Cyllid Angori Gwledig (SPF)
Rhwng 2023 a 2025, derbyniom gyllid gan Lywodraeth y DU dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Erbyn mis Mehefin 2025, yn dilyn proses ymgeisio, roeddem wedi dyfarnu'r cyllid llawn i 54 o brosiectau gwledig ledled Abertawe, cyfanswm o £716,934.76.
Dan y prosiect Angori Gwledig a ddatblygwyd yn lleol, roedd arian grant ar gael i gymunedau gwledig Abertawe ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi'r themâu canlynol:
- yr economi wledig a phrofiad i ymwelwyr
- yr amgylchedd naturiol a'r argyfwng hinsawdd
- iechyd a lles
- arloesedd
O fewn y themâu hyn, mae'r prosiectau'n cyflawni yn erbyn o leiaf un o'r ymyriadau canlynol:
- buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy
- bioamrywiaeth
- gwirfoddoli
- astudiaethau dichonoldeb
- marchnadoedd lleol
- llwybrau i
Gwnaeth prosiectau refeniw dderbyn hyd at £15,000 a gwnaeth prosiectau cyfalaf dderbyn hyd at £25,000.
Y wardiau a oedd yn gymwys am gymorth oedd:
- Llandeilo Ferwallt
- Clydach (yn cynnwys Craig-cefn-parc)
- Fairwood
- Gorseinon a Phenyrheol
- Gŵyr
- Tregŵyr
- Llangyfelach
- Casllwchwr
- Pen-clawdd
- Penllergaer
- Pennard
- Pontarddulais (yn cynnwys ward Mawr)
- Pontlliw a Thircoed
Mae prosiectau mewn wardiau eraill yn cael eu cefnogi fesul achos os ydynt ar ymylon daearyddol y wardiau a enwir uchod, neu mewn amgylchiadau eithriadol, ardaloedd ag amgylcheddau naturiol helaeth mewn wardiau eraill.
Aseswyd yr holl geisiadau gan Banel Cynghori Gwledig, y mae ei arbenigedd ar draws amrywiaeth eang o faterion gwledig wedi profi'n amhrisiadwy.
Prosiectau
2025-2026
1. Meithrin Natur - Happy Headwork CIC - £14,850
Rhaglen ryngddisgyblaethol sy'n gwella lles emosiynol wrth gefnogi bioamrywiaeth drwy ddysgu ecolegol a chadwraeth ymarferol a fydd yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â The Penllergare Trust a Phrifysgol Abertawe.
2. Gosod paneli solar a storfeydd batris tryda - Cyngor Cymuned Pennard - £25,000
Cynnig i osod system solar ffotofoltäig 26 panel (tua 11.83kw) gyda storfeydd batris (15kw) yn Neuadd Gymunedol Pennard. Bydd y prosiect hwn yn lleihau ôl-troed carbon y neuadd, yn gostwng biliau ynni hyd at 60% ac yn sicrhau pŵer wrth gefn dibynadwy yn ystod toriadau pŵer.
3. Llyfrgelloedd Byw - Gwreiddiau Gwledig a Sgyrsiau Cymunedol - Bantani CIC- £7,960
Prosiect gwirfoddoli cymunedol sy'n dod ag oedolion hŷn a disgyblion ysgol ynghyd drwy gyfres o sesiynau'r Llyfrgell Ddynol mewn saith ward wledig yn Abertawe.
4. Y Camau Cyntaf Wrth Greu Gwarchodfa Natur Newydd Ym Mro Gŵyr: Prosiect Cartersford - Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru - £14,956.03
Prosiect sy'n cynnwys 17 hectar o dir rhwng Fairwood a Thir Comin Pengwern o'r enw Cartersford, a fydd yn ailblannu'r coetir ac yn dod â manteision cynefin a thirwedd i'r rhan hon o fro Gŵyr, a gollwyd oherwydd cymunu 2000 o goed yn anghyfreithlon.
