Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Corfforaethol

Mae'r Cynllun Corfforaethol yn disgrifio gweledigaeth y cyngor dros Abertawe, ein 6 blaenoriaeth allweddol (amcanion lles ac amcanion gwella) a gwerthoedd ac egwyddorion ein sefydliad a fydd yn sylfaen i gyflwyno'n blaenoriaethau a'n strategaeth gyffredinol.

Dyma'n blaenoriaethau ar gyfer 2021/22 sy'n cael eu nodi yn ein Cynllun Corfforaethol:

  • Diogelu pobl rhag niwed - er mwyn sicrhau bod ein dinasyddion yn ddiogel rhag niwed a chamfanteisio
  • Gwella addysg a sgiliau - fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd
  • Trawsnewid ein heconomi a'n hisadeiledd - fel bod gan Abertawe ganol dinas defnydd cymysg, ffyniannus ac economi leol a fydd yn cefnogi ffyniant ein dinasyddion
  • Trechu tlodi - fel bod pob person yn Abertawe'n gallu cyflawni ei botensial
  • Cynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaeth Abertawe - fel ein bod yn cynnal ac yn cyfoethogi bioamrywiaeth, yn lleihau ein hôl-troed carbon, yn gwella'n gwybodaeth am yr amgylchedd naturiol a'n dealltwriaeth ohono ac yn gwella'n hiechyd a'n lles yn sgîl hyn
  • Trawsnewid a datblygu cyngor y dyfodol - fel ein bod ni a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu'n gynaliadwy ac yn addas i'r dyfodol.

Mae'r cyngor yn cario ei Gynllun Corfforaethol pum mlynedd ymlaen i 2021/22. Gwnaed diweddariadau hanfodol ac angenrheidiol, ond nid oedd yn bosib adolygu ac adnewyddu'r cynllun oherwydd tarfu o ganlyniad i'r pandemig.

Mae hyn yn cyflwyno'n dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i osod Amcanion Lles ac Amcanion Gwella.

Dengys ein blaenoriaethau gyfraniad y cyngor at saith nod cenedlaethol Cymru a ddisgrifir yn y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol ('y Ddeddf') ac maent yn disgrifio sut byddwn yn mwyafu'r cyfraniad hwn i'r nodau cenedlaethol ac i les cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Abertawe drwy weithio'n unol â'r egwyddorion cynaladwyedd a amlinellir yn y Ddeddf.

 

Cynllun Corfforaethol Dinas a Sir Abertawe 2021/22

Rhagair

 

Mae nifer o heriau mawr yn wynebu'r byd, y DU, Cymru ac Abertawe. Mae llawer o'r heriau hyn yn cael effaith fawr ac yn gofyn i ni weithio mewn ffordd wahanol i'r ffordd rydym wedi gweithio o'r blaen; ac mae hyn yn wir yn achos effaith y pandemig COVID-19.

Mae pandemig Coronafeirws wedi newid y ffordd rydym yn byw, yn gweithio ac yn treulio'n hamser yn ddramatig - gyda mesurau a roddir ar waith gan y Llywodraeth yn newid yn barhaus i reoli ymlediad y feirws angheuol hon.

Ers mis Mawrth 2020, ffocws y cyngor yw arbed bywydau, lleihau ymlediad y feirws a chefnogi'n holl gymunedau. Ers dechrau'r argyfwng, mae staff a phartneriaid y cyngor wedi dangos eu parodrwydd, eu hyblygrwydd, eu hymrwymiad a'u hymroddiad i gyflwyno gwasanaethau rheng flaen i gymunedau'r ddinas, gan wirfoddoli i gefnogi meysydd blaenoriaeth wrth addasu i ffyrdd newydd o weithio ar yr un pryd.

Rydym yn parhau i gynnal y mwyafrif o'n gwasanaethau mewn gwahanol ffordd, ac mae llawer o staff yn parhau i weithio gartref. Nid yw'r model hwn yn gynaliadwy yn ei fformat presennol ac yn awr, mae angen i ni reoli'r presennol yn ogystal â chynllunio ar gyfer y dyfodol. Er mwyn gwneud hyn, rydyn wedi llunio Cynllun Adfer -Cyflawni Pethau'n Well Gyda'n Gilydd - a fydd yn caniatáu i ni adfer a thrawsnewid y cyngor fel ei fod yn gallu ymateb yn well i heriau'r presennol a'r dyfodol.

Yn ogystal ag ymdrin â COVID-19, roedd y cyngor yn paratoi ar gyfer ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr. Bydd ymadawiad y DU yn golygu perthynas newydd rhwng y DU a'r UE. Er nad dyma yr oeddem am ei weld ac er bod gennym rai pryderon difrifol o hyd, mae Abertawe mewn sefyllfa dda i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd newydd a allai godi ar ôl Brexit.

Mae newid yn yr hinsawdd yn un o'r peryglon a'r heriau mwyaf sydd yn ein hwynebu ni i gyd, ac mae angen i ni feddwl am sut gallwn addasu, lleihau ein hallyriadau carbon a thŷ gwydr a lleihau ein perygl o ddioddef llifogydd ac effeithiau sylweddol eraill. Mae hyn hefyd yn ymwneud â gwneud gwell defnydd o'n tir a'n hadnoddau naturiol wrth geisio gwarchod ein hamgylchedd naturiol a gwella bioamrywiaeth.

I fynd i'r afael â'r heriau hyn, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd. I roi ansawdd bywyd da i breswylwyr presennol a chenedlaethau'r dyfodol, mae angen i ni feddwl beth fydd effaith tymor hir ein penderfyniadau. Mae'n rhaid i ni wneud pethau'n wahanol er mwyn newid pethau. Os ydym yn mynd i drechu'r heriau hyn, mae angen i ni feddwl mwy am y tymor hir, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau a'n gilydd, ceisio atal problemau a defnyddio ymagwedd fwy cydlynol. Bydd hyn yn ein helpu i greu Abertawe a Chymru rydym oll am fyw ynddynt, nawr ac yn y dyfodol.

- Cyng. Rob Stewart Arweinydd y Cyngor

- Phil Roberts Prif Weithredwr

 

1. Cyflwyniad - Adolygiad o'r Cynllun Corfforaethol a'r Amcanion Lles

Cyhoeddodd Dinas a Sir Abertawe ei ddatganiad lles cyn 31 Mawrth 2017 fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae'r datganiad lles yn nodi'n blaenoriaethau allweddol ar gyfer 2017/18. Y blaenoriaethau hyn, a elwir yn 'amcanion lles', yw ein hamcanion ar gyfer gwella lles amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol Abertawe a Chymru.

