ymgysylltu â thenantiaid
Defnyddir ymgynghoriadau i gael amcan o farn pobl am eu cartrefi, eu dyheadau a gwaith atgyweirio arfaethedig. Er mwyn gwneud hyn, bydd y cyngor yn defnyddio dulliau amrywiol fel rhan o'r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid er mwyn ymgynghori'n benodol â grwpiau tenantiaid a lesddeiliaid presennol, gan gynnwys:
- Grŵp Rheoli Stadau
- Grŵp Adeiladau ac Atgyweiriadau
- Digwyddiadau ymgynghori ac ymgysylltu untro penodol
- Presenoldeb mewn grwpiau cymunedol amrywiol
- Arolygon amrywiol, gan gynnwys yr Arolwg Boddhad Tenantiaid a Lesddeiliaid bob yn ddwy flynedd ac arolygon ad hoc yn y cylchgrawn i denantiaid a lesddeiliaid 'Tŷ Agored' ac ar y cyfryngau cymdeithasol
- Cydgysylltu wrth baratoi am welliannau mawr i gartrefi tenantiaid a lesddeiliaid ac arolygon ar ôl cwblhau gwaith
- Ymarferion ymgynghori gyda'r nod o gyrraedd y gymuned ehangach a chasglu ei barn
- Tudalennau Facebook y Gwasanaeth Tai a'r grŵp cyfranogiad tenantiaid
Mae rhagor o wybodaeth am gyfranogiad tenantiaid a lesddeiliaid ar gael yma: Tenantiaid a lesddeiliaid y Cyngor - cymryd rhan
4. Gwirio annibynnol
Ar hyn o bryd, caiff cydymffurfiaeth â SATC ei mesur drwy arolygon cyflwr stoc a gynhelir gan drydydd parti annibynnol bob pum mlynedd. Cynhaliwyd yr arolwg diwethaf yn 2019. Mae arolwg newydd yn yr arfaeth ar gyfer rhan olaf 2025. Ar hyn o bryd, ystyrir yr ymagwedd hon yn ddigon cadarn i ddarparu gwybodaeth ystadegol i Lywodraeth Cymru, llywio Cynllun Busnes y Cynllun Refeniw Tai a llywio'r dystiolaeth o ran benthyca ariannol.
Bydd y cyngor hefyd yn ystyried cynnal archwiliad annibynnol o ran cydymffurfio â SATC gan dîm archwilio mewnol y cyngor ddwy flynedd ar ôl i'r safon gael ei chyflwyno, a chynnal archwiliadau bob yn ddwy flynedd wedyn.
5. Datganiadau cydymffurfio
Bydd y cyngor yn cyflwyno datganiad cydymffurfio ar adeg gosod eiddo i denant newydd, gan gadarnhau cydymffurfiaeth â'r safon. Bydd cydymffurfiaeth yn seiliedig ar y flwyddyn adrodd flaenorol. Pan gaiff systemau TG eu rhoi ar waith yn llwyr, bydd y cyngor yn adolygu a ddylai newid i gydymffurfiaeth fyw, h.y. adrodd am lefelau cydymffurfio cyn gynted ag y caiff gwelliannau eu cwblhau, ac a oes cydymffurfiaeth yn ystod y flwyddyn. Bydd y datganiad cydymffurfio arfaethedig yn nodi'n glir y meysydd sy'n cydymffurfio a'r cynllun ar gyfer mynd i'r afael â diffyg cydymffurfio yn y dyfodol.
6. Elfennau nad yw'r safon yn eu mesur
Mae nifer o elfennau o SATC nad ydynt yn cael eu mesur yn ffurfiol. Esbonnir ymagwedd y cyngor at yr elfennau penodol hyn yn yr adran hon.
- 3d - Rhaid i landlordiaid gynnal asesiad o'r stoc gyfan a nodi llwybrau ynni targed ar gyfer eu cartrefi
Bydd arolygon rheolaidd o gyflwr y stoc a llwybrau ynni targed yn sicrhau bod gan bob eiddo ei raglen unigol a'i amser targed ei hun. Byddant yn cysoni datgarboneiddio, lles tenantiaid, diogelwch a chartrefi sy'n rhydd rhag peryglon. - 6d - Dylai cartrefi fodloni gofynion penodol yr aelwyd
Mae'r cyngor yn ymrwymedig i Ddeddf Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2010 ac, er mwyn diwallu anghenion yr unigolyn, bydd y cyngor yn sicrhau bod y staff sy'n ymgysylltu â thenantiaid a phreswylwyr wedi'u hyfforddi'n briodol a'u bod yn ymwybodol fel y gallant nodi anghenion unigol a sicrhau yr ystyrir yr anghenion hynny wrth gyflawni SATC. Mae'r gweithgareddau i ategu'r ymagwedd hon yn cynnwys:- nodi anghenion yr unigolyn drwy weithgareddau cyfathrebu a chydgysylltu (gweithgareddau'r swyddog cymdogaeth, cysylltu ynghylch y cynllun gwella a hyrwyddo'r gwasanaeth addasiadau ar gyfer yr anabl)
- diwallu anghenion unigol ar y pwynt lle paratoir cynlluniau gwella neu drwy wasanaeth addasiadau ar gyfer yr anabl y cyngor)
- hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff
- hyrwyddo'r gwasanaethau sydd ar gael.