5. Prosiect Aer a Batris Bont Elim - Elim Foursquare Gospel Alliance: Bont Elim Community Church - £19,995
Gosod 60 kW o fatris i wneud paneli solar newydd yn llawer mwy effeithlon o ran ynni - gan gynnwys gosod peiriant aer i aer ychwanegol i gwblhau prosiect blaenorol, a ariannwyd gan gyllid y prosiect Angori Gwledig yn 2024-2025.
6. Mabwysiadu llednant - Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru - £14,836.99
Prosiect 'Mabwysiadu Llednant', a fydd yn gwella sgiliau pobl ac yn rhoi'r wybodaeth, yr hyder a'r brwdfrydedd iddynt i'w galluogi i weithio gyda'i gilydd i 'fabwysiadu' eu hyd agosaf o afon.
7. Darganfod Marchnad Cilâ - Hyrwyddo Cynhyrchwyr Gwledig a Lleol: Cyngor Cymuned Cilâ - £1,750
Marchnad undydd i'w chynnal ar 19.7.25 yng Nghanolfan Siopa Cilâ i arddangos 25 o fasnachwyr lleol ac annog y gymuned leol i siopa'n lleol - gyda'r bwriad o ddod yn hunangynhaliol yn y dyfodol.
8. Gosod Llifoleuadau LED ar gyfer Caeau Chwaraeon Cymunedol - Clwb Rygbi De Gŵyr - £21,148.80
Uwchraddio'r hen oleuadau halid metel ar ddau gae i lifoleuadau LED a fydd yn gwella'r lefel o olau gydag arbedion sylweddol o ran y defnydd o ynni, lleihau carbon a chostau cynnal a chadw yn y dyfodol.
9. Gosod Paneli Solar a Mesurau Lleihau Carbon LED yn The Old Mill Foundation - The Old Mill Foundation - £15,606.93
Gwirfoddolwyr dan arweiniad y gymuned sy'n cefnogi oedolion sydd â diagnosis o ganser, eu teuluoedd a'u gofalwyr sy'n ceisio gosod paneli solar ynghyd â storfeydd batri.
10. Clwb Ieuenctid Pennard - Pobl Ifanc yn Gwella Bioamrywiaeth a Natur - MAD Abertawe - £11,160.62
Cyllid ar gyfer Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol a Gweithwyr Cefnogi Prosiectau ynghyd ag adnoddau i ddarparu ystod o brofiadau bioamrywiaeth a gwirfoddoli i bobl ifanc yn Pennard.
11. Gosod Paneli Solar a Storfeydd Batris yn Neuadd Les Felindre - Cyngor Cymuned Mawr - £15,577.00
Diweddariad i gasgliad o baneli solar presennol mewn lle cymunedol a ddefnyddir yn aml (cartref marchnad ffermwyr hynod boblogaidd Felindre) a fydd yn ehangu'r gallu i gynhyrchu ynni trwy osod batris storio wedi'u huwchraddio.
12. Prosiect Cysylltu - Anxiety Support Wales CIC - £14,009.23
Prosiect i dreialu cynllun arfaethedig ar gyfer y dyfodol fel menter allgymorth y bwriedir iddi fynd i'r afael ag anghenion iechyd meddwl enbyd oedolion 18 oed ac yn hŷn yn wardiau'r Gogledd Abertawe wledig.
13. Prosiect Solar Clwb Pêl-droed Pontarddulais - Clwb Pêl-droed Iau Tref Pontarddulais - £23,130
Prosiect ynni solar i leihau costau ac allyriadau carbon. Ar hyn o bryd, mae ystafelloedd newid y clwb yn dibynnu'n llwyr ar drydan i weithredu; mae costau ynni cynyddol yn cynyddu'r pwysau ar allu'r sefydliad i gynnal yr adeilad yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy. Mae'r clwb yn ganolbwynt i'r ardal leol, gan ddarparu cyfleoedd chwaraeon, iechyd a lles i bobl o bob oed a chefndir, nid pêl-droed yn unig. Mae lleihau ein hallyriadau a dod yn fwy effeithlon o ran ynni yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i arweinyddiaeth gymunedol a chynaliadwyedd. Rydym hefyd yn bwriadu defnyddio'r system i addysgu pobl ifanc am ynni adnewyddadwy a gweithredu ar newid yn yr hinsawdd.