Aethom ati i adolygu a chyhoeddi'r Cynllun Corfforaethol hwn ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2017.

Aed ati i adolygu'r Cynllun Corfforaethol a'm hamcanion lles drwy ymgynghori â phobl leol a thrwy asesu'r dystiolaeth ganlynol:

  • Tueddiadau a heriau'r dyfodol.
  • Asesiad o les lleol.
  • Ein hamcanion cydraddoldeb, gan gynnwys y Gymraeg.
  • Cyfeiriad at ddangosyddion cenedlaethol.
  • Ein hymrwymiadau polisi.

 

Yn dilyn yr adolygiad hwn, diwygiwyd ein Cynllun Corfforaethol a'n hamcanion lles ar gyfer 2017/22 a chafodd crynodeb o'r datganiad lles ei gynnwys yn y cynllun.

Mae'r Cynllun Corfforaethol yn disgrifio'r camau sy'n cael eu cymryd i fodloni'n hamcanion lles a chyfrannu at y saith nod llesiant cenedlaethol1 sy'n cael eu hamlinellu yn y Ddeddf.

Mae'r cynllun hefyd yn nodi sut rydym yn mwyafu'n cyfraniad at ein hamcanion lles a'n nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio, sy'n unol ag egwyddorion cynaliadwy fel a ganlyn:

 

  • Edrych i'r dyfodol at yr heriau tymor canolig a thymor hir.
  • Atal problemau rhag codi neu waethygu.
  • Sicrhau nad yw ein hamcanion yn gwrthddweud ei gilydd, a'u bod yn ategu rhai cyrff cyhoeddus eraill.
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill.
  • Cynnwys pobl leol.

 

Mae'r Cynllun Corfforaethol 5 mlynedd yn cael ei gyflwyno yn 2021/22; diweddarwyd gwybodaeth berthnasol yn ôl yr angen ar gyfer 2021/22, gan gynnwys camau i ddelio ag effaith pandemig COVID-19.

1 Y Nodau Cenedlaethol yw: Cymru lewyrchus; Cymru gydnerth; Cymru iachach; Cymru sy'n fwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynus; Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu; Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

 

COVID-19

Mae Argyfwng Covid-19 wedi cyflwyno heriau sylweddol a digynsail i'r ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau, yn cefnogi gweithio mewn partneriaeth a'n ffordd o fyw. Ers mis Mawrth 2020, ffocws y cyngor fu arbed bywydau, lleihau ymlediad y feirws a chefnogi'n holl gymunedau.

Ers dechrau'r argyfwng, mae staff a phartneriaid y cyngor wedi dangos eu parodrwydd, eu hyblygrwydd, eu hymrwymiad a'u hymroddiad i gyflwyno gwasanaethau rheng flaen i gymunedau'r ddinas, gan wirfoddoli i gefnogi meysydd blaenoriaeth wrth addasu i ffyrdd newydd o weithio ar yr un pryd.

Mae'r cyngor bellach yn gweithredu mwyafrif ei wasanaethau ar ffurf wahanol ac (ar y cyfan) mae llawer o staff yn parhau i weithio gartref. Nid yw'r model hwn yn gynaliadwy yn ei fformat presennol ac yn awr mae angen i'r cyngor reoli'r presennol yn ogystal â chynllunio ar gyfer y dyfodol.

I wneud hyn, rhoddwyd ystyriaeth i lunio rhaglen adfer - Cyflawni Pethau'n Well Gyda'n Gilydd - a fydd yn adleoli'r cyngor, yn ailffocysu'r cyngor i allu bod yn effeithlon ac yn effeithiol wrth gyflawni'r Cynllun Corfforaethol a'i flaenoriaethau cyfredol, gan ystyried y newidiadau i'r economi, amddiffyniadau iechyd, cyfyngiadau parhaus COVID-19 ac yn olaf, yn ail-drefnu gan edrych y tu hwnt i'r 2 flynedd nesaf a nodi Cynllun Corfforaethol newydd o 2022 gan adeiladu ar ein rhaglen drawsnewid flaenorol, Abertawe Gynaliadwy: yn addas ar gyfer y dyfodol.

 

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 -24

Mae cydberthynas agos rhwng Cynllun Corfforaethol ac Amcanion Lles y cyngor a Chynllun Cydraddoldeb Strategol ac Amcanion Cydraddoldeb y cyngor. Cyhoeddwyd Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd yn ystod 2020/21. Bellach mae llawer o'r camau i gyflwyno amcanion lles a chydraddoldeb y cyngor yn cyfateb yn well wrth i ni fynd ar drywydd integreiddio a cheisio gwella lles ac anelu at Abertawe a Chymru fwy cyfartal.

 

2. Crynodeb o'r Datganiad Lles

Ein Cynllun Corfforaethol - gweledigaeth, gwerthoedd, egwyddorion ac amcanion lles

 

Mae ein Cynllun Corfforaethol Cyflwyno Abertawe Lwyddiannus a Chynaliadwy a'n hamcanion lles yn amlinellu sut byddwn yn gweithio i ateb heriau presennol a rhai'r dyfodol.

 

Yr heriau sydd i ddod

Mae Abertawe'n wynebu sawl her yn y blynyddoedd sydd i ddod, sy'n cynnwys:

  • Newidiadau poblogaeth - Abertawe sy'n tyfu, sy'n heneiddio ac sy'n fwy amrywiol.
  • Newidiadau economaidd - denu buddsoddiad, swyddi o safon a thechnoleg newydd i Abertawe wrth fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau.
  • Newid yn yr hinsawdd - peryglon llifogydd, ansawdd aer a dŵr, peryglon i ecosystemau a bioamrywiaeth a diogelwch ynni.
  • Newidiadau cymdeithasol a diwylliannol - mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, addysg, cyflogaeth a chyfleoedd bywyd.
  • COVID-19 - Helpu Abertawe i adfer a thrawsnewid y cyngor fel y gellir wynebu'r newidiadau a'r heriau newydd sydd o'n blaenau.

 

Rydym wedi ceisio mynd i'r afael â heriau'r presennol a'r dyfodol drwy ein Cynllun Corfforaethol a'n hamcanion lles. Wrth symud ymlaen ac edrych y tu hwnt i'r ddwy flynedd nesaf, bydd ymadawiad y DU o'r UE ac effaith COVID-19, gan gynnwys newidiadau i'r economi, amddiffyniadau iechyd ac unrhyw gyfyngiadau COVID-19 parhaus, yn cael eu hystyried a'u nodi mewn Cynllun Corfforaethol newydd.