- 6e - Gofynion llety pobl anabl a hŷn
Mae'r cyngor yn darparu cyfadeiladau byw'n annibynnol ar gyfer pobl hŷn, sy'n cynnwys cefnogaeth gan swyddogion byw'n annibynnol a chyfleusterau ychwanegol fel gwasanaethau golchi dillad ac ystafelloedd cymunedol. Fel a amlinellwyd uchod, bydd y cyngor yn sicrhau bod y staff sy'n ymgysylltu â thenantiaid a phreswylwyr wedi'u hyfforddi'n briodol a'u bod yn ymwybodol fel y gallant nodi anghenion unigol a sicrhau yr ystyrir yr anghenion hynny wrth gyflawni SATC. - 8b - Mannau awyr agored atyniadol
Byd y cyngor yn parhau â'i raglenni cyfleusterau allanol a rhaglenni amgylcheddol ehangach os oes cyllid ar gael. Bydd y cyngor yn paratoi cynllun ac yn archwilio atebion ariannol. Er mwyn ategu hyn, bydd y cyngor yn defnyddio dulliau yn ei Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid er mwyn ymgynghori'n benodol â grwpiau tenantiaid a lesddeiliaid presennol i glywed a chasglu barn y gymuned ehangach.
Mae gan y cyngor hefyd ffyrdd o gasglu gwybodaeth gefndirol i ategu'r broses ymgynghori â thenantiaid er mwyn blaenoriaethu a datblygu cynlluniau amgylcheddol: er enghraifft, arolygon strydoedd unigol (ar ben yr wybodaeth leol sydd ar gael drwy staff swyddfeydd tai ardal), aelodau ward lleol, prosiectau cymunedol ac adborth arolygon/grwpiau tenantiaid. Mae monitro gwybodaeth ac adroddiadau i'r Uned Cefnogi Cymdogaethau hefyd yn helpu i nodi ardaloedd lle mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gyffredin, a gellir defnyddio'r rhain i fynd ati i ddatrys problemau allweddol. Parheir i fesur boddhad cyffredinol tenantiaid drwy arolygon tenantiaid a dulliau eraill fel a nodir yn y Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid. - 8c - Bioamrywiaeth
Un o amcanion lles corfforaethol Abertawe yw Cyflawni ar Adfer Natur a Newid yn yr Hinsawdd er mwyn cynnal ac atgyfnerthu natur a bioamrywiaeth yn Abertawe, gan leihau ein hôl troed carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Wrth ystyried cydymffurfiaeth â SATC, bydd y cyngor yn ceisio cyflwyno mesurau bioamrywiol cadarnhaol yn ei raglenni ailwampio adeiladau. - Band eang
Bydd y cyngor yn parhau i weithio gyda chwmnïau allanol i wella band eang ym mhob ardal leol.
7. Gweithgarwch amodol
Gall fod oedi cyn rhoi gofynion penodol yn y safon ar waith o ganlyniad i gyfyngiadau ariannol, gallu gweithredol neu effaith andwyol ar flaenoriaethau eraill y gwasanaeth.
Effaith ariannol
Bydd y Cyfrif Refeniw Tai'n gweithredu ac yn cyflwyno rhaglen mewn cynllun busnes ariannol hyfyw ar ôl i'r stoc gyfan gael ei hasesu. Caiff manylion penodol elfennau a fydd yn nodi gweithgarwch cost ormodol eu datblygu ar ôl cwblhau'r arolwg o gyflwr y stoc gyfan.
Mae'r cyngor wedi cytuno'n ffurfiol ar y blaenoriaethau canlynol ar gyfer buddsoddiad cyfalaf:
Blaenoriaeth 1 - Rhwymedigaeth Gontractiol: os yw'n ofynnol i'r cyngor gyflawni rhaglenni gwaith lle mae cytundebau contractiol ar waith.
Blaenoriaeth 2 - Rhaglen Etifeddiaeth SATC 2008: buddsoddiad i ailwampio eiddo (megis blociau uchel) a ddiffinnir fel methiannau derbyniol gan y safon wreiddiol ar sail amseru rhwymedi, er mwyn cydymffurfio o ran cyflwr.
