Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Landlordiaid, perchnogion tai a thenantiaid preifat
Gwybodaeth i landlordiaid sy'n rhentu i denantiaid yn Abertawe ynghylch trwyddedu, cynnal a chadw a gwelliannau i'w heiddo.
Mae llawer o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud yn ymwneud â Thai Amlfeddiannaeth (HMO). Mae llawer o'r HMOs yn Abertawe wedi'u lleoli mewn ardaloedd sy'n boblogaidd iawn ymhlith myfyrwyr fel wardiau Uplands a'r Castell. Rydym yn edrych ar gyflwr yr eiddo, cymhareb yr amwynderau i ddeiliaid, rhagofalon tân a rheolaeth ac yn gweithio gyda landlordiaid i wella a chynnal y safonau hyn.
Rydym hefyd yn delio â nifer mawr o gwynion gan denantiaid eiddo a feddiannir yn unigol.
Tŷ Amlfeddiannaeth yw eiddo sy'n cael ei rentu gan o leiaf 3 pherson nad ydynt yn ffurfio 'aelwyd', e.e. teulu, ond maent yn rhannu cyfleusterau fel yr ystafell ymolchi a'r gegin.
Mae tai gwag yn wastraff adnoddau oherwydd bod llawer o bobl yn chwilio am rywle i fyw. Mae nifer o opsiynau cefnogi er mwyn i berchnogion ddefnyddio eu heiddo gwag eto.
Os ydych yn byw mewn llety ar rent oddi ar y campws yna mae gwiriadau y gallwch eu gwneud er mwyn sicrhau bod y tŷ neu'r fflat yn ddiogel ac yn addas ar eich cyfer.
Mae'n rhaid i landlordiaid gael gwiriad diogelwch gan beiriannydd Diogelwch Nwy cofrestredig ar yr holl beiriannau yn eu heiddo bob 12 mis. Mae'n rhaid i chi roi copi o'r gwiriad hwnnw i'ch tenant o fewn 28 niwrnod neu i denant newydd cyn iddo symud i mewn.
Os ydych yn berchen ar eiddo, neu os ydych yn meddwl am brynu eiddo, ac rydych yn bwriadu ei drawsnewid i fod yn Dŷ Amlbreswyl rydym yn cynnig gwasanaeth ymgynghorol.
Mae hawliau perchnogion cartrefi symudol yn destun deddfwriaeth cartrefi symudol benodol. Mae hyn oherwydd, er taw perchennog cartref symudol sy'n berchen ar ei gartref, gweithredwr safle sy'n berchen ar y safle y mae wedi'i osod arno. Mae perchennog y cartref symudol yn talu rhent i weithredwr y safle er mwyn defnyddio'r llain.
Efallai y bydd angen archwiliad eiddo arnoch os oes gennych bartner neu aelod o'r teulu nad yw'n breswylydd y DU sy'n cyflwyno cais am Fisa oddi wrth Asiantaeth Ffiniau'r DU y Swyddfa Gartref i fyw yn y DU.