 

Ein hamcanion a'n hymrwymiad i breswylwyr - ein hamcanion lles

Er mwyn ateb yr heriau hyn, rydym wedi blaenoriaethu chwe amcan lles, sef:

 

  • Diogelu pobl rhag niwed - er mwyn sicrhau bod ein dinasyddion yn ddiogel rhag niwed a chamfanteisio.
  • Gwella Addysg a Sgiliau - fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.
  • Trawsnewid ein Heconomi a'n Hisadeiledd - fel bod gan Abertawe ganol dinas defnydd cymysg, ffyniannus ac economi leol a fydd yn cefnogi ffyniant ein dinasyddion.
  • Trechu Tlodi - fel bod pob person yn Abertawe'n gallu cyflawni ei botensial.
  • Cynnal a gwella Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth Abertawe - fel ein bod yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth, yn lleihau ein hôl-troed carbon, yn gwella'n gwybodaeth am yr amgylchedd naturiol a'n dealltwriaeth ohono ac yn gwella'n hiechyd a'n lles yn sgîl hyn.
  • Trawsnewid a datblygu'r cyngor yn y dyfodol - fel ein bod ni a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu'n gynaliadwy ac yn addas i'r dyfodol.

 

Sut byddwn yn gweithio - ein gwerthoedd a'n hegwyddorion

Mae ein gwerthoedd a'n hegwyddorion a fynegwyd yn ein Cynllun Corfforaethol yn sail i gyflawni'n hamcanion lles ac maent yn adlewyrchu'r ffyrdd cynaliadwy o weithio:

 

Ein Gwerthoedd

Mae ein cynlluniau'n seiliedig ar dri gwerth clir a fydd yn arwain y ffordd rydym yn gweithio, sut byddwn yn datblygu fel sefydliad a'n penderfyniadau yn y blynyddoedd i ddod.

 

Ffocws ar Bobl

Byddwn yn canolbwyntio ar anghenion a chanlyniadau cymunedau ac ar wella bywydau'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Abertawe. Byddwn hefyd yn parchu, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ein gweithwyr ac yn dangos y safonau uchaf o gywirdeb.

 

Gweithio gyda'n gilydd

Byddwn yn hyrwyddo ymagwedd partneriaeth gyfan, gan weithio ar draws gwasanaethau i fwyafu adnoddau a gwybodaeth a byddwn yn gweithio gydag eraill y tu allan i'r cyngor i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu ein hadnoddau er mwyn cael y gwasanaethau gorau ar gyfer ein cymunedau.

 

Arloesedd

Byddwn yn hyrwyddo ac yn cefnogi diwylliant blaengar. Byddwn yn meddwl ac yn gweithio'n wahanol i wella'n gallu i gyflawni ac ymdopi â'r heriau ariannol, demograffig a chymdeithasol rydym yn eu hwynebu. Mae'r ymateb i argyfwng COVID wedi arwain at newyddbethau a newidiadau sylweddol i'r ffordd y mae staff yn gweithio ac yn darparu gwasanaethau.

 

Ein Hegwyddorion

Bydd ein cynlluniau a'n blaenoriaethau'n seiliedig ar dair egwyddor allweddol. Mae'r egwyddorion hyn yn hanfodol er mwyn cyflawni'n hamcanion lles a chânt eu plethu i mewn i'n ffordd o weithio.

 

Cynaladwyedd

Byddwn yn gweithio i wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Abertawe. Mae hyn yn golygu sicrhau y diwellir anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwy.

Mae'n egwyddor allweddol wrth wraidd ein rhaglen Cyflawni Pethau'n Well Gyda'n Gilydd newydd, sy'n ymwneud ag adfer o COVID-19 a thrawsnewid gwasanaethau'r cyngor, sicrhau dichonoldeb ariannol y Cyngor a gwella canlyniadau i breswylwyr.

Fel rhan o hyn, byddwn yn parhau i ymgysylltu â phreswylwyr a defnyddwyr gwasanaethau a cheisio'u barn. Mae ataliaeth ac integreiddio yn ganolog i'r egwyddor cynaladwyedd a byddwn yn datblygu cynlluniau tymor hir er mwyn mynd i'r afael â'n hamcanion lles, gan gydweithio ag eraill. Drwy'r ymagwedd hon, byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn bodloni gofynion Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Ataliaeth

Byddwn yn ymyrryd yn gynharach er mwyn cefnogi pobl sydd yn y perygl mwyaf, yn newid ymddygiad ac yn atal yr angen am wasanaethau arbenigol drud, gyda rhaglen gefnogi tymor hir yn aml. Bydd hyn yn helpu i wneud teuluoedd a chymunedau'n fwy gwydn, yn lleihau'r galw am wasanaethau'r cyngor, yn lleihau costau ac yn cyflawni gwell canlyniadau. Byddwn yn mabwysiadu ymagwedd cyngor cyfan tuag at reoli'r galw am wasanaethau, gan geisio gwella'n dealltwriaeth o gyswllt â chwsmeriaid a sut gellir ail-lunio gwasanaethau er mwyn atal, lleihau neu arallgyfeirio galw. Er enghraifft, rydym wedi parhau i weithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol i'w cefnogi i wynebu'r heriau parhaus nes caiff y cyfyngiadau symud eu llacio ac ymladd yn erbyn effeithiau COVID-19, wrth roi cynlluniau ar waith i symud y cydbwysedd o ofal acíwt tuag at ofal ataliol a gwasanaethau cymdeithasol.

 

Partneriaethau

Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, busnes a gwirfoddol drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a thrwy ffyrdd cydweithredol eraill er mwyn wynebu'r heriau a rennir gan Abertawe a'i chymunedau.

Mae'r ymagwedd 'Tîm Abertawe' wedi bod yn hanfodol wrth fynd i'r afael â COVID-19, gan weithio fel cyngor cyfan gyda phartneriaid, megis y gwasanaeth iechyd, i sicrhau y gall pob gwasanaeth chwarae rhan wrth gyfrannu at ein hamcanion lles a'n bod yn rhannu adnoddau ac arbenigedd mewn ymateb i COVID-19. Er mwyn diwallu anghenion ein preswylwyr a mynd i'r afael â'r heriau sylweddol sy'n wynebu Abertawe, mae'n rhaid cael partneriaethau cynhyrchiol, integreiddio ein gwasanaethau'n well a rhannu adnoddau.

