Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynllun Gweithredu Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026

Rhoddwyd y Cynllun Gwaith Cychwynnol ar waith yn 2022/23

(Sylwch y bydd y cynllun gweithredu hwn yn cael ei adolygu'n flynyddol ac y gall camau gweithredu eraill gael eu hychwanegu)

 

Blaenoriaeth Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai

Camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni'r flaenoriaeth

Amserlenni

  • Tymor Byr <1 flwyddyn
  • Tymor Canolig 1-2 flynedd
  • Tymor Hir >3 blynedd

Arweinydd

Canlyniad/Allbynnau

1

Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.

 

 

Sicrhau cynnydd priodol yn yr adnoddau ar gyfer gwasanaeth digartrefedd statudol i ddelio â chynnydd yn y galw a darparu'r gallu i sicrhau ffocws newydd ar waith ataliol.

 

Byr

 

 

 

 

 

 

Rheolwr Opsiynau Tai

 

 

 

 

 

 

Penodi swyddi newydd yn y Tîm Opsiynau Tai.

 

 

 

 

1

Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.

Datblygu protocolau cyn troi allan gyda'r holl ddarparwyr tai a thai â chymorth, a deall rhesymau dros denantiaethau a adawyd, gan wreiddio dulliau amgylcheddau a hysbysir gan seicoleg (PIE) a dulliau a hysbysir gan drawma.

 

Canolig

Swyddog Perfformiad a Datblygiad Cynllunio'r Grant Cymorth Tai / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol

 

Dim troi allan i ddigartrefedd ar draws y sector tai â chymorth a thai cymdeithasol.

 

1

Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.

Datblygu ymhellach gyfres o fesurau dangosfwrdd a fydd yn llywio anghenion, bylchau a blaenoriaethau ac adrodd yn gywir am gynnydd tuag at ddod â digartrefedd i ben a chefnogi Fframwaith Canlyniadau Digartrefedd newydd Llywodraeth Cymru.

 

Byr

 

Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai (HSG) / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol

 

Mesurau ar waith ar gyfer:

  • Digartrefedd mynych
  • Amser a dreulir mewn Llety Dros Dro
  • Cynnal tenantiaeth
  • Mesurau ychwanegol i'w cytuno pan fydd Fframwaith Canlyniadau Llywodraeth Cymru ar gael.

 

1

Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.

Mynd ati i hyrwyddo gwasanaethau digartrefedd, cyngor ar dai a chymorth tenantiaeth Opsiynau Tai ar-lein, yn y cyfryngau cymdeithasol a'r wasg.

 

Byr

Rheolwr Opsiynau Tai/Rheolwr yr Uned Cymorth Tenantiaeth/ Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai

 

Mae'r holl wasanaethau priodol yn gwbl hygyrch ac mae cymorth a chyngor ar gael ar y cyfle cyntaf.

 

1

Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.

 

Sicrhau bod targed yn cael ei gyrraedd ar gyfer atal digartrefedd.

Monitro'r defnydd o gronfa Atal i sicrhau ei bod yn cyfrannu'n llwyddiannus at denantiaethau cynaliadwy, gan gynnwys data ar ddefnyddio Cronfa Caledi Tenantiaeth.

 

Byr/canolig

 

Rheolwr Opsiynau Tai

 

Monitro data'r Gronfa Atal a Chaledi Tenantiaeth.

 

1

Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.

 

Monitro rhesymau dros golli llety rhent preifat i ddeall yn well yr hyn sy'n sbarduno'r achos hwn o ddigartrefedd a datblygu mesurau i fynd i'r afael â materion a nodwyd.

 

Byr

Rheolwr Opsiynau Tai

Data rhentu preifat wedi'i goladu a'i fonitro.

Gostyngiad mewn achosion o droi allan rhentu preifat.

1

Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.

