Banc pob dim Cwtch Mawr yn cefnogi miloedd o bobl yn ystod y flwyddyn gyntaf
Mae miloedd o breswylwyr yn Abertawe, gan gynnwys plant, pobl ifanc, teuluoedd ac unigolion sy'n cael trafferth gyda chostau byw yn elwa o'r fenter elusennol gyntaf o'i fath yng Nghymru.
Cwtch Mawr yw banc pob dim cyntaf Cymru ac fe'i sefydlwyd i ddarparu hanfodion newydd dros ben i bobl mewn angen.
Mae'r rhain yn cynnwys dillad, cynhyrchion hylendid ac eitemau cartref hanfodol fel tegelli, llestri, cwpanau a dillad gwely.
Dan arweiniad Faith in Families, yr elusen o Abertawe, gyda chefnogaeth Amazon a Gordon Brown, a fu gynt yn Brif Weinidog y DU, Cyngor Abertawe oedd y cyngor cyntaf i fod yn bartner sefydlu â banc pob dim yn y DU.
Agorodd Cwtch Mawr yn 2024 mewn warws a ddaeth i ddwylo'r cyngor, ond ers hynny mae wedi symud i safle mwy gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Ymwelodd aelodau o Gabinet y cyngor yr wythnos hon i weld cynnydd gan fod y cyngor wedi cyrraedd rhestr fer y fenter gydweithredol orau yng Ngwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) eleni.
Meddai Cherrie Bija, Prif Swyddog Gweithredol Faith in Families, "Gyda'n gilydd, rydym wedi adeiladu banc pob dim ymatebol sydd wedi darparu mwy na 719,000 o hanfodion i fwy na 150,000 o bobl - gan gefnogi plant a theuluoedd, lliniaru caledi ariannol a chryfhau cymunedau.
"Mae Cwtch Mawr yn enghraifft ddisglair o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd llywodraeth leol a sefydliadau ar lawr gwlad yn gweithio law yn llaw i fynd i'r afael â thlodi a chreu dinas decach ac iachach sy'n cydweithio i sicrhau bod Abertawe'n lle gwych i bawb."