Blaenoriaeth 3 - Parhau i Gydymffurfio â SATC o ran Cyflwr: bydd y stoc bresennol sy'n cydymffurfio yn derbyn buddsoddiad mewn rhaglenni cynnal a chadw arfaethedig er mwyn parhau i gydymffurfio wrth i gydrannau ac elfennau adeiladau fethu, a pharhau â'r lefelau cydymffurfio presennol.
Blaenoriaeth 4 - Parhau â'r Rhaglen Rhagor o Gartrefi: diogelu'r buddsoddiad a gymeradwywyd yn flaenorol gan y cyngor i barhau i gynyddu'r cyflenwad tai er mwyn gwrthbwyso effaith digartrefedd cynyddol.
Blaenoriaeth 5 - Datgarboneiddio a Dyletswyddau Ychwanegol SATC 2023: os defnyddir yr holl fuddsoddiad sydd ar gael drwy'r Cyfrif Refeniw Tai ar grwpiau blaenoriaeth 1-4, dim ond pan fydd grant ychwanegol uniongyrchol ar gael gan Lywodraeth Cymru at ddibenion penodol datgarboneiddio yr ariennir datgarboneiddio a dyletswyddau eraill.
Cyflwyno Gwasanaethau
Cyflwynir mesuryddion deallus mewn eiddo gwag tymor hir. Caiff eiddo gwag ei osod ar fyrder heb fesuryddion deallus os oes risg y bydd gosod mesurydd deallus yn arafu proses ailosod yr eiddo pan fydd pwysau sylweddol i liniaru digartrefedd.
8. Llwybrau ynni targed
Gyda chymorth ymgynghorwyr allanol, bydd y cyngor yn llunio adroddiad am lwybrau ynni targed sy'n nodi gwaelodlin effeithlonrwydd ynni pob eiddo unigol ym meddiant y cyngor ar sail asesiad o'r stoc gyfan. Bydd hyn yn helpu i amlinellu'r targedau ar gyfer SAP75 a SAP92 i gefnogi ein rhaglen buddsoddi cyfalaf yn y dyfodol. Bydd llwybr ynni targed ar gael i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar ôl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau.
9. Ailddatblygu, dymchwel a charbon
Mae'r cyngor yn canolbwyntio ar leihau ynni carbon ac yn gweithio'n agos gyda phartneriaid ar brosiectau sydd yn yr arfaeth i gyflwyno mesurau lleihau carbon sy'n ystyried systemau ynni amgen, fframwaith ôl-osod PAS2035, dymchwel eiddo presennol ac adeiladu cartrefi newydd mwy ynni effeithlon, ochr yn ochr â rhoi SATC ar waith.
10. Buddion cymunedol
Bydd y cyngor yn parhau i gynnwys cymalau ynghylch buddion cymunedol ym mhob contract gwaith tai perthnasol fel rhan o'i bolisi caffael. Mae gan y fenter, sef 'Y Tu Hwnt i Frics a Morter', dîm ymroddedig sy'n pennu targedau recriwtio a hyfforddi ym mhob contract. Mae'r cymalau'n rhan annatod o'r contract, ac mae'n ofynnol i bob ymgeisydd am dendr amlinellu sut y bydd yn cyflawni'r targedau hyn.
Mae'n ofynnol i bob contractwr gynnal hyfforddiant ar gyfer cyfranogwyr di-waith tymor hir ac anweithgar yn economaidd a gyflwynir gan y tîm 'Y Tu Hwnt i Frics a Morter', mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol (canolfannau byd gwaith, Llwybrau at Waith, Gyrfa Cymru, Cymunedau am Waith a Mwy ac eraill) i sicrhau bod yr hyfforddeion yn dod o'r grwpiau anoddaf eu cyrraedd a fydd yn cael y budd mwyaf o'r lleoedd hyfforddi ychwanegol. Mae'r tîm 'Y Tu Hwnt i Frics a Morter' yn monitro pob contract ac yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r contractwr i sicrhau y cyflawnir y canlyniadau y cytunwyd arnynt.
Bydd y cyngor yn pennu'r nodau canlynol:
- Parhau i wella ei gynllun buddion cymunedol
- Ymgysylltu ag ymgynghorwyr allanol drwy brosiectau caffaeledig i gyflwyno cynlluniau buddion cymunedol newydd
- Ceisio hyfforddiant neu gyfleoedd sy'n seiliedig ar waith
- Bydd hyfforddiant yn amrywiol, gan gynnwys prentisiaethau ffurfiol, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth anffurfiol a/neu hyfforddiant mewn sgiliau sy'n cefnogi cyflogaeth megis sgiliau sylfaenol, llythrennedd TG, etc, a bydd yn dibynnu ar natur y gyflogaeth ac anghenion yr unigolyn.