 

 

Comisiynu a chynnal lefel ac ystod briodol o wasanaethau cymorth yn y gymuned i ymgymryd ag ymyrraeth gynnar ac atal digartrefedd

  • Mynediad at Wasanaethau Cymorth Lle Bo'r Angen drwy Borth yr Uned Cymorth Tenantiaeth gan gynnwys argyfwng mynediad cyflym ac ailsefydlu wedi'i gynllunio
  • Cydlynwyr Ardal Leol

 

Canolig

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai gyda Rheolwr yr Uned Cymorth Tenantiaeth a Chydlynydd Plant sy'n Derbyn Gofal.

 

 

 

 

 

 

 

Mae lefelau gwasanaethau a gomisiynir yn sicrhau bod cymorth ar gael yn gyflym ar gyfer ymyrraeth ac atal cynnar er mwyn atal anghenion rhag gwaethygu i gyflwyniadau digartrefedd.

1

Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.

Sicrhau bod yr holl wasanaethau a gomisiynir yn cysylltu â'r ffynonellau/partneriaid atgyfeirio priodol e.e., landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, Swyddogion Tai, meddygon teulu ar gyfer cyfleoedd i ymyrryd ac atal yn gynnar.

Byr

 

Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai gyda Rheolwr yr Uned Cymorth Tenantiaeth a'r Cydlynydd Plant sy'n Derbyn Gofal.

Mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynnig y Gwasanaeth Cymorth Cysylltiedig â Thai.

Ystod eang o ffynonellau atgyfeirio.

2

Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd.

 

Adolygu'r Strategaeth Symud Ymlaen:

  • Sicrhau ei bod yn ymateb i'r adolygiad o broses llwybr Tai Llety â Chymorth Dros Dro.
  • Sicrhau bod Gwasanaethau Cymorth yn cyflawni gofynion yr adolygiad Tai â Chymorth Dros Dro.

 

Canolig

 

 

 

 

 

 

 

Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol

 

 

 

 

 

Mae Strategaeth Symud Ymlaen yn cyfrannu at y dull Ailgartrefu Cyflym a'r adolygiad Llwybr Llety Dros Dro.

Nid yw pobl yn treulio mwy o amser nag sydd ei angen arnynt mewn Tai â Chymorth Dros Dro.

 

2

Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd.

Datblygu llwybr symlach cyson i unigolion gael mynediad i lety â chymorth dros dro:

Ystyried argymhellion yr adolygiad o feddwl trwy systemau.

Cefnogi'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym

 

Byr

Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol/Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai a Darparwyr

Datblygu llwybr llety dros dro gan sicrhau bod yr opsiynau sydd ar gael yn addas ar gyfer llety ac anghenion cymorth unigolyn.

Proses ac ystod o ddarpariaeth sy'n cefnogi'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.

 

2

Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd.

 

Lleihau'r rhwystrau rhag cael llety â chymorth dros dro a mwy hirdymor.

E.e.

Lefelau taliadau Rhent a Gwasanaeth.

Diffyg gallu i ddarparu ar gyfer pobl ag anifeiliaid anwes.

Diffyg llety â chymorth addas i barau.

Gwaharddiadau troi allan blaenorol.

Y gallu i reoli risgiau uchel mewn lleoliadau.

Diffyg darpariaeth i ferched yn unig (lle mae cyfleusterau a rennir)

 

Byr

Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai/Rheolwr Opsiynau Tai.

Chwalu rhwystrau rhag mynediad.

2

Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd.

 

Datblygu cynllun caffael i ddarparu ystod o Lety â Chymorth Dros Dro sy'n cyfrannu at bontio i Ddull Ailgartrefu Cyflym/a Arweinir gan Dai ac sy'n sicrhau canlyniadau gwell ac yn cwtogi ar achosion o droi allan 

Byr/canolig

Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai / Tîm Atal Digartrefedd.

Cyflawni nod y Cynllun Ailgartrefu Cyflym.

2

Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd.

Sicrhau bod Cydlynu Ardal Leol yn cwmpasu'r gymuned gyfan.

 

 

 

Byr/canolig.