2023 - 2025
14. Rhwydwaith Gwybodaeth a Chyngor i Wirfoddolwyr Gwledig - Age Cymru Gorllewin Morgannwg - £15,000
Sefydlu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chyfeirio wedi'i achredu gan AQS sydd wedi'i deilwra ar gyfer pobl hŷn a'u gyrfaoedd yng nghymunedau gwledig Abertawe. Caiff y gwasanaethau eu lleoli'n uniongyrchol o fewn y cymunedau a'u darparu gan wirfoddolwyr lleol.
15. Ynni Adnewyddadwy Doethach, Glanach ym mhenrhyn Gŵyr - Down to Earth - £22,201.67
Prosiect ynni adnewyddadwy i geisio gwella'r hyn sydd gennym yn ein hadeilad cymunedol ym Murton a Little Bryn Gwyn, Gŵyr drwy ddarparu storfa fatris i ategu'n haraeau solar sy'n darparu pŵer i'r adeiladau ac ar gyfer cyfleusterau gwefru ceir / e-feiciau.
16. Prosiect Batri Solar - Cymdeithas Neuadd Bentref Reynoldston - £10,450
Prosiect i osod batris a bwerir gan yr haul i gyflwyno system defnydd o ynni mwy cynaliadwy a chost-effeithiol.
17. Prosiect a Llwybr Ymwelwyr y Fenyw Goch - Twristiaeth Bae Abertawe - £14,647.34
Prosiect llwybr ac arddangosfa sy'n nodi deucanmlwyddiant darganfod Arglwyddes Goch Pen-y-fai (Pafiland) gyda gŵyl ddathliadol.
18. Marchnad Gymunedol Eco Petallica - Petallica Flower Farm CIC - £9,687.97
Sefydlu marchnad flodau fisol sy'n gwerthu cynnyrch amgylcheddol, moesegol i werthwyr blodau lleol a'r cyhoedd, gan geisio lleihau cadwyni cyflenwi a sefydlu cyflenwad lleol.
19. Dadansoddiad Ymrwymiad ac Anghenion Amaethyddiaeth a Ffermwyr Mawr - Bwyd Abertawe - £14,846.33
Astudiaeth dichonoldeb sy'n cyflogi ymgynghorydd dwyieithog i ymchwilio i, a mapio gweithgarwch amaethyddol ar draws ardal Mawr, a fydd yn cysylltu â ffermwyr a busnesau / rhanddeiliaid amaethyddol.
Bwyd Abertawe Dadansoddi Anghenion ac Ymgysylltu â Ffermwyr ac Amaeth Mawr (Communitas Cymru) (Word doc, 8 MB)
20. Dylunio Man Storio Afalau Mesuradwy ar gyfer Perllannau Abertawe - Cyfoeth y Coed - £10,626
Astudiaeth i ddylunio storfa / storfeydd afalau y gellir eu hadeiladu ar y safle a defnyddio nodweddion amgylcheddol buddiol ar eu cyfer, megis adeiladu'r storfa/storfeydd gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu, gan ganiatáu i berllannau lleol gynnig darpariaeth fesul cam, ac felly sicrhau'r ddarpariaeth fwyaf posib i'r farchnad leol ac ehangu'r ddarpariaeth i fannau gwledig megis ysgolion a banciau bwyd.
Dyluniad uned storio afalau cynaliadwy (Cyfoeth y Coed) (Word doc, 835 KB)
21. Gosod Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer - Bont Elim Community Church - £25,000
Prosiect ynni adnewyddadwy i osod pympiau gwres ffynhonnell aer i leihau ôl-troed carbon a gwella effeithlonrwydd ynni'r adeilad.
