
Cyngor ar lifogydd
Gwybodaeth ddefnyddiol os yw eich cartref dan fygythiad llifogydd, neu os bydd llifogydd.
Bydd Cyngor Abertawe, y gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru yn eich helpu, ond chi sy'n bennaf gyfrifol am amddiffyn eich eiddo eich hun. Pan fydd llifogydd yn gyffredin, nid yw'n bosib ymateb i bob galwad am gymorth ar unwaith, a'n blaenoriaeth yw achub bywydau.
Os yw bywyd mewn perygl, ffoniwch 999 ar unwaith.
Bydd Cyngor Abertawe yn:
- Cynnal system ddraenio'r priffyrdd, gan gynnwys gwacáu rhigolau'r priffyrdd a chadw cwlferi'r priffyrdd yn glir
- Gweithredu gwasanaeth brys 24 awr ac ymateb i lifogydd difrifol er mwyn sicrhau diogelwch ar y briffordd gyhoeddus
- Gweithio i osgoi neu leihau llifogydd ar y briffordd gyhoeddus, a chynnal cwlferi ar dir y cyngor
- Gweithio gyda'r gwasanaethau brys eraill mewn ymateb i argyfyngau difrifol neu fawr
Gallwch gysylltu â gwasanaeth brys Priffyrdd Cyngor Abertawe (24 awr) drwy ffonio 01792 01792 841657.
Gallwch ffonio llinell llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0345 988 1188 unrhyw bryd, dydd neu nos, i gael rhybuddion a chyngor ynghylch llifogydd, gan gynnwys cofrestru ar gyfer y Gwasanaethau Rhybuddio am Lifogydd. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y Gwasanaethau Rhybuddio am Lifogydd ar-lein.
Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol CymruYn agor mewn ffenest newydd
Atal llifogydd
Cyfrifoldeb y perchennog yw atal llifogydd ar eiddo preifat.
Mae mesurau amddiffyn rhag llifogydd y gall perchnogion yr eiddo eu dilyn yn cynnwys:
- Darganfod a ydych mewn perygl o lifogydd. Gallwch ddarganfod a yw eich eiddo mewn perygl drwy fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru neu drwy ffonio'r llinell llifogydd ar 0345 988 1188.
- Os ydych chi'n byw mewn ardal perygl llifogydd, efallai y byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol, a derbyn cyngor am ddim ar lifogydd. Ffoniwch y llinell llifogydd i ddarganfod a oes rhybuddion o lifogydd ar gael.
- Diweddarwch eich 'Cynllun Argyfwng Cartref'. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru dempled y gallwch ei lawrlwytho.
- Gwella gallu eich eiddo i wrthsefyll llifogydd.
- Os yw'n berthnasol, bydd defnyddio systemau draenio cynaliadwy yn lle arwynebau anathraidd yn helpu i leihau dŵr ffo.
- Rhowch wybod am unrhyw ddraeniau neu gwlferi blociedig i Gyngor Abertawe.
Os ydych chi'n pryderu am lifogydd, mae'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn cynnig cyngor pellach: https://nationalfloodforum.org.uk.
Cyngor ar ddiogelwch: llifogydd
Drwy baratoi ar gyfer llifogydd, gallwch leihau'r difrod a'r drafferth a achosir yn sylweddol - yn enwedig os ydych yn byw mewn ardal lle mae perygl uchel o lifogydd, neu os ydych wedi cael llifogydd yn y gorffennol.
Bydd Cyngor Abertawe, y gwasanaethau brys a Chyfoeth Naturiol Cymru yn helpu lle bynnag y gallant, ond chi sy'n gyfrifol am ddiogelu eich eiddo eich hun yn bennaf. Pan fydd llifogydd yn gyffredin, nid yw'n bosib ymateb i bob galwad am gymorth ar unwaith, a'n blaenoriaeth ni yw achub bywydau.
Os bydd perygl i fywyd, ffoniwch 999.
Am wybodaeth am lifogydd yn eich ardal, ffoniwch linell llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0345 988 1188 neu ewch i wefan Cyfoeth Naturiol CymruYn agor mewn ffenest newydd i weld ei fap byw am rybuddion o lifogydd.
Paratoi ar gyfer llifogydd
Dylech
- Gadw rhestr o rifau ffôn defnyddiol wrth law e.e. eich cwmni yswiriant, rhif llinell llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, rhifau ffôn cyswllt mewn argyfwng ar gyfer ffrindiau a theulu.
- Gwiriwch gyda'r llinell llifogydd os oes unrhyw rybuddion penodol am lifogydd yn eich ardal.
- Dewch o hyd i sachau tywod neu fodd arall o ddiogelu rhag llifogydd er mwyn blocio drysau a briciau awyru (gan sicrhau bod awyriad digonol) - gweler isod). *Sylwer nad yw Cyngor Abertawe'n darparu sachau tywod*
- Crëwch becyn llifogydd. Cadwch dortsh, ffôn a gwefrwr, radio â batri, rhifau mewn argyfwng, papur ysgrifennu, pinnau a'ch polisi yswiriant mewn lle diogel.
- Byddwch yn ymwybodol o leoliad eich switshis ar gyfer eich cyflenwad trydan a nwy.
Ni ddylech
- Danbrisio'r difrod y gall llifogydd ei achosi. Cysylltu â'ch cwmni yswiriant i sicrhau bod gennych yswiriant llifogydd digonol.
- Tybio bob pawb yn gwybod yr hyn i'w wneud. Creu cynllun llifogydd ar gyfer teulu.
- Aros i'r llifogydd ddigwydd. Gall llifogydd ddigwydd yn gyflym iawn. Paratowch nawr.
Yn ystod llifogydd
Dylech
- Gofio y bydd y gwasanaethau brys yn brysur iawn yn ystod llifogydd helaeth. Ffonio am gymorth yn syth os oes perygl i fywyd yn unig.
- Cadw llygad ar adroddiadau tywydd lleol ar y teledu neu ar sianeli newyddion ar y radio. Peidiwch â theithio yn ystod stormydd glaw trwm oni bai fod gwir angen.
- Edrychwch ar ôl eich cymdogion, yn enwedig y rhai sy'n ddiamddiffyn.
Ni ddylech
- Geisio gyrru drwy ffyrdd neu rydau dan lifogydd. Yn aml, mae'r dŵr yn ddyfnach nag y mae'n ymddangos a gall fod yn llifo'n gyflym. Gall eich cerbyd gael ei ysgubo i ffwrdd neu fynd yn sownd.
- Cerdded drwy ardaloedd dan lifogydd. Gall hyd yn oed dŵr bas eich ysgubo oddi ar eich traed a gall fod peryglon eraill na allwch eu gweld megis draeniau sydd ar agor, wynebau ffyrdd wedi'u difrodi, malurion wedi suddo neu sianeli dwfn: gallant achosi anaf difrifol neu farwolaeth hyd yn oed.
- Cerdded ar hyd afonydd neu gamlesi - mae'n beryg dros ben pan fydd llifogydd.
- Caniatáu i blant chwarae mewn dŵr llifogydd - gall dŵr llifogydd fod wedi'i lygru gan garthion a chemegau.
- Peidiwch â smygu, bwyta nac yfed pan fyddwch mewn cysylltiad â dŵr llifogydd, a golchwch eich dwylo'n dda ar ôl.
Os bydd llifogydd yn eich cartref
Dylech
- Ddiffodd y cyflenwad trydan wrth y prif gyflenwad, os gallwch wneud hynny'n ddiogel.
- Dod allan o'r dŵr - symudwch eich teulu, anifeiliaid anwes ac eitemau sentimental i fyny'r grisiau neu i dir uwch.
- Sicrhau bod yr holl gylchedau trydan wedi'u sychu'n llawn ac wedi'u gwirio gan beiriannydd trydanol ar ôl y llifogydd cyn eu cynnau.
- Os oes difrod i'ch cartref neu'ch eiddo, cysylltwch â'ch cwmni yswiriant. Gofyn am ei farn cyn dechrau glanhau.
- Mae gan wefan y Fforwm Llifogydd CenedlaetholYn agor mewn ffenest newydd amrywiaeth o gyngor defnyddiol a gwybodaeth bellach am yr hyn i'w wneud os effeithir arnoch gan lifogydd.
Ni ddylech
- Geisio diffodd y cyflenwad trydan wrth sefyll mewn dŵr.
Cyngor ar Ddiogelwch Llifogydd
- Peidiwch â dychwelyd i adeiladau a wacawyd oni bai eich bod yn derbyn cyfarwyddyd i wneud hynny.
- Osgowch ffynonellau trydan a pheidiwch â difodd y cyflenwad trydan wrth sefyll mewn dŵr.
- Gofynnwch i beiriannydd gwasanaeth cymeradwy i wirio cyfleustodau eich eiddo (nwy, trydan a dŵr) cyn troi'r trydan ymlaen unwaith eto er mwyn sicrhau bod yr holl gylchedau trydan wedi'u sychu'n gyfan gwbl.
- Byddwch yn ymwybodol o ddŵr halogedig a gwrthrychau miniog sy'n gorwedd yn nŵr y llifogydd.
- Sicrhewch fod gennych larymau tân sy'n gweithio am fod perygl cynyddol o dân oherwydd offer trydanol gwlyb. Bydd y Gwasanaeth Tân yn darparu gwiriad diogelwch tân mewn cartrefi am ddimYn agor mewn ffenest newydd os oes angen (0800 169 1234).
- Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio canhwyllau a thannau agored.
Ardal perygl llifogydd Cwm Tawe Isaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth i breswylwyr a busnesau yng Nghwm Tawe Isaf sydd mewn perygl llifogydd o afon Tawe, Nant-y-Fendrod a Nant Bran.