Cydlynydd Plant sy'n Derbyn Gofal/Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai.

Gwasanaeth ymyrraeth gynnar yn cwmpasu pob cymuned yn llawn.

2

Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd.

Mae Cymorth Ailgartrefu Cyflym ar gael ac yn cael ei gynnig i gefnogi mewn Gwely a Brecwast yn syth ar leoliad neu cyn gynted â phosibl.

Byr

Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai/Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol.

Cynigir cymorth yn gyflym i bawb sy'n cael eu rhoi mewn Llety Dros Dro Brys.

1 ac 2

Cryfhau a chynyddu gwasanaethau ar waith i atal digartrefedd.

Sicrhau bod cymorth priodol ar gael ar yr adeg gywir i bobl sydd mewn perygl neu sy'n dioddef o ddigartrefedd.

Adrodd yn rheolaidd am restri aros yr Uned Cymorth Tenantiaeth ar draws yr holl grwpiau cleientiaid, a'u monitro.

 

Byr

Rheolwr yr Uned Cymorth Tenantiaeth

 

Sicrhau bod amser aros am gymorth tenantiaeth yn cael ei leihau cymaint â phosibl a bod cymorth argyfwng cyflym ar gael.

3

Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. 

 

Datblygu Tîm Cymorth Ailgartrefu Cyflym pwrpasol mewnol yn yr Uned Cymorth Tenantiaeth

 

Byr

 

Cydlynydd yr Uned Cymorth Tenantiaeth

 

Cymorth Ailgartrefu Cyflym wedi'i ymgorffori o fewn Gwasanaeth mewnol yr Uned Cymorth Tenantiaeth

 

3

Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.

Cwblhau Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym a'i weithredu.

 

Byr

 

Swyddog Cynllunio, Perfformiad a Datblygu Grant Cymorth Tai / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol

 

Bod Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym ar waith, a'i weithredu'n destun monitro.

 

3

Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. 

Sefydlu grŵp partneriaeth strategol i ddatblygu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.

Parhau i gefnogi grŵp misol Ailgartrefu Cyflym gweithredol presennol.

Byr

Tîm Grant Cymorth Tai / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol 

Bod Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym ar waith wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth.

3

Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.

Cwblhau Adolygiad Comisiynu Tai â Chymorth Llety Dros Dro gan gynnwys manyleb gwasanaeth a chynllun caffael sy'n mynd i'r afael â'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym.

Canolig

 

Tîm Grant Cymorth Tai / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol

 

Manyleb gwasanaeth a chynllun caffael ar waith sy'n mynd i'r afael â'r cynllun pontio Ailgartrefu Cyflym. 

3

Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.

Monitro'r defnydd o lety dros dro i aelwydydd digartref, a'r amser a dreulir yno, ac adrodd am hyn.

 

 

Canolig

 

 

Rheolwr Opsiynau Tai

 

Mesurau ar waith ar amser a dreulir mewn llety dros dro. Gostyngiad yn y defnydd o lety dros dro a'r amser a dreulir yno.

 

3

Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.

Monitro'r amser a dreulir mewn Tai â Chymorth Dros Dro cyn symud ymlaen, ac adrodd amdano.

Byr

Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai

Tueddiadau'n cael eu monitro

 

Amser a dreulir mewn Tai â Chymorth Dros Dro yn cael ei leihau yn ôl yr angen.

3

Datblygu a mabwysiadu dull Ailgartrefu Cyflym mewn partneriaeth â rhanddeiliaid. 

Adolygu a Gwerthuso Prosiect Tai yn Gyntaf

 

Canolig

 

Swyddog Cynllunio Perfformiad a Datblygu / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol

 

Cyrraedd targedau Tai yn Gyntaf.

 

4

Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd. 

