Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am eiddo gwag

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am eiddo gwag.

Os cyflwynaf gais Rhyddid Gwybodaeth a fyddaf yn gallu cael rhestr o eiddo gwag y cyngor?

Nid ydym yn gallu darparu'r rhestr lawn o'n heiddo gwag am y rhesymau a nodir isod.

Rhannu manylion eiddo gwag

Er ein bod yn cadw cyfeiriadau eiddo gwag, mae gennym yr hawl i wrthod cydymffurfio â chais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth os yw eithriad yn berthnasol. Yn yr achos hwn, ystyrir bod yr eithriadau canlynol yn berthnasol:

Gorfodi'r Gyfraith (Adran 31 (a))

Mae'r eithriad hwn yn berthnasol i orfodi'r gyfraith lle y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o rwystro atal neu ganfod troseddu.

Mae eiddo gwag yn debygol o fod yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol ac wrth ystyried y tebygolrwydd, byddai datgelu'r rhestr hon yn arwain at fwy o weithgarwch troseddol. Byddai darparu'r wybodaeth hon er mwyn ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth yn golygu ein bod yn rhoi'r wybodaeth hon i'r cyhoedd yn gyffredinol. Os byddai rhestr o'r holl eiddo gwag ar gael yn gyhoeddus, byddai hyn yn debygol iawn o rwystro atal troseddu a byddai'n arwain at ddwyn deunyddiau, e.e. pibau, rheiddiaduron, etc. o'r eiddo gwag.

Mae hwn yn eithriad perthnasol, lle mae angen defnyddio prawf budd y cyhoedd. Mae budd y cyhoedd o ganlyniad i gynnal yr eithriad yn gorbwyso budd y cyhoedd o ganlyniad i ddatgelu'r wybodaeth. Mae effaith troseddu'n rhan bwysig o brawf budd y cyhoedd yn yr achos hwn ac oherwydd yr effaith niweidiol ar unigolion, ni ddylid datgelu'r wybodaeth. 

Iechyd a diogelwch (Adran 38)

Gellid peryglu diogelwch unigolion os caiff rhestr o eiddo gwag ei rhyddhau. Ystyrir y byddai rhyddhau'r wybodaeth yn golygu bod risg uwch o sgwatwyr a phobl yn torri i mewn ac, oherwydd bod eiddo gwag yn tueddu i fod mewn cyflwr gwael, byddai'n beryglus i'r person sy'n torri i mewn neu sgwatwyr yn yr adeilad, felly penderfynwyd bod yna risg Iechyd a Diogelwch o ganlyniad i hynny.
 
Mae Adran 38 yn eithriad cymwys ac mae'n rhaid ystyried budd y cyhoedd o ganlyniad i ddatgelu'r wybodaeth. Ystyriwyd a phenderfynwyd nad oes budd pennaf i'r cyhoedd o ganlyniad i rannu'r wybodaeth hon.

Close Dewis iaith