22. Cefnogi Gwirfoddoli ym Mhenllergare - Ymddiriedolaeth Penllergare - £15,000
Prosiect sy'n canolbwyntio ar gynyddu nifer y gwirfoddolwyr yn Ymddiriedolaeth Penllergare drwy ariannu Cydlynydd Gwirfoddolwyr.
23. Head Forward with Nature: Rhaglen les er mwyn i bobl a'r amgylchedd elwa gyda'i gilydd - Happy Headwork CIC - £14,888.82
Rhaglen dysgu a gwirfoddoli gyfunol gyda'r nod o wella iechyd a lles yn y gymuned leol a'r amgylchedd naturiol o'i hamgylch.
24. Ailwampio Neuadd Les - TG a bleinds - Cyngor Tref Llwchwr - £6,203.92
Prosiect dwy elfen gydag un elfen yn ceisio cyfrannu at leihau'r defnydd o danwydd drwy osod bleinds rholio thermol, a'r ail yn ceisio cynnig mwy o gyfleoedd ar gyfer cynhwysiant digidol drwy gaffael offer TG a hyfforddi hyfforddwyr gwirfoddol.
25. Cynyddu Bioamrywiaeth a'r Gallu i Wrthsefyll Newid yn yr Hinsawdd er lles cyffredinol yr Amgylchedd a'r Gymuned - Cae Felin CSA CIC - £15,000
Prosiect wedi'i leoli ar safle Cae Felin i adfer bywyd gwyllt ac ailadeiladu cymuned drwy gysylltu pobl â'u hamgylchedd naturiol, i ddathlu amrywiaeth ecolegol a diwylliannol, wrth wella lles cymdeithasol, iechyd corfforol ac iechyd sy'n gysylltiedig â deiet, drwy wirfoddoli.
26. Lleisiau Cymunedau Gwledig: astudiaeth dichonoldeb ar gyfer Craig-cefn-parc - Cyngor Cymuned Mawr:- £9,725
Astudiaeth ddichonoldeb i alluogi pentrefi Garn-swllt a Chraig-cefn-parc i addasu a datblygu fel cymunedau gwledig gweithredol sy'n pontio'r cenedlaethau. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn dangos y ffordd ymlaen ar gyfer gweithredu cymdeithasol ac adeiladu gallu.
Astudiaeth Gwmpasu Craig-cefn-parc a Garnswllt a wnaed ar gyfer Cyngor Cymuned Mawr (Urban Foundry) (Word doc, 1 MB)
27. Prosiect Ynni Adnewyddadwy ar gyfer Neuadd Llanmorlais - Ymddiriedolaeth Neuadd Gymunedol Llanmorlais a'r Cylch - £14,580
Prosiect ynni adnewyddadwy ar gyfer Neuadd Llanmorlais sy'n cynnwys paneli solar a storfa fatris, gyda'r opsiwn i werthu'n ôl i'r grid cenedlaethol.
28. A Bug's Life: Prosiect Bioamrywiaeth 2.0 Mawr Cyngor Cymuned Mawr - £11,651.50
Prosiect olynol i brosiect Bioamrywiaeth Cynllun Datblygu Gweledig a ariannwyd yn flaenorol ar draws dau safle, gan ddiogelu'r swydd Cydlynydd Prosiect Bioamrywiaeth a'r gallu i barhau i recriwtio, ymgysylltu a datblygu sgiliau'r gwirfoddolwyr yn ogystal â chyflwyno elfennau o ddysgu awyr agored a chwarae natur.
29. ClearFlood - Llifoleuadau LED Newydd - Cyfeillion Craig Cefn Parc - £14,409
Gosod llifoleuadau 'ClearFlood' ynni effeithlon a llygredd isel mewn ardal gemau aml-ddefnydd cymunedol pob tywydd mynediad agored y disgwylir iddi gael ei gosod (cyllid wedi'i sicrhau).
30. Gosod Paneli Solar a Storfeydd Batris Trydan - Cyngor Cymuned Y Crwys - £15,303.57
Gosod paneli solar, gyda chyfleuster batri ar gyfer storio pŵer yng Nghanolfan Gymunedol Y Crwys.
31. Paneli Solar ar Adeilad Ystafelloedd Newid Presennol - Cyfeillion Parc Coed Gwilym - £13,294.77
Gosod 12 o baneli solar a batri storio cysylltiedig i gyflenwi ynni i'r pafiliwn cymunedol a mannau gwefru i lenwi'r car cymunedol/bws mini trydan cymunedol arfaethedig.
32. Crwydro Creadigol Gŵyr - Crwydro Myfyriol ym mhenrhyn Gwyr - Gower Ministry Area - £15,000
Troeon Natur Llesol a gweithgareddau creadigol yn seiliedig ar adeiladau hanesyddol yr eglwys sy'n rhan o lwybr llwyddiannus Ffordd Pererindod Gŵyr, a sefydlwyd yn 2022 ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gyflogi cydlynydd digwyddiadau amser llawn i archwilio'r prosiect fel cynllun peilot, ac adeiladu canolfan wirfoddoli, gyda'r nod o gynllunio cynllun pum mlynedd
33. Marchnad Bwyd a Chrefftau Felindre - Neuadd Les Felindre - £13,399.34
Prosiect sy'n ceisio cyllid ar gyfer offer sylfaenol (matiau, biniau ac uned storio) i helpu i hwyluso marchnad leol lwyddiannus iawn sydd wedi arwain at fuddion profedig i breswylwyr a chynhyrchwyr lleol. Heb y grant hwn, byddai'r elfennau hyn yn anfforddiadwy.
34. Astudiaeth Dichonoldeb Ailwampio ac Ôl-osod Effeithlonrwydd Ynni - Neuadd Bentref Llanmadog a Cheriton - £15,000
Astudiaeth ddichonoldeb i sefydlu opsiynau a chostau ar gyfer ailwampio ac ôl-osod neuadd y pentref fel ei bod arbed ynni.
Neuadd Bentref Llanmadog - prosiect ôl-osod ynni adnewyddadwy ac estyniad (Huw Griffiths Architects Ltd) (Word doc, 25 MB)
35. Llwybr Cymdogaeth Nature Quest - Bantani Cymru CIC - £14,699.94
Nod y prosiect yw ysbrydoli dysgwyr cynradd 8-11 oed ar draws 10 ysgol gynradd i ddarganfod, archwilio, ymchwilio a chreu llwybr natur ger eu hysgol, a chefnogi'r gwaith o'i hyrwyddo neu ei greu gydag adnoddau ar arddull arweinydd teithiau. Mae'r dysgwyr yn gyfrifol am greu neu gyfuno taith natur leol, dysgu am y natur sydd yno a pharatoi canllawiau digidol a hygyrch i ymwelwyr i hyrwyddo cefnogaeth a gwella'r profiad o gerdded ar hyd y llwybr natur arfaethedig.
36. Casglu, storio a defnyddio ynni solar ac inswleiddio thermal ychwanegol i leihau/ddisodli'r defnydd o drydan o'r prif gyflenwad yn neuadd y pentref - Cyngor Cymuned Cilâ Uchaf - £21,100
Yn ceisio cyflwyno mesurau lleihau carbon yn Neuadd Gymunedol Cilâ Uchaf, gan gynnwys gwelliannau i'r inswleiddio yn y neuadd, gosod paneli solar ar y to a gosod system storio batris i bweru'r goleuadau.
37. Prosiect Paneli Solar / Batri ac LED - Cyngor Cymuned Llandeilo Ferwallt - £24,020
Prosiect ynni adnewyddadwy ar gyfer Cymuned Llandeilo Ferwallt sy'n cynnwys paneli solar a batris storio, gyda'r opsiwn i werthu'n ôl i'r grid cenedlaethol. Goleuadau LED ychwanegol ar sail Iechyd a Diogelwch.
38. Gŵyl Bwyd a Diod Gŵyr 2024 - Cyngor Cymuned Pennard - £7,000
Gŵyl bwyd a diod ym mhenrhyn Gŵyr, i'w chynnal ar un diwrnod ym mis Medi 2024.
39. Surf To Success - Cwmni Budd Cymunedol Surf Therapy CIC - £14,640
Prosiect sy'n defnyddio Rhaglen Therapi'r Môr i weithio gydag unigolion rhwng 18 a 25 oed sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol. Bydd y cynllun yn addysgu cyfranogwyr i syrffio ac yn sicrhau eu bod yn caffael y sgiliau sydd eu hangen i ddod yn fentoriaid syrffio, gyda'r bwriad o gael cyflogaeth yn y sector
40. Prosiect Coetir Graig y Coed - Cyngor Cymuned Llanrhidian Uchaf - £10,080
Prosiect sy'n seiliedig ar wirfoddoli i glirio a dechrau datblygu safle coetir diffaith a brydleswyd yn ddiweddar gan Gyngor Abertawe i greu parc natur sydd o fewn cyrraedd agos i bawb.
41. Cydweithfeydd a Gweithio ar y Cyd ar gyfer Busnesau Bwyd yn Abertawe Wledig - Cyngor Abertawe - Partneriaeth Bwyd Abertawe - £13,600
Astudiaeth ddichonoldeb i sefydlu sut y gallai cwmnïau cydweithredol bwyd lleol weithio i gynorthwyo ffermwyr a gwneuthurwyr bwyd ar raddfa fach yng nghefn gwlad Abertawe. Mae'r adroddiad hwn yn archwilio dichonoldeb a manteision modelau gwaith cydweithredol ar gyfer microfusnesau a busnesau bwyd bach yn Abertawe.
Cydweithfeydd a gweithio ar y cyd ar gyfer busnesau bwyd yn Abertawe (Mentera). (Word doc, 3 MB)
42. Gwella'n Man Gwyrdd - 6ed Grŵp Sgowtiaid Llangyfelach - £5,364.82
Nod y prosiect yw datblygu'r llain hon o dir ymhellach a gwella'i bioamrywiaeth fel y gall y grŵp Sgowtiaid, yn ogystal â grwpiau Sgowtiaid eraill a'r gymuned ehangach ddefnyddio'r tir at ddibenion hamdden / addysgol.
43. Datblygu Gardd Gymunedol a Thir Parc Coed Gwilym gan Wirfoddolwyr Cyfeillion Parc Coed Gwilym - £1,703.32
Datblygu gardd gymunedol er budd fflora a ffawna brodorol, y gwirfoddolwyr sy'n gweithio ynddi ac aelodau'r gymuned sy'n ymweld â hi.
44. Prosiect Paneli Solar Ffotofoltaig a Storio Batris - Cynllun Ymddiriedolaeth Lles Glowyr Pengelli - £25,000
Prosiect ynni adnewyddadwy gyda phaneli solar a storfa fatris ar gyfer Neuadd Gymunedol Pengelli.
45. Prosiect Adfer Dyfrgwn a Llygod y Dŵr - Ymddiriedolaeth Penllergare - £13,177.44
Prosiect bioamrywiaeth sy'n canolbwyntio ar gynefinoedd dyfrgwn a llygod y dŵr ar y safle.
46. Prosiect Melino Blawd Torth Gŵyr - Ymddiriedolaeth Elusennol Y Felin Ddŵr - £14,949.90
Prosiect trawsnewidiol i roi bywyd newydd i felin flawd o'r 12fed ganrif a'i defnyddio fel menter hunangynhaliol drwy gyflogi melinydd rhan-amser i adeiladu tîm o wirfoddolwyr sy'n dysgu i weithredu'r offer melin, a gweithio gyda nhw i ddatblygu cynnyrch newydd yn ein siop felin drwy ailgyflwyno cymysgedd blawd ar gyfer gwneud bara, gweithgarwch na welwyd ym mhenrhyn Gŵyr ers 200 mlynedd - y Dorth Gŵyr draddodiadol.
47. Ffermio a Theuluoedd - Y Mwmbwls i Landeilo Ferwallt - Gower Unearthed - £15,000
Prosiect i gynhyrchu archif ddigidol newydd am hanes amaethyddol a gwledig y Mwmbwls, yn benodol ei gysylltiadau â phentrefi bach gwledig Llandeilo Ferwallt. Bydd yr archif yn cynnwys wyth recordiad llafar am ei hanes, casglu a chyhoeddi achresi a ffotograffau o fywyd gwledig nas cyhoeddwyd o'r blaen.
48. Nadolig a Hen Galan Penllergare Ymddiriedolaeth Penllergare - £4,913
Mae calendr o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous wedi'u cynllunio i ddathlu'r Nadolig a'r hen Flwyddyn Newydd (Hen Galan) draddodiadol yng Nghymru, o ffair aeaf i sesiynau canolbwyntio ar ffwng sy'n addas i deuluoedd.
49. Gŵyl Crwydradau Lles y Gaeaf - Happy Headwork CIC - £6,766.78
Cyfres o ddigwyddiadau ym mis Ionawr yng Nghoed Cwm Penllergare, yn ystod cyfnod anoddaf y flwyddyn i lawer o bobl, yn enwedig i'r rhai sy'n wynebu heriau o ran eu hiechyd meddwl ac ynysu cymdeithasol.
50. Nadolig Cymuned Pennard 2024 Cyngor Cymuned Pennard - £5,070.61
Cynhaliwyd dau ddigwyddiad cymunedol dros benwythnos ym mis Rhagfyr. Un digwyddiad oedd ehangu'r farchnad Nadolig draddodiadol, gan gynnig adloniant a bwyd poeth yn Neuadd Gymunedol Pennard ar ôl i'r farchnad gau. Roedd yr ail, yn Kittle, yn cynnwys cynnal digwyddiad canu a chynnau'r goleuadau ym maes Kittle ac yna cyd-ganu sianti môr yn The Beaufort Arms.
51. Lles a Bywyd Gwyllt yn ystod y Gaeaf - Cyngor Cymuned Mawr - £4,824.93
Cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu bioamrywiaeth hygyrch sy'n addas ar gyfer pob grŵp, gyda'r nod o adeiladu cydlyniant cymunedol a chynyddu nifer yr ymwelwyr â'r neuaddau cymunedol a'r mannau gwyrdd.
52. Croeso Cynnes yn ystod y Gaeaf i Gymunedau Llanrhidian Isaf - Cyngor Cymuned Llanrhidian Isaf - £6,000
Darparu pabell fawr wedi'i llogi i'w gosod ar dir yr ysgol leol i'w defnyddio ar y cyd gan yr ysgol a'r gymuned. Bydd digwyddiadau cymunedol yn cynnwys digwyddiad Brecwast Ffermwyr Ifanc (i arddangos y gorau o gynnyrch Abertawe a gwaith gan grefftwyr lleol) a chyfres o gaffis sy'n dod â disgyblion a'r gymuned ynghyd i ymarfer eu sgiliau Cymraeg.
53. Cymanfa Ganu - Bantani Cymru CIC - £5,622.40
Bydd y Gymanfa Ganu yn gyfle i'r gymuned ddathlu hanes lleol a hanes Evan Roberts a'r diwygiad crefyddol. Yn ystod y digwyddiad, bydd disgyblion yn rhannu gwybodaeth ac yn canu caneuon traddodiadol, gan ddathlu bywyd Evan Roberts a Chapel Pisga. Defnyddir gwaith y plant i greu llyfr ar y pwnc.
54. Digwyddiad y Nadolig Cymuned Llangyfelach - Cyngor Cymunedol Llangyfelach - £6,015.74
Mae Cyngor Cymunedol Llangyfelach yn gweithio'n agos gyda'r gymuned i ddarparu Digwyddiad y Nadolig a arweinir gan y gymuned. Bydd y digwyddiad yn cynnwys Siôn Corn, a fydd yn cyrraedd ar drên bach Nadoligaidd ac yn ymuno â phlant y gymuned yn Eglwys Llangyfelach, lleoliad hanesyddol o'r 12fed ganrif.
Cysylltwch â ruralanchorspf@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth.