Grantiau a benthyciadau i helpu i atgyweirio'ch cartref
Efallai y bydd grantiau a benthyciadau ar gael i'ch helpu i wneud atgyweiriadau i'ch cartref.
Benthyciad Homefix
Mae'r benthyciad Homefix yn fenthyciad di-log gwarantedig i berchnogion a chanddynt ecwiti yn eu heiddo ond na allant fforddio ad-daliadau misol ar fenthyciad.
Cynllun benthyciadau gwella cartrefi cenedlaethol
Cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig benthyciadau di-log i helpu perchnogion cartrefi i wneud atgyweiriadau i'w cartrefi i'w gwneud yn ddiogel ac yn gynnes.