 

Parhau i hwyluso a chefnogi Cell Digartrefedd Aml-Asiantaeth Abertawe

 

Byr/canolig

 

Swyddog Cynllunio Perfformiad a Datblygu / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol

 

Cyfarfodydd rheolaidd gyda phresenoldeb da gan bartneriaid a chamau gweithredu dynamig parhaus o ganlyniad i waith y grŵp.

 

4

Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.

Parhau i gefnogi a hwyluso'r Fforwm Cydweithredol Digartrefedd a'r Grant Cymorth Tai

 

Byr / Canolig

 

Swyddog Cynllunio Perfformiad a Datblygu / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol

 

Cyfarfodydd rheolaidd gyda phresenoldeb da gan randdeiliaid. Cyfle i randdeiliaid allweddol lywio a dylanwadu ar ddatblygiad blaenoriaethau ac ymatebion strategol i atal a lleddfu digartrefedd.

 

4

Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.

Gweithio gyda phartneriaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i amlinellu a chytuno ar ddisgwyliadau i nodi sut y bydd y sector tai cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i leddfu digartrefedd.

 

Byr/canolig

 

Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol

 

  • Mwy o ddyraniadau ar gyfer aelwydydd digartref
  • Achosion isel o droi allan i ddigartrefedd, neu ddim o gwbl
  • Gwariant /datblygiad y Grant Cymorth Tai yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol yr Awdurdod Lleol
  • Gostwng y rhwystrau rhag cael at dai cymdeithasol

4

Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.

Gyda phartneriaid, mapio'r ddarpariaeth ar waith i gynorthwyo a chynghori unigolion nad ydynt yn gymwys am gymorth tai a digartrefedd. E.e. Y rhai na allant fynd ar ofyn arian cyhoeddus.

 

 

 

Canolig

 

Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol

Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Partneriaethau ar waith i gefnogi'r holl aelwydydd anghymwys

 

4

Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.

Gweithio gyda'r Gwasanaeth Prawf a phartneriaid allweddol yn y sector gwirfoddol i adolygu pa mor effeithiol yw'r Llwybr Carcharorion yn flynyddol.

 

Byr

 

Rheolwr Opsiynau Tai

Prawf

 

Trefniadau effeithiol ar waith i leihau digartrefedd ymhlith cyn-droseddwyr a lleihau aildroseddu.

 

4

Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.

Adolygu Polisi Dyraniadau Tai y Cyngor

 

Canolig/Hir

 

Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol

 

Polisi dyrannu newydd ar waith sy'n adlewyrchu'r newidiadau mewn deddfwriaeth a blaenoriaethau.

 

4

 Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.

Mynychu'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a'r Fforwm Tai Rhanbarthol i lywio a chefnogi datblygiad blaenoriaethau strategol ar draws tai, iechyd a gofal cymdeithasol sy'n darparu trawsnewid rhanbarthol a lleol.

 

Byr/ Canolig

 

Pennaeth Tai ac Iechyd y Cyhoedd

 

 

Sicrhau bod Strategaeth y Rhaglen Cymorth Tai yn cydredeg â blaenoriaethau'r Strategaeth Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai i sicrhau canlyniadau gwell i ddinasyddion.

4

Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.

Ymrwymo i ddefnyddio'r Grant Cymorth Tai ar gyfer ymyriadau iechyd anstatudol hanfodol i'r rhai mewn Llety Dros Dro Brys  a Llety â Chymorth Dros Dro

  • Parhau i weithio mewn partneriaeth â rhwydweithiau Gofal Sylfaenol a Meddygon Teulu Gwell Meddygfeydd i ariannu darpariaeth Camddefnyddio Sylweddau a Nyrs Iechyd Meddwl Allgymorth Digartref anstatudol.  
  • Parhau i ariannu Gweithwyr Sylweddau Allgymorth.

 

Byr

 

Swyddog Cynllunio Perfformiad a Datblygu / Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol

 

Bod tîm amlddisgyblaethol lleiafswm rhithwir ar waith i gefnogi niferoedd digynsail mewn llety dros dro brys tra bod nod tymor canolig yn cael ei weithredu.

 

4

Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.

Mynd ati i chwilio am opsiynau cyllid arbenigol eraill e.e. ICF neu gyllid Bwrdd Cynllunio Ardal ac iechyd arall i sefydlu a chynnal tîm anghenion cymhleth aml-asiantaeth.

 

Canolig

 

Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai/Opsiynau Tai

 

Sefydlu tîm anghenion cymhleth i ddarparu gwell mynediad a mwy o allu i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau er mwyn iddynt allu cynnal cartref sefydlog.

 

4

Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.

Sicrhau bod Adolygiad Comisiynu o Wasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yn cael mewnbwn gan Gymorth Digartrefedd a Thai a thîm rhithwir anstatudol i gyfrannu anghenion pobl sy'n ddigartref.

 

 

Byr

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Prif Swyddog Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

Bwrdd Cynllunio Ardal, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r Gwasanaeth Digartrefedd a Thîm y Grant Cymorth Tai.

 

Chwalu'r rhwystrau a nodwyd i bobl ddigartref rhag cael at y gwasanaethau cymorth a thrin camddefnyddio sylweddau, a hwythau'n gallu cynnal eu llety yn well.

 

.

4

Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.

Cwblhau'r adolygiad comisiynu Iechyd Meddwl i lywio opsiynau caffael ar gyfer llety a chymorth arbenigol Iechyd Meddwl.

Darparu unedau hunangynhwysol gwasgaredig/clwstwr tymor hwy ychwanegol a llety a rennir gan fenywod yn unig.  

 

 

Canolig

 

Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai/Gwasanaethau Cymdeithasol/Iechyd/

Digartrefedd

 

Bod gwasanaethau'n addas ar gyfer y dyfodol gan ddarparu gwasanaethau arbenigol sy'n canolbwyntio ar adferiad ac sy'n cael eu llywio gan drawma a seicoleg, gan baratoi pobl i symud ymlaen i lety mwy sefydlog a chynaliadwy gyda chymorth.   

Diwallu anghenion heb eu diwallu

 

4

Parhau i ddatblygu a gwella gwaith partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o atal digartrefedd.

Datblygu protocol effeithiol rhyddhau o'r ysbyty ar gyfer pobl sy'n cael problemau iechyd meddwl o ysbytai/wardiau Cyffredinol a Seiciatrig ac adolygu'r effeithiolrwydd yn flynyddol.

 

Byr

Opsiynau Tai

Iechyd

Bod protocol clir ar waith ar gyfer dull arfaethedig o asesu llety ac opsiynau cymorth i bobl sy'n gadael yr ysbyty

5

Gweithio mewn partneriaeth i gryfhau'r ddarpariaeth gymorth i bobl sydd ag anghenion cymhleth, gan gynnwys iechyd meddwl, anabledd dysgu, camddefnyddio sylweddau a VAWDASV.

Ymestyn cymorth a llety arbenigol VAWDASV i bobl sy'n ei chael yn anodd cael at wasanaethau cyfredol.

 

 

 

 

Canolig

 

 

 

Arweinydd Strategol VAWDASV / tîm y Grant Cymorth Tai 

 

 

 

 

Sicrhau bod yr un gwasanaethau ar gael yn gyfartal i ddioddefwyr, a'r gwasanaethau hynny wedi'u hadnoddu'n briodol, o ansawdd uchel, wedi'u harwain gan anghenion, yn seiliedig ar gryfder, ac yn ymatebol i rywedd.   

 

6

Parhau i gynyddu'r cyflenwad o lety addas a fforddiadwy. 

Mae Rhaglen Mwy o Gartrefi wedi gosod uchelgais cyflawni 10 mlynedd ar gyfer 1000 o gartrefi newydd y Cyngor o 2021-2031

Mae'r 4 Landlord Cymdeithasol Cofrestredig presennol sydd wedi'u gosod i ddatblygu yn Abertawe rhyngddynt yn rhagfynegi darparu dros 4000 o gartrefi newydd dros y 10 mlynedd nesaf.

Parhau â rhaglen gaffael yr ALl, gan gynnwys cynllun yn blaenoriaethu fflatiau 1 ystafell wely er mwyn delio â'r argyfwng uniongyrchol a lleihau nifer yr aelwydydd sengl mewn llety gwely a brecwast mor gyflym â phosib. D.S. Mae'r rhaglen hefyd yn caffael fflatiau a thai mwy o faint i gynyddu'r cyflenwad cyffredinol mewn ardaloedd o angen ar gyfer aelwydydd mwy o faint.

 

Tymor Hir

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Canolig

Rheolwr Datblygu a'r Strategaeth Tai

 

Adeiladu 1000 o gartrefi cyngor newydd erbyn 2031.

4000 o dai fforddiadwy newydd ychwanegol erbyn 2031.

Cynyddu eiddo 1 ystafell wely ar gael yn syth i'w osod yn stoc yr ALl.

Gostwng nifer yr aelwydydd mewn llety gwely a brecwast.

 

6

Parhau i gynyddu'r cyflenwad o lety addas a fforddiadwy.

Parhau i gynyddu'r cyflenwad o eiddo rhentu preifat addas a fforddiadwy drwy sefydlu cynllun gosodiadau cymdeithasol ar gyfer eiddo'r sector preifat.

 

Canolig

Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol / Tîm Sector Rhentu Preifat Wallich

Sefydlu Asiantaeth Gosodiadau Cymdeithasol Abertawe erbyn 2023. Nifer darged yr eiddo i'w chyhoeddi

 

6

Parhau i gynyddu'r cyflenwad o lety addas a fforddiadwy.

Sicrhau bod llety gwely a brecwast yn cael ei ddefnyddio ar gyfer teuluoedd mewn argyfwng yn unig ac nad eir heibio'r targed hwnnw.

 

Hir

 

Rheolwr Datblygu a'r Strategaeth Tai

 

Cyrraedd targed y dangosydd perfformiad

 

6

Parhau i gynyddu'r cyflenwad o lety addas a fforddiadwy.

Atal defnyddio llety gwely a brecwast ar gyfer pobl 16 a 17 oed.

 

Byr

 

Rheolwr Digartrefedd Ieuenctid /Rheolwr Opsiynau Tai

 

Cyrraedd targed y dangosydd perfformiad

 

6

Parhau i gynyddu'r cyflenwad o lety addas a fforddiadwy.

Cynyddu'r ddarpariaeth llety dros dro sydd ar gael i bobl sengl a theuluoedd

 

Byr

Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol

Defnyddio llai o lety gwely a brecwast

7

Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid i gyflwyno mecanweithiau rheolaidd ar gyfer ymgysylltu a chyd-gynhyrchu i lywio datblygiad a gwelliant gwasanaethau 

 

Ymgorffori egwyddorion cyd-gynhyrchu wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.

 

 

 

 

Byr/ canolig

Hir

Swyddog Cynllunio Perfformiad a Datblygu'r Grant Cymorth Tai

Rheolwr Opsiynau Tai

Rheolwr Opsiynau Tai

Gweithredu dulliau cyd-gynhyrchu yn ystod adolygiadau comisiynu gan wneud gwahaniaeth i ganlyniadau cynllunio gwasanaethau.

Ymgorffori cyd-gynhyrchu mewn manylebau tendr a'i fesur yn rhan o ddarparu gwasanaethau effeithiol.

 

7

Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid i gyflwyno mecanweithiau rheolaidd ar gyfer ymgysylltu a chyd-gynhyrchu i lywio datblygiad a gwelliant gwasanaethau

Cynnal arolygon boddhad gyda:

·     Chleientiaid Opsiynau Tai (digartrefedd a chyngor ar dai)

·     Aelwydydd mewn llety dros dro

·     Nodi ffyrdd o sicrhau ymgysylltu gan grwpiau sydd â "nodweddion gwarchodedig"

 

Canolig

 

Cwblhau arolygon ac adrodd am ganfyddiadau i'r Gell Ddigartrefedd a'r Fforwm Digartrefedd/Grant Cymorth Tai.

 

Nodi gwelliannau a chamau gweithredu gwasanaeth ychwanegol i'w cynnwys yng nghynllun gweithredu'r Rhaglen Cymorth Tai.

 

7

Gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid i gyflwyno mecanweithiau rheolaidd ar gyfer ymgysylltu a chyd-gynhyrchu i lywio datblygiad a gwelliant gwasanaethau

Cyflwyno dull cydgynhyrchiol gyda defnyddwyr gwasanaeth er mwyn datblygu'r canlynol:

  • Safonau gwasanaeth ar gyfer Opsiynau Tai
  • Safonau ysgrifenedig ar gyfer llety dros dro

 

Canolig

 

Cynhyrchu a chyhoeddi Safonau Gwasanaeth ar gyfer Opsiynau Tai a llety dros dro

8

Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.

Gweithredu canfyddiadau Adolygiad o Feddwl trwy Systemau

 

byr/canolig

Rheolwr 

Digartrefedd Ieuenctid

Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc

 

Mwy o gymorth ar gael i helpu i gefnogi annibyniaeth a phontio i fod yn oedolyn

 

8

Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.

Cwblhau'r Cyd-adolygiad Comisiynu ar Gymorth a Llety i Bobl Ifanc.

Byr /Canolig

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Tîm y Grant Cymorth Tai /

Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc

 

 

 

 

 

Adolygiad wedi'i gwblhau a chynllun comisiynu ar waith

 

Adolygiad wedi'i gwblhau a model wedi'i ddatblygu.

8

Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.

 

Adolygu a gwerthuso cynllun Tai yn Gyntaf a ariennir gan Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc. Ystyried cynyddu nifer yr unedau.

 

Byr

 

Rheolwr 

Digartrefedd Ieuenctid

Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc

 

Adolygiad wedi'i gwblhau a model wedi'i ddatblygu.

 

Tymor hwy - cynnig sy'n unol â'r hyn sy'n bwysig i bobl ifanc yn Abertawe ac sy'n adlewyrchu mwy o ddewis a rheolaeth

 

8

Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.

 

Hyrwyddo a sicrhau gweithredu Siarter Digartrefedd Ieuenctid o fewn y Cyngor ac ymhlith partneriaid.

Byr/ Canolig

Rheolwr Digartrefedd Ieuenctid

 

Siarter Digartrefedd Ieuenctid wedi'i gwreiddio yn y gwasanaeth.

 

 

 

 

8

Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.

 

Gwreiddio'r gwasanaeth fflat hyfforddi pontio fel rhan o'r cynnig lleol ac archwilio ehangu model Tai yn Gyntaf i ieuenctid yn Abertawe ar ôl ei werthuso fel rhan o'r adolygiad o lety â chymorth a chymorth fel y bo angen

 

Byr/ Canolig

Rheolwr 

Digartrefedd Ieuenctid

Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc

 

Mwy o bobl ifanc yn cael at wasanaethau'r Awdurdod Lleol neu fyw'n annibynnol yn y sector rhentu preifat.

 

Mwy o opsiynau ar gael i Bobl Ifanc

 

 

 

 

8

Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.

 

Parhau i ddefnyddio Grant Cymorth Ieuenctid i gydredeg â'r Grant Cymorth Tai a chryfhau ein ffocws ar atal Digartrefedd Ieuenctid drwy ddefnyddio gwaith atal Troi Allan ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal, swyddogaeth cydlynu gweithdrefn asesu safonol a chynnig blaen tŷ i bobl ifanc y mae angen cymorth a chyngor arnynt ar unwaith

 

Canolig

Rheolwr 

Digartrefedd Ieuenctid

Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc

 

Gostwng y niferoedd sy'n cael eu troi allan

Gwella niferoedd symud

Gwell paru a chynigion lleoliad

 

8

Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.

 

Parhau i ddatblygu swyddogaeth 'Pan Wyf yn Barod' o fewn gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc i sicrhau bod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael y cyfle i aros gyda gofalwyr maeth/ffrindiau a theulu.

 

Byr

Rheolwr 

Digartrefedd Ieuenctid

Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc

 

Cynyddu niferoedd y bobl ifanc sy'n aros mewn amgylchiadau 'Pan Wyf yn Barod' a hyrwyddo mwy o sefydlogrwydd a chanlyniadau gwell fel aros mewn hyfforddiant ac addysg am gyfnod hirach

 

8

Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.

 

Defnyddio cyllid atal i barhau i leihau risgiau troi allan a hybu llety a / neu sefydlogrwydd tenantiaeth i bobl ifanc.

 

Byr

Rheolwr 

Digartrefedd Ieuenctid

Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc

 

Lleihau niferoedd troi allan, sylwi ar sbardunau, anghenion yn gynharach, ac ymyrryd yn gynharach i atal problemau rhag gwaethygu

8

Cryfhau'r ddarpariaeth cymorth a llety i bobl ifanc.

 

Parhau i ddefnyddio'r Grant Cymorth Tai i gefnogi gweithrediad parhaus rôl atal digartrefedd haen 3 fel rhan o atal ac ymyrraeth gynnar

 

Byr

Rheolwr 

Digartrefedd Ieuenctid

Prif Swyddog - Gwasanaethau'r Glasoed a Phobl Ifanc

 

Atal digartrefedd yn gynnar

Gwell cyfryngu gyda theuluoedd ac atal yr angen i ddod o hyd i lety 

 

9

Darparu ymatebion cadarn i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd a dileu'r angen i unigolion gysgu ar y stryd.

Parhau i weithredu'r ymateb brys parhaus i bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ystod y pandemig

 

 

 

Byr

 

 

 

 

 

 

 

Rheolwr Gweithrediadau Tai Cymunedol

 

 

 

 

 

Monitro data cysgu ar y stryd a'i adrodd yn fisol i Gell Ddigartrefedd, cadw'r niferoedd sy'n cysgu ar y stryd mor isel â phosibl.

 

9

Darparu ymatebion cadarn i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd a dileu'r angen i unigolion gysgu ar y stryd.

Cwblhau adolygiad amlasiantaethol o'r ddarpariaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael i osgoi'r angen i gysgu ar y stryd.

 

Canolig

 

Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai/ Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol

 

Sicrhau bod gwasanaethau a gomisiynir yn cwrdd â nodau cyrraedd pawb sy'n cysgu ar y stryd gyda 24 awr o hysbysu a dileu'r angen i gysgu ar y stryd.

 

9

Darparu ymatebion cadarn i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd a dileu'r angen i unigolion gysgu ar y stryd.

Adolygiad o Wasanaethau Grant Atal Digartrefedd yn pontio i brif raglen y Grant Cymorth Tai i sicrhau addasrwydd at y diben a chyfrannu at Gynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym. 

 

Byr

 

Tîm Comisiynu'r Grant Cymorth Tai/ Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Tai Cymunedol

Cyrraedd safbwynt clir wedi amddiffyniad wedi'i glustnodi ar gomisiynu blaenoriaeth strategol fel rhan o brif raglen y Grant Cymorth Tai.

9

Darparu ymatebion cadarn i gefnogi pobl sy'n cysgu ar y stryd a dileu'r angen i unigolion gysgu ar y stryd.

Cynnal adolygiad blynyddol o'r Cynllun Tywydd Garw.

 

Byr

Rheolwr Opsiynau Tai/ Tîm Comisiynu'r  Grant Cymorth Tai

 

Wedi cwblhau adolygiad a chynllun yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol.

 

Sylwch y gallai rhai camau gweithredu gyfrannu at fwy nag un flaenoriaeth.

Close Dewis iaith