Toglo gwelededd dewislen symudol

Perchnogion eiddo gwag

Mae tai gwag yn wastraff adnoddau oherwydd bod llawer o bobl yn chwilio am rywle i fyw. Mae nifer o opsiynau cefnogi er mwyn i berchnogion ddefnyddio eu heiddo gwag eto.

Benthyciadau di-log i helpu i adnewyddu eiddo gwag

Mae nifer o gynlluniau ariannol sy'n gallu eich helpu i dalu am atgyweiriadau i eiddo gwag. Mae'r benthyciadau'n ddi-log. Mae'r math o fenthyciad y gallwch wneud cais amdano'n dibynnu ar a ydych chi am rentu'r eiddo neu fyw ynddo'ch hun.

Cynllun grantiau cartrefi gwag cenedlaethol Cynllun grantiau cartrefi gwag cenedlaethol

Cynllun benthyciadau gwella cartrefi cenedlaethol Cynllun benthyciadau gwella cartrefi cenedlaethol

Benthyciad Homefix Benthyciad Homefix

Cyngor ar eiddo gwag

P'un a ydych chi eisoes yn berchen ar eiddo gwag neu os ydych chi'n ystyried prynu eiddo sy'n wag, gallwn gynnig cyngor i chi. Mae llawer o gyngor isod sy'n trafod prynu, rhentu neu werthu eiddo gwag. Mae hefyd wybodaeth am bwerau gorfodi'r cyngor a sut i gadw eiddo gwag yn ddiogel.

Camau gorfodi

Pan fydd eiddo'n wag, gallant achosi problemau wrth i'w cyflwr waethygu. Gallwn fynd i'r afael â chasgliad o sbwriel, eiddo wedi'u gadael yn agored i fynediad heb ganiatâd neu amodau sy'n arwain at ddifrod i eiddo cyfagos.

I gael rhagor o wybodaeth am eiddo gwag gallwch gysylltu â ni: Swyddog Eiddo Gwag

Ystyried rhentu eich eiddo

Gall rhentu'ch eiddo gwag fod yn ffordd ddelfrydol o greu incwm ychwanegol, mae'n tueddu i wella safon yr eiddo ac yn helpu i atal fandaliaeth a throseddu.

Gwerthu eich eiddo gwag

Mae nifer o ddulliau y gallwch eu defnyddio i werthu'ch eiddo gwag.

Diogelu eiddo gwag a'i gadw'n ddiogel rhag twyll

Gall eiddo gwag fod yn darged i droseddwyr, yn enwedig o ran dwyn pibellau neu geblau copr. Gallant hefyd fod yn destun 'sgamiau' eiddo lle mae sgamwyr yn ceisio cofrestru'r eiddo yn eu henw a'i werthu ymlaen.

Pwerau gorfodi'r cyngor

Mae gan y cyngor nifer o bwerau gorfodi i wella safonau tai. Mae rhai o'r rhain yn ymwneud ag eiddo gwag, yn ogystal ag eiddo tenant neu berchennog-ddeiliad.

Eithriadau TAW ar gyfer eiddo gwag

Os ydych yn meddwl am adnewyddu eiddo gwag er mwyn ei rentu, gallwch fod yn gymwys am ostyngiad ar TAW.

Cwestiynau cyffredin am eiddo gwag

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am eiddo gwag.

Swyddog Eiddo Gwag

Cysylltwch â ni gael cyngor neu wybodaeth am eiddo gwag yn Abertawe.

Incwm rhent posib o'ch eiddo gwag

Am faint o amser y mae eich eiddo wedi bod yn wag? Gwiriwch y tabl i weld amcangyfrif o'r incwm posib y gallech fod wedi'i ennill drwy ei renti.

Grantiau a benthyciadau ar gyfer eiddo gwag

Mae benthyciadau a grantiau ar gael i helpu i wneud gwaith ar eiddo gwag i helpu i'w troi'n gartrefi i breswylwyr.

Grantiau a benthyciadau perchen-feddianwyr i adnewyddu neu atgyweirio'ch cartref

Efallai y bydd grantiau a benthyciadau ar gael i'ch helpu i wneud atgyweiriadau i'ch cartref.

Premiymau Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi

Mae eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi yn Abertawe yn destun premiwm o 100% o Dreth y Cyngor.

Datganiad landlord eiddo gwag ar gyfer Treth y Cyngor

Rhowch wybod i ni os yw'ch eiddo'n wag ar hyn o bryd.

Y Cynllun Uwchraddio Boeleri

Mae'r Cynllun Uwchraddio Boeleri'n darparu grantiau i annog perchnogion eiddo i gael gwared ar systemau gwresogi tanwydd ffosil presennol a gosod systemau gwresogi mwy effeithlon, carbon isel yn eu lle.

Nest Cymru

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yw gwneud cartrefi yn gynhesach ac yn fwy ynni-effeithlon i fyw ynddynt.
Close Dewis iaith