Grantiau a benthyciadau ar gyfer eiddo gwag
Mae benthyciadau a grantiau ar gael i helpu i wneud gwaith ar eiddo gwag i helpu i'w troi'n gartrefi i breswylwyr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn grantiau neu fenthyciadau ar gyfer eiddo gwag gallwch gysylltu â ni: Swyddog Eiddo Gwag
Benthyciadau i landlordiaid
Gall perchnogion eiddo gwag fenthyg hyd at £25,000 fesul annedd, sy'n ddi-log.
Cynllun grantiau cartrefi gwag cenedlaethol
Mae perchnogion cartrefi gwag yn Abertawe yn gymwys i wneud cais am grant gwerth hyd at £25,000 i wneud y cartrefi'n ddiogel i fyw ynddynt a gwella'u heffeithlonrwydd ynni.
Cynllun benthyciadau gwella cartrefi cenedlaethol
Cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig benthyciadau di-log i helpu perchnogion cartrefi i wneud atgyweiriadau i'w cartrefi i'w gwneud yn ddiogel ac yn gynnes.
Perchnogion eiddo gwag
Mae tai gwag yn wastraff adnoddau oherwydd bod llawer o bobl yn chwilio am rywle i fyw. Mae nifer o opsiynau cefnogi er mwyn i berchnogion ddefnyddio eu heiddo gwag eto.