Toglo gwelededd dewislen symudol

Premiymau Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi

Mae eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi yn Abertawe yn destun premiwm o 100% o Dreth y Cyngor.

Diben y disgresiwn a roddir i awdurdodau lleol godi premiwm yw bod yn ddull i helpu awdurdodau lleol i wneud y canlynol:

  • ailddefnyddio eiddo gwag tymor hir er mwyn darparu tai diogel, clud a fforddiadwy
  • cefnogi awdurdodau lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaladwyedd cymunedau lleol

Oes unrhyw eithriadau i'r premiwm?

Mae rhai eithriadau i'r premiwm a fydd yn berthnasol o 1 Ebrill 2020, ac fe'u rhestrir isod:

  • Dosbarth 1 - anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gwerthu - mae terfyn amser o flwyddyn ar y gyfer yr eithriad hwn
  • Dosbarth 2 - anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gosod - terfyn amser o flwyddyn
  • Dosbarth 3 - rhandai sy'n rhan o'r brif annedd neu'n cael eu trin fel hynny
  • Dosbarth 4 - anheddau a fyddai'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa rhywun pe na bai'n byw yn llety'r Lluoedd Arfog
  • Dosbarth 5 - lleiniau carafanau ac angorau cychod (ail gartrefi'n unig)
  • Dosbarth 6 - cartrefi tymhorol lle gwaherddir byw yno drwy'r flwyddyn gyfan (ail gartrefi'n unig)
  • Dosbarth 7 - anheddau sy'n gysylltiedig â swyddi (ail gartrefi'n unig)

Os ydych yn credu bod un o'r eithriadau a restrir uchod yn berthnasol i chi, cysylltwch ag Is-adran Treth y Cyngor gyda'r wybodaeth berthnasol.

Beth os nad yw fy eiddo'n gymwys ar gyfer eithriad?

Yn effeithiol o 1 Ebrill 2020 am eiddo gwag tymor hir ac 1 Ebrill 2021 ar gyfer ail gartrefi, bydd yn rhaid i chi dalu'r premiwm o 100% o Dreth y Cyngor, fodd bynnag, mae gan y cyngor gynlluniau ar waith os  yw eich eiddo'n parhau'n ail gartref neu'n eiddo gwag tymor hir. Os hoffech weithio gyda'r cyngor er mwyn sicrhau gallu defnyddio'ch eiddo yn amser llawn unwaith eto, mae'n bosib y gallwn eich helpu.

Grantiau a benthyciadau ar gyfer eiddo gwag

Rwyf yn berchen ar ail gartref. Sut bydda i'n gwybod fy mod yn atebol i dalu'r premiwm a faint o rybudd a roddir, os unrhyw beth?

Ysgrifennir at bob perchennog ail gartref y mae'r cyngor yn ymwybodol ohono ym mis Chwefror 2020 i'w hysbysu y codir premiwm ar ei eiddo o 1 Ebrill 2021. Ysgrifennir at bob eiddo a nodwyd ar ôl hynny fel ail gartrefi er mwyn ei hysbysu am yr un peth. Os byddwch yn derbyn llythyr gennym ond nad ydych yn credu y dylid ystyried eich eiddo fel ail gartref, cysylltwch â ni.

Rwyf yn berchen ar eiddo gwag. Sut bydda i'n gwybod fy mod yn atebol i dalu'r premiwm a faint o rybudd a roddir, os unrhyw beth?

Ysgrifennwyd at bob perchennog eiddo gwag a allai fod yn destun premiwm eiddo gwag tymor hir ym mis Tachwedd 2019 ac fe'i hysbyswyd y gallant fod yn destun premiwm o 1 Ebrill 2020. Ysgrifennwyd at berchnogion eiddo sydd yn y categori hwn ers hynny yn rhoi gwybod iddynt am yr un peth. Os yw'ch eiddo'n debygol o fod yn wag am fwy na blwyddyn erbyn 1 Ebrill 2020 a hoffech gael help neu gyngor gennym, cysylltwch â ni. Bydd gwybodaeth bellach yn rhan o'ch Bil Treth y Cyngor a ddosberthir i chi ym mis Mawrth 2020.

Close Dewis iaith