 

Cyflawni - y camau

Mae ein Cynllun Corfforaethol yn dangos bod ein holl amcanion lles gyda'i gilydd a'r camau rydym yn eu cymryd i'w cyflwyno'n dangos ein cyfraniad at bob un o'r saith nod cenedlaethol ac at les cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Abertawe a Chymru.

Nid yw'n cyfraniad at y nodau cenedlaethol a lles Abertawe a Chymru wedi'u mynegi yn ein Cynllun Corfforaethol yn unig. Mae'r Cynllun Corfforaethol yn nodi ein hamcanion lles allweddol a'n cyfraniad ond mae hefyd yn rhan o'n Fframwaith Gwella Perfformiad ehangach, sy'n cynnwys Cynlluniau Gwasanaeth adrannol, y Cynllun Corfforaethol ynghyd â'r Cynlluniau Gwasanaeth sy'n datgan ein cyfraniad llawn. Gwelir y broses hon isod:

  • Cynllun Corfforaethol
  • Cynlluniau Gwasanaethau
  • Gwerthusiadau

 

Cyflawni - ffyrdd cynaliadwy o weithio

Byddwn yn mwyafu eto'n cyfraniad at les cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Abertawe a Chymru drwy wreiddio ffyrdd cynaliadwy o weithio.

Adlewyrchir y ffyrdd hyn o weithio yn ein gwerthoedd a'n hegwyddorion ond hefyd yn y camau rydym yn eu cymryd ac rydym yn bwriadu eu cymryd, ac a amlygir yn y tabl drosodd, er mwyn mwyafu ein cyfraniad.

 

Edrych ymlaen at heriau'r tymor hir

Mae ein Cynllun Corfforaethol a'n hamcanion lles yn ceisio mynd i'r afael â heriau presennol a thymor hwy.

Rydym wedi dechrau datblygu ymhellach ein gallu i ragweld a chymryd rhagolwg strategol tymor hir sy'n edrych ar dueddiadau a senarios y dyfodol er mwyn creu darlun strategol o'r 10-25 mlynedd nesaf. Rydym wedi bod yn gweithio ar ddatblygu darlun o'r hyn y gallai tueddiadau'r dyfodol ei olygu i'r cyngor ac i gymunedau Abertawe yn y dyfodol; bydd hyn yn rhan bwysig o'n rhaglen Cyflawni Pethau'n Well Gyda'n Gilydd wrth i ni geisio adfer o COVID-19 a thrawsnewid gwasanaethau'r cyngor i fod yn addas ar gyfer y dyfodol.

 

Atal problemau rhag codi neu waethygu

Gyda'n hamcanion lles, rydym yn gweithio i atal problemau neu eu hatal rhag gwaethygu.

Mae angen i'r cyngor barhau i ddatblygu ei ymagwedd ataliol ac i'r perwyl hwnnw, mae wedi datblygu Strategaeth Atal. Bydd y strategaeth hon yn gwreiddio ymyrryd ac atal cynnar ymhellach ym musnes y cyngor a rhoi hyd yn oed mwy o ffocws ar wella lles. Mae llawer o'r ymagwedd at COVID-19 wedi ymwneud ag atal ymlediad y feirws; er enghraifft, drwy weithio gyda phartneriaid i hysbysu a thawelu meddyliau'r cyhoedd ac atgyfnerthu rheoliadau cadw pellter cymdeithasol a rhannu negeseuon cymdeithasol ar gyfryngau cymdeithasol a chyfryngau eraill.

 

Sut mae ein hamcanion lles yn perthyn i'w gilydd ac i gyrff cyhoeddus eraill.

Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, na ellir ystyried y blaenoriaethau hyn fel rhai sy'n gwbl amherthnasol i'w gilydd. Mae'r holl amcanion lles yn effeithio ar ei gilydd.

Er enghraifft, mae gwella addysg a sgiliau yn bwysig i'n hymdrechion i leihau tlodi a gwella'r ddinas a'r economi, sy'n golygu trawsnewid ein system addysg i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc y sgiliau angenrheidiol ar gyfer yr economi newydd a sut gallai cymdeithas newid yn dilyn COVID-19

 

Darlunnir y gyd-ddibyniaeth:

  • Rydym yn gweithio i nodi cysylltiadau ac effeithiau posib amrywiaeth o bolisïau a rhaglenni er mwyn amlygu lle gall y fath bolisïau/raglenni atgyfnerthu neu danseilio'i gilydd.
  • Rydym yn datblygu offeryn integreiddio newydd a fydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i nodi a chryfhau rhyngddibyniaethau.
  • Defnyddiom ein hofferyn blaenorol i asesu ac adolygu'n Cynllun Corfforaethol a'n hamcanion lles, sydd wedi helpu i fapio'n cyfraniad at y nodau cenedlaethol a nodi rhagor o opsiynau ar gyfer mwyafu'r cyfraniad at les cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol Abertawe a Chymru.
  • Yn ystod yr adolygiad o amcanion lles a Chynllun Corfforaethol y cyngor, aeth cynrychiolwyr y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) i un o'r digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus i lywio datblygiad y cynllun.
  • Ymgysylltwyd yn fwy â'n partneriaid bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn 2017 a 2018 ar ein hamcanion lles wrth lunio cynllun lles y BGC; cynigiwyd y cyfle i'n partneriaid y BGC gymryd rhan mewn arolwg i helpu i lywio adolygiad o amcanion lles y cyngor ar gyfer 2018/22.

 

Gweithio ar y cyd ag eraill

Rydym yn cydweithio â phartneriaid o'r sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector er mwyn cymryd camau i gyflawni'n hamcanion lles, gan ddangos ein cyfraniad a'n hopsiynau ar gyfer mwyfau'r cyfraniad at les cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Abertawe a Chymru.

  • Mae ein datganiad lles llawn yn disgrifio enghreifftiau lle mae gwaith partneriaeth yn allweddol i gyflwyno'n hamcanion lles. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol eraill i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion.
  • Gweithio mewn partneriaeth ar ddiogelu gyda chynrychiolwyr o bob un o'r prif asiantaethau a gweithwyr proffesiynol sy'n gyfrifol am helpu i amddiffyn plant ac oedolion rhag cam-drin ac esgeulustod drwy fyrddau Diogelu Plant ac Oedolion Gorllewin Morgannwg.
  • Gweithio gyda thri awdurdod lleol arall, Llywodraeth Cymru, Prifysgolion a'r sector preifat drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe i drawsnewid tirlun economaidd yr ardal, rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi leol a chreu born 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.
  • Gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaeth Iechyd, Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i bandemig COVID-19.

 

Cynnwys ein holl ddinasyddion yn yr hyn rydym yn ei wneud

Mae'r cyngor yn ymroddedig i ymgynghori â phreswylwyr, rhanddeiliaid eraill a gweithwyr a'u cynnwys ym mhroses benderfynu'r cyngor. Mae gennym Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu newydd ar gyfer ymarferwyr i'w helpu i gynnwys preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth.

Yn ogystal â hyn, mae'r cyngor yn ymgysylltu ag amrywiaeth y boblogaeth drwy grwpiau a fforymau amrywiaeth, megis y Rhwydwaith 50+ a'r Fforwm LGBT. Mae disgyblion ysgol yn ymwneud â'u haddysg drwy Gynghorau Ysgol a thrwy Lais y Disgybl, sydd wedi'i anelu'n uniongyrchol at gynyddu cyfranogiad disgyblion fel a nodir yn Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP); Abertawe oedd y cyngor cyntaf yn y DU i fabwysiadu a gwreiddio CCUHP. Mae digwyddiadau Sgwrs Fawr y cyngor yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc drafod materion sydd o bwys iddynt a dylanwadu ar bolisi'r cyngor.

Mae gweithredu yn y gymuned a chyfranogaeth gymunedol yn ganolog i sut mae'r cyngor yn cynllunio ac yn cyflwyno gwasanaethau. Cefnogir creu grwpiau 'cyfeillion' er mwyn adfywio parciau, traethau a rhandiroedd lleol. Ym maes gofal cymdeithasol, mae ymagweddau at arfer proffesiynol sy'n seiliedig ar gryfderau hefyd yn cynnwys helpu pobl â'u teuluoedd i ymdrin â'u problemau eu hunain drwy ganolbwyntio ar eu cryfderau a'u rhinweddau, a'r hyn y gallant ei gyfrannu.

Mae gennym gynlluniau i gynnwys rhagor o bobl leol ym mhenderfyniadau'r cyngor sy'n effeithio arnyn nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau a dyna pam y lluniwyd Fframwaith Cydgynhyrchu. Byddwn yn ceisio sefydlu fforwm i wirfoddolwyr cymunedol er mwyn eu cynnwys yn y broses benderfynu a rhoi cyfle iddynt fynegi eu barn a'u safbwyntiau. Mewn ymateb i Covid-19, mae ein rhaglen adfer a thrawsnewid newydd - Cyflawni Pethau'n Well Gyda'n Gilydd - yn ceisio ymgysylltiad mwy a mwy ystyrlon â'n preswylwyr a'n cymuned.

 

Cynnwys pobl yn ein hamcanion lles

Roedd yr adolygiad o'n Cynllun Corfforaethol a'n hamcanion lles ar gyfer 2017/22 yn cynnwys tair ymagwedd wahanol at gynnwys pobl: (i) grwpiau ffocws gyda phobl ifanc (o 9 ysgol uwchradd wahanol), (ii) dau grŵp ffocws gydag aelodau'r cyhoedd a chynrychiolwyr o sefydliadau eraill sy'n canolbwyntio ar nodi heriau presennol a rhai'r dyfodol, yr hyn y dylid ei wneud a beth yw 'da' a (ii) dau arolwg ar-lein o aelodau'r cyhoedd a phanel dinasyddion y cyngor yn eu tro. Roedd canlyniadau o'r gyfranogaeth hon wedi helpu i lunio'n Cynllun Corfforaethol diwygiedig a'n hamcanion lles.

Roedd yr ymgynghori a'r cynnwys mewn perthynas â'n hamcanion lles wedi nodi nifer o themâu a heriau cyffredin. Caiff y rhain eu crynhoi isod ac eir i'r afael â hwy drwy ein hamcanion lles:

Ffyniant economaidd ac adfywio canol y ddinas

  • Gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno'r Fargen Ddinesig ar draws y rhanbarth.
  • Creu rhagor o brentisiaethau a mynd i'r afael â'r bwlch oedran a chyfleoedd cyflogaeth i'r bobl hynny sy'n bellach i ffwrdd o'r farchnad lafur.
  • Manteisio ar gyfleoedd sy'n codi o dwf technoleg newydd, gwyddoniaeth a diwydiannau creadigol.
  • Gwella'r cynnig hamdden, twristiaeth a diwylliannol a gwella isadeiledd Abertawe.
  • Gwella cludiant ac isadeiledd.
  • Yr angen am economi wledig gynaliadwy.

 

Heriau amgylcheddol

  • Annog twf carbon isel a chludiant fforddiadwy a hygyrch.
  • Adeiladu mwy o gartrefi ynni effeithlon.
  • Gofalu am yr amgylchedd a chynyddu ymwybyddiaeth ohono a hyrwyddo ailgylchu.
  • Gwarchod parciau, darparu mwy o fannau agored a hyrwyddo bioamrywiaeth.
  • Buddsoddi mewn technoleg werdd ac ynni adnewyddadwy.

 

Iechyd, gofal cymdeithasol a lles

  • Galluogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol a heneiddio'n dda.
  • Atal digartrefedd a darparu tai fforddiadwy.
  • Cefnogi gofalwyr.
  • Gweithio gyda phlant yn y blynyddoedd cynnar cyn iddynt fynd i'r ysgol
  • Mynd i'r afael â gordewdra a maeth gwael.

 

Cydlyniant cymunedol diwylliannol, cymdeithasol a chymunedol

  • Mynd i'r afael â cham-drin a bwlio plant.
  • Annog gwirfoddoli a chyfranogiad cymunedol.
  • Cynnal mwy o ddigwyddiadau diwylliannol a chymunedol.
  • Delio â throseddau casineb a hyrwyddo amrywiaeth a chydlyniant.

 

Gwasanaethau cyhoeddus a chyfrannu at wneud penderfyniadau

  • Yr angen i ganolbwyntio ar ymyrryd ac atal cynnar a lleihau galw ar y gwasanaethau cyhoeddus.
  • Darparu rhagor o wybodaeth a chefnogaeth ynghylch sut i gael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth.
  • Gweithio mwy mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys y trydydd sector.
  • Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth yn fwy wrth gynllunio a dylunio gwasanaethau ac wrth wneud penderfyniadau.

 

Cynhaliodd y cyngor arolwg arall fel arweiniad er mwyn llywio diwygiad o'r Cynllun Corfforaethol a'r amcanion lles ar gyfer 2018/22. Gofynnwyd am farn ymatebwyr ynghylch amcanion lles presennol y cyngor ac ai'r rhain oedd yr amcanion iawn i wella lles yn Abertawe ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol. Gofynnwyd hefyd iddynt am eu barn am gyfres o gamau a chamau gweithredu i gyflawni pob amcan.

Ar y cyfan, mae canlyniadau'r arolwg yn dangos bod lefel uchel o'r ymatebwyr yn cefnogi amcanion lles presennol y cyngor a'r camau gweithredu arfaethedig y mae'r cyngor yn bwriadu eu cymryd i wireddu'r amcanion hyn; mae mwy na 9 o bob 10 ymatebwr yn cytuno mai amcanion lles y cyngor yw'r amcanion cywir i Abertawe.

Derbyniwyd nifer o awgrymiadau am gynnwys natur a'r amgylchedd fel blaenoriaeth lles ychwanegol, yn ogystal â chamau gweithredu sy'n ymwneud â natur a'r amgylchedd, a all helpu'r cyngor i roi'r amcanion lles eraill ar waith. Er bod mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno â'r camau arfaethedig y dylai'r cyngor eu cymryd mewn perthynas â thrawsnewid ein heconomi a'n hisadeiledd a mynd i'r afael â thlodi, roedd rhai ymatebwyr yn cwestiynu ai rôl y cyngor yw ymwneud yn uniongyrchol â rhai meysydd; er enghraifft, archwilio adeiladu gwesty newydd neu gefnogi ehangu Stadiwm Liberty. Yn yr un modd, er bod mwyafrif yr ymatebwyr yn cefnogi cryfhau'r Gymraeg, roedd rhai'n cwestiynu cost y cyfle i wneud hyn, o'i gymharu â'r blaenoriaethau eraill a'r galwadau a wynebir gan y cyngor mewn perthynas â lleihad mewn cyllidebau a phwysau ar adnoddau.

 

Ein cyllideb - adnoddau ar gyfer ein hamcanion lles

Yn dilyn ymgynghoriad â staff, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill, mae adroddiad ar y gyllideb yn mynd gerbron y Cabinet ac yna caiff ei drafod mewn cyfarfod cyngor llawn. Mae gan y cyngor £500 miliwn i'w wario. Daw'r mwyafrif helaeth o'r arian hwn o'r Llywodraeth a grantiau, ac rydym yn codi mwy o arian drwy dreth y cyngor ac incwm. Dyma sut y dyrennir y gyllideb ar hyn o bryd (2021/22):

corporate plan - I ble y mae’r arian yn mynd

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyllideb 2022/23 ar waith erbyn yr hydref oni bai y caiff ei oedi, fel sydd wedi digwydd am y 2 flynedd ddiwethaf oherwydd penderfyniadau cenedlaethol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i oedi dyraniadau cyllidebol a chyhoeddiadau (sydd wedi gwaethygu'n ddiweddar oherwydd ansicrwydd ariannol COVID-19). Er bod swm yr arian rydym yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru'n sylweddol fwy ar gyfer y flwyddyn nesaf (2021/2022), ac y gallai fod cynnydd cymharol fach mewn arian dros y blynyddoedd i ddod, bydd angen sicrhau llawer mwy o arbedion i wrthbwyso'n rhagolwg o wariant ychwanegol, sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, megis chwyddiant prisiau cynyddol, codiadau cyflog cenedlaethol nad oes cyllid ar eu cyfer a demograffig.

Mae'r cyhoedd eisoes wedi dweud wrthym mai eu blaenoriaethau yw ysgolion a'r gwasanaethau cymdeithasol. Eto, maent hefyd yn dweud wrthym fod rhai digwyddiadau penodol, glanhau strydoedd a chynnal a chadw priffyrdd yn bwysig iawn iddynt. Mae hefyd angen i ni sicrhau adferiad cadarn a chyflym yn dilyn COVID-19, o ran iechyd, lles a gweithgarwch economaidd. Mae ein cyllideb yn cynnwys rhestr o flaenoriaethau cyllidebol yn unol â'n hamcanion lles fel y'u nodwyd yn ein Cynllun Corfforaethol. Ond gydag adnoddau cyfyngedig bydd yn rhaid i ni wneud

penderfyniadau anodd yn y dyfodol o ran gwariant a threthi er mwyn mantoli'r cyfrifon.

Rydym yn codi dros £130m mewn treth y cyngor bob blwyddyn, ond nid yw hyn hyd yn oed yn talu am gostau ein gwasanaethau cymdeithasol, heb sôn am yr holl wasanaethau eraill a ddarperir gennym. Mae cost gyffredinol gwasanaethau'r cyngor yn golygu nad yw cynyddu treth y cyngor yn unig yn opsiwn. Felly, rhaid i ni gymryd camau eraill.

 

3. Ein hamcanion lles

Mae rhan nesaf y cynllun yn nodi'n hamcanion lles ar gyfer 2020/22. Caiff pob amcan ei ddisgrifio'n fanwl dan y penawdau canlynol.

  • Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?
  • Yr heriau tymor hwy y bydd pob amcan lles yn helpu i fynd i'r afael â hwy.
  • Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni pob amcan lles.
  • Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio.
  • Sut byddwn yn mesur cynnydd.
  • Cyfraniad pob amcan lles at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Diogelu pobl rhag niwed

Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?

 

  • Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod dinasyddion yn byw eu bywydau'n rhydd o niwed ac ecsbloetiaeth.
  • Mae angen ystyried bod diogelu pobl ddiamddiffyn yn fusnes i bawb ym mhob gwasanaeth yn y cyngor, gan yr holl aelodau etholedig a chan y rhai sy'n gweithio ar ran y cyngor.
  • Rydym hefyd am i blant fod yn ddiogel rhag niwed ac aros gyda'u teuluoedd neu dderbyn cefnogaeth mewn lleoliadau teuluol, lle mae'n ddiogel iddynt wneud hynny.
  • Rydym am sicrhau y diogelir pob oedolyn diamddiffyn rhag niwed a'u galluogi i fyw i'w potensial llawn.
  • Rydym am fynd i'r afael â cham-drin domestig a sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu cefnogi'n llawn.
  • Rydym am i bobl heneiddio'n dda a gallu byw mor annibynnol a diogel â phosib, a hynny yn eu cartrefi eu hunain.

 

Yr heriau tymor hwy y bydd yr amcan lles hwn yn helpu i fynd i'r afael â hwy.

  • Poblogaeth sy'n heneiddio'n cynrychioli cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cynnydd mewn clefydau a chyflyrau sy'n gysylltiedig â phoblogaeth sy'n heneiddio, fel dementia.
  • Lleihau digwyddiadau cam-drin domestig, gan gynnwys ei effaith ar blant.
  • Nodi a chefnogi pobl sy'n darparu gofal di-dâl yn Abertawe.
  • Rhoi mwy o bwyslais ar atal yn hytrach na chanfod a chywiro i helpu i ymdrin â'r galw cynyddol am wasanaethau statudol.

 

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn.

  • Diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed a blaenoriaethu gwasanaethau a chysylltu â nhw yn ystod ymateb ac adferiad COVID-19.
  • Parhau i sicrhau bod trefniadau diogelu cadarn ar waith i ddiogelu'r rhai sydd mewn perygl o niwed ac ecsbloetiaeth sylweddol.
  • Parhau i sicrhau bod diogelu'n 'fusnes i bawb' ar draws y cyngor, mewn ysgolion, gyda phartneriaid ac ar draws Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg i sicrhau ein bod yn cydweithio ac yn ymyrryd o ran materion ehangach sy'n codi, megis Llinellau Sirol, caethwasiaeth fodern, masnachu pobl, bwlio mewn ysgolion, troseddau casineb a'r strategaeth PREVENT.
  • Parhau i sicrhau bod y Gwasanaethau Phlant a Theuluoedd yn gadarn ac yn effeithiol wrth fodloni'r gofynion statudol a osodwyd ar yr Awdurdod fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 i wella canlyniadau lles i oedolion diamddiffyn yn Abertawe.
  • Parhau i roi sylw i strategaeth plant sy'n derbyn gofal yn ddiogel (PDG) drwy wella'r gwasanaeth Plant a Theuluoedd a thrwy'r Strategaeth Magu Plant Corfforaethol i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rheini sy'n gadael gofal.
  • Drwy raglen Cael Pethau'n Iawn i Bob Plentyn, byddwn yn rhoi system newydd ar waith, gydag ymagwedd gyfannol at ffocysu gwasanaethau ymyrryd yn gynnar ac atal i wella lles i blant a phobl ifanc a chefnogi teuluoedd.
  • Parhau i sicrhau bod plant, oedolion a gofalwyr yn cael cyfle i leisio'u barn am y gwasanaethau maent yn eu derbyn, drwy wella'n model arfer gwaith cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar gryfderau a rhinweddau person a'r hyn sy'n bwysig iddo a'r hyn y gall ei deulu a'i ffrindiau ei wneud i'w helpu ac i lunio cynlluniau ar y cyd i gyflawni gwell canlyniadau.
  • Gweithio gyda phartneriaid i gynyddu ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a rhoi ymyriadau a chefnogaeth effeithiol ac amserol ar waith.
  • Mynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol a gwella ansawdd bywyd pobl hŷn o fewn cymunedau cefnogol drwy ehangu cydlynu ardaloedd lleol a'r amrywiaeth o gyfleoedd cefnogi ac atal sydd ar gael.
  • Cefnogi'n hoedolion mwyaf diamddiffyn i barhau i fod yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi drwy roi'r model Gwasanaeth i Oedolion ar waith ac ail-gydbwyso'n cynnig gwasanaeth i ganolbwyntio ar ataliaeth, ailalluogi a gwellhad, gan gynnwys gwasanaethau Ailalluogi Cymunedol a Phreswyl, model newydd i gyflwyno gofal cartref a gweithredu'r model 'O'r Ysbyty i'r Cartref'.
  • Gwella canlyniadau lles gofalwyr ifanc a'r rheini sy'n gadael gofal, drwy amrywiaeth o ymyriadau, gan gynnwys gwybodaeth, cyngor a gwella mynediad at wasanaethau cefnogi.
  • Fel Dinas sy'n Ystyriol o Ddementia, Siarter ar gyfer Pobl Hŷn, a thrwy'r Strategaeth Heneiddio'n Dda, byddwn yn cefnogi dinasyddion Abertawe yr effeithir arnyn nhw i deimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u helpu i gyfrannu at gymdeithas brif ffrwd a bod yn rhan ohoni ac i barhau i fod yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at y nodau cenedlaethol.

 

Cymru lewyrchus

Cymru gydnerth

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymru o gymunedau cydlynus;

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Cymru iachach

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

 

 

Yes

Yes

 

Yes

 

Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio.

 

Atal problemau rhag digwydd neu waethygu - datblygu gwasanaethau ataliol i osgoi'r angen i bobl orfod defnyddio gwasanaethau statudol.

 

Mynd i'r afael â heriau tymor hir - gwneud gwaith ataliol i leihau galw ar y gwasanaethau gofal cymdeithasol gan boblogaeth sy'n heneiddio a mynd i'r afael â chyflyrau cysylltiedig megis dementia.

 

Gweithio mewn partneriaeth ag eraill - mynd i'r afael â cham-drin domestig a helpu pobl i fyw a heneiddio'n dda gyda phartneriaid drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion cyrff cyhoeddus - gweithio gyda phartneriaid drwy drefniadau diogelu rhanbarthol Gorllewin Morgannwg a thrwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Cynnwys pobl - cynnwys gofalwyr a dioddefwyr cam-drin domestig yn eu gofal, a phlant sy'n derbyn gofal a'u teuluoedd, drwy ganolbwyntio ar eu cryfderau a'u rhinweddau a'r hyn y gallant ei gyfrannu, gan gynnwys rhieni, teuluoedd a chymunedau.

 

Sut byddwn yn mesur cynnydd.

  • Hyfforddiant diogelu gorfodol.
  • Prydlondeb wrth ymdrin ag atgyfeiriadau, ymholiadau ac asesiadau diogelu plant ac oedolion.
  • Plant mewn angen, plant sy'n derbyn gofal ar y gofrestr amddiffyn plant.
  • Oedolion a phlant sy'n derbyn gofal a chefnogaeth i ddiwallu eu hanghenion lles.
  • Cyfradd y gofalwyr sy'n derbyn asesiad o'u hanghenion.
  • Pobl sydd wedi cwblhau ailalluogi'n derbyn dim gofal neu lai o ofal chwe mis yn ddiweddarach.
  • Prydlondeb wrth gwblhau Asesiadau Diogelu Colli Rhyddid.
  • Cyfradd y trosglwyddiadau gofal o'r ysbyty i ofal cymdeithasol.
  • Nifer y ceisiadau ar gyfer Cydlynu Ardaloedd Lleol.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fod

Pobl yn byw'n dda ac yn heneiddio'n dda

Gweithio gyda Natur

Cymunedau cryf

Yes

Yes

 

Yes

 

Gwella Addysg a Sgiliau

 

Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?

  • Rydym am i Abertawe fod yn un o'r lleoedd gorau yn y byd i blant a phobl ifanc dyfu i fyny ynddi.
  • Rydym am i bob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe gyflawni, bod yn iach, bod yn wydn a bod yn ddiogel.
  • Rydym am i blant a phobl ifanc fynd i'r ysgol yn rheolaidd am eu bod yn fwy tebygol o ennill y sgiliau a'r cymwysterau angenrheidiol i symud ymlaen i addysg bellach, addysg uwch, cyflogaeth neu hyfforddiant.
  • Rydym am i blant a phobl ifanc ennill y cymwysterau a'r sgiliau sy'n addas ar gyfer anghenion economaidd y dyfodol a gallu cyfrannu'n gadarnhaol fel dinasyddion lleol actif.
  • Rydym am atal plant rhag colli diddordeb mewn dysgu.
  • Fel rhieni corfforaethol Plant sy'n derbyn Gofal, rydym am i'n plant sy'n derbyn gofal lwyddo yn yr ysgol a chael cyfleoedd i gael addysg bellach, a ddysg uwch, cyflogaeth neu hyfforddiant.
  • Rydym yn cydnabod bod angen cefnogaeth amserol ac effeithiol ar blentyn neu berson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn caniatáu iddo gyrraedd ei lawn botensial.
  • Rydym am i'n plant a'n pobl ifanc fod yn ymwybodol o'u hawliau a'u cyfrifoldebau byd-eang fel y gallant fod yn ddinasyddion gweithredol a chyfrifol, cyflawni eu potensial a gwneud gwahaniaeth i'w cymunedau.
  • Rydym am i'n plant a'n pobl ifanc feddu ar sgiliau Cymraeg da.

 

Yr heriau tymor hwy y bydd yr amcan lles hwn yn helpu i fynd i'r afael â hwy.

  • Rydym am ddarparu sgiliau a chyfleoedd i'n pobl ifanc sy'n deillio o'r Fargen Ddinesig, gan sicrhau eu bod yn llwyddo yn y pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg), sgiliau digidol megis codio cyfrifiaduron a diwydiannau creadigol.
  • Stad Ysgolion sy'n addas ar gyfer y 21ain ganrif.
  • Effaith pandemig COVID-19 ar ddysgu, iechyd a lles plant a phobl ifanc.

 

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn.

  • Cefnogi disgyblion, teuluoedd ac ysgolion i gynnal parhad addysg a lles yn ystod ymateb ac adferiad COVID-19.
  • Parhau i gefnogi a herio ysgolion i wella presenoldeb a pherfformiad disgyblion, gyda ffocws ar wella llythrennedd (yn Gymraeg ac yn Saesneg), rhifedd a chymhwysedd digidol ar gyfer plant o bob oedran, gan gynnwys y rheini sy'n derbyn gofal, a'r rheini sy'n derbyn addysg mewn lleoliad heblaw'r ysgol neu'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Ateb y galw am addysg Gymraeg a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion ac yn gymdeithasol drwy Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
  • Parhau i gynnwys plant a phobl ifanc yn eu haddysg drwy Lais y Disgybl a Chynghorau Ysgol a digwyddiadau cynnwys y Sgwrs Fawr. Drwy barhau i annog ysgolion i fod yn Ysgolion sy'n Parchu Hawliau CCUHP fel rhan o'n hymrwymiad i CCUHP, datblygu dinasyddion ifanc i barchu hawliau, deall cyfrifoldebau, bod yn ymwybodol ar lefel fyd-eang a bod yn ddinasyddion cyfrifol.
  • Sicrhau nad yw ein plant diamddiffyn dan anfantais oherwydd tlodi neu unrhyw ffactorau eraill sy'n cyfyngu ar eu gallu i gyflawni a bodloni safonau a lles o ran addysg.
  • Trawsnewid ystadau ysgolion i ateb y galw ac ymateb i ddatblygiadau a nodwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) wrth sicrhau bod cymunedau'n elwa o gontractau. Byddwn yn lleihau ein hôl troed carbon drwy ddefnyddio'n rhaglen adeiladau a chynnal a chadw ysgolion.
  • Cydlynu'n system addysg a pharhau i ddatblygu a gwella partneriaethau i sicrhau ein bod yn creu'r bobl iawn â'r sgiliau iawn i gyflenwi'r economïau newydd ac ateb her Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Byddwn yn annog ysgolion i gefnogi'i gilydd.
  • Codi dyheadau galwedigaethol a lefelau sgiliau yn y gweithle a chyfrannu at ddatblygiad plant, pobl ifanc ac oedolion uchelgeisiol a medrus drwy ddarparu prentisiaethau.
  • Datblygu sgiliau dysgu annibynnol ar gyfer dysgu gydol oes i adlewyrchu natur newidiol y gwaith, cefnogi lles a chreadigrwydd a lleihau unigedd cymdeithasol

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at y nodau cenedlaethol.

Cymru lewyrchus

Cymru gydnerth

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymru o gymunedau cydlynus;

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Cymru iachach

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Yes

Yes

Yes

Yes

Yes

 

Yes

 

Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio.

  • Atal problemau rhag digwydd neu waethygu - gwella presenoldeb a thegwch yn yr ysgol wrth ddarparu addysg a chyflawniad dysgu fel y gall disgyblion wella'r sgiliau a'u cymwysterau y mae eu hangen arnynt i symud ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth.
  • Mynd i'r afael â heriau tymor hir - sicrhau bod y cwricwlwm ysgol yn Abertawe'n rhoi cyfle i ddisgyblion ennill y sgiliau a'r cymwysterau ar gyfer y dyfodol, ac yn cyfrannu at lwyddiant Bargen Ddinesig Bae Abertawe wrth wella ffyniant.
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill - gweithio gydag awdurdodau lleol drwy drefniadau rhanbarthol i gefnogi gwasