Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhentu Doeth Cymru

Yn ôl y gyfraith yng Nghymru, rhaid i bob landlord preifat yn awr gofrestru eu hunain a'u heiddo â Rhentu Doeth Cymru..

O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 mae'n rhaid i unrhyw landlord sydd ag eiddo i'w rentu yng Nghymru gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Mae'n rhaid i landlordiaid sy'n rheoli eu hunain sy'n gosod ac yn rheoli eiddo ac asiantau sy'n ymgymryd â gwaith gosod a rheoli ar ran landlordiaid gynnal hyfforddiant a gwneud cais am drwydded. Mae methu â chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth yn drosedd.

Nod Rhentu Doeth Cymru yw gwella safonau yn y sector rhentu preifat. Bydd hyn yn helpu i warchod tenantiaid ac yn cefnogi landlordiaid ac asiantau da drwy eu helpu i wybod am eu cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau cyfreithiol, a gwella enw da'r sector cyfan.

Mae tîm arbenigol yn ymdrin ag ymholiadau ac yn helpu  landlordiaid ac asiantau i gofrestru a gwneud cais am drwydded.

Mae canlyniadau i droseddu dan y Ddeddf. Maent yn cynnwys y canlynol:

  • hysbysiadau cosb benodedig (naill ai £150 neu £250)
  • gorchmynion ad-dalu rhent
  • gorchmynion atal rhent
  • erlyn troseddol a dirwyon

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter @rentsmartwales (Yn agor ffenestr newydd) neu ar Facebook yn www.facebook.com/RDC.RSW (Yn agor ffenestr newydd). Os hoffech  siarad â rhywun, gallwch ffonio'r llinell gymorth ar 03000 133344.

Close Dewis iaith