Toglo gwelededd dewislen symudol

Tai amlbreswyl

Tŷ Amlfeddiannaeth yw eiddo sy'n cael ei rentu gan o leiaf 3 pherson nad ydynt yn ffurfio 'aelwyd', e.e. teulu, ond maent yn rhannu cyfleusterau fel yr ystafell ymolchi a'r gegin.

Mae rhyw 2,000 o HMOs yn Abertawe, y mae llawer ohonynt yn y ddwy ward ganolog sef y Castell, Uplands, Y Glannau a St Thomas.

Er mwyn bod yn Dŷ Amlbreswyl, mae'n rhaid i eiddo gael ei ddefnyddio fel prif breswyl neu unig breswyl y tenantiaid a dylai gael ei ddefnyddio fel cartref i denantiaid yn unig neu'n bennaf. Bydd eiddo sy'n cael ei rentu i fyfyrwyr a gweithwyr mudol yn cael ei drin fel eu prif breswyl neu unig breswyl. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i eiddo a ddefnyddir fel llochesau domestig.

Beth yw Tai Amlfeddiannaeth (HMO)?

Cyflwynodd Deddf Tai 2004 ddiffiniadau newydd ar gyfer HMO. Er mwyn i adeilad, neu ran o adeilad ffurfio HMO, rhaid iddo ddod o dan ystyr un o'r disgrifiadau canlynol:

  • adeilad lle mae dwy aelwyd neu fwy'n rhannu amwynder sylfaenol e.e. ystafell ymolchi, toiled neu gyfleusterau coginio
  • fflat lle mae dwy aelwyd neu fwy'n rhannu amwynder sylfaenol (y mae'r cyfan yn y fflat) e.e. ystafell ymolchi, toiled neu gyfleusterau coginio
  • adeilad sydd wedi'i drawsnewid ac nid yw'n cynnwys fflatiau hunangynhwysol yn llwyr ac mae'n cael ei feddiannu gan bobl nad ydynt yn ffurfio un aelwyd
  • adeilad, neu ran o adeilad, sydd wedi'i drawsnewid yn fflatiau lle nad yw'r trawsnewidiad yn bodloni'r isafswm safon ofynnol yn ôl Rheoliadau Adeiladu 1991, ac mae llai na dwy ran o dair o'r fflatiau'n cael eu meddiannu gan berchnogion preswyl a lle mae mwy na dau berson yn ffurfio mwy nag un aelwyd yn meddiannu'r adeilad (gelwir y math hwn o adeilad yn HMO Adran 257).

Beth yw aelwyd sengl?

Pobl nad ydynt oll yn aelodau o'r un teulu nad ydynt yn ffurfio un aelwyd. Ceir rheoliadau sy'n disgrifio amgylchiadau penodol lle bydd pobl yn cael eu hystyried fel un aelwyd er nad ydynt yn perthyn. Mae'r rhain yn cynnwys pan fydd llety'n cael ei ddarparu yn aelwyd y person ar gyfer nani, au pair neu ofalwr.

Pa amodau sy'n berthnasol i Dai Amlbreswyl?

Mae'n rhaid i rai Tai Amlbreswyl gael eu trwyddedu. Hyd yn oed os nad oes angen trwydded ar y Tŷ Amlbreswyl, dylai'r landlord gynnal a chadw'r tŷ a sicrhau ei fod yn amgylchedd diogel i'r tenantiaid fyw ynddo.

Rhaid bodloni gofynion diogelwch tân. Bydd angen mesurau ychwanegol fel drysau tân, rhwystr hanner awr rhwng ystafelloedd, systemau larwm tân a diffoddiaduron tân mewn rhai Tai Amlbreswyl.

Dylid cael cyfleusterau addas ar gyfer y gegin a'r ystafell ymolchi hefyd.

Beth am Dai Amlbreswyl nad ydynt yn bodloni'r safonau?

Os ydych yn denant sy'n byw mewn Tŷ Amlbreswyl dylech geisio bob amser ddatrys unrhyw broblemau gyda'r landlord neu'r rheolwr yn gyntaf. Dylent ddelio â gwaith atgyweirio neu faterion cynnal a chadw angenrheidiol ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â rheoliadau sy'n ymwneud â rheoli'r eiddo hefyd.

Os nad yw eich landlord neu reolwr wedi datrys y broblem, gallwch gysylltu â ni i gael cymorth a chyngor. Yn dibynnu ar eich problem gallwn arolygu'r eiddo a chyflwyno hysbysiad gorfodi i'r landlord neu'r rheolwr. Bydd hyn yn gofyn iddynt gwblhau'r gwaith o fewn amser penodol.  

Os ydych yn fyfyriwr gallai Undeb y Myfyrwyr neu Ganolfan Gyngor i Fyfyrwyr eich helpu, yn enwedig os yw eich cwestiwn yn ymwneud â'ch cytundeb tenantiaeth. Sicrhewch eich bod yn hapus â'r eiddo a chynnwys y cytundeb tenantiaeth cyn i chi ei arwyddo.

Os ydych yn byw mewn Tŷ Amlbreswyl yna mae angen i chi sicrhau eich bod yn gofalu am yr eiddo ac unrhyw beth a ddarperir ar gyfer eich diogelwch, megis larymau tân a diffoddwyr tân. Peidiwch â chadw drysau tân ar agor a sicrhewch eich bod yn cadw'r lle'n lân ac yn daclus. Rhowch eich sbwriel ac ailgylchu allan ar y diwrnodau cywir yn y sachau lliw cywir.  

Os yw eich landlord neu'ch rheolwr yn trefnu dod i wirio'r eiddo, gwnewch yn siwr eich bod yno neu rhowch wybod iddynt mewn da bryd os bydd rhaid i chi newid yr amser neu'r diwrnod. Dyna'r union gyngor ar gyfer unrhyw apwyntiad y mae swyddogion y cyngor yn ei wneud i ddod i archwilio'r eiddo.

Beth am drawsnewid eiddo yn Dŷ Amlbreswyl?

O dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987, bydd angen caniatâd cynllunio unigol ar gyfer tai a rennir â thri phreswylydd neu fwy sy'n cael eu troi'n fflatiau neu'n fflatiau un ystafell. Cysylltwch â'r Adran Cynllunio am ragor o wybodaeth.

Mae cofnodion o'r eiddo sydd wedi cael caniatâd cynllunio i fod yn dai amlbreswyl ers i Ddosbarth C4 ddod i rym ym mis Chwefror 2016 ar gael Ceisiadau cynllunio tai amlfeddiannaeth cymeradwy.

Hefyd, efallai y bydd angen cymeradwyaeth Adeiladu arnoch a bydd angen i chi ofyn am gyngor gan y swyddogion perthnasol.

Os yw'r Tŷ Amlbreswyl yn drwyddedadwy, bydd yn rhaid i chi gyflwyno cais am drwydded Tŷ Amlbreswyl o hyd.

Cofrestr gyhoeddus Tai Amlbreswyl (TAB)

Yn ôl Deddf Tai 2004, mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gadw cofrestr gyhoeddus o adeiladau a drwyddedir fel TAB.

Rheoli HMO

Os ydych yn rheoli HMO, dylech fod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau cyfreithiol a'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud i ofalu am eich eiddo a'ch tenantiaid.

Trwyddedu Tai Amlbreswyl

Mae'n rhaid I landlordiaid rhai tai amlbreswyl (HMOs) wneud cais I drwyddedu eu heiddo.

Ffïoedd ar gyfer trwyddedau tai amlfeddiannaeth

Manylion y costau ar gyfer trwyddedau tai amlfeddiannaeth gan gynnwys ffïoedd ar gyfer deiliaid ychwanegol.

Cwestiynau cyffredin am dai amlfeddiannaeth

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am dai amlfeddiannaeth.

Ceisiadau cynllunio HMO

Gwybodaeth am HMOs (tŷ amlfeddiannaeth) a'u proses gynllunio.
Close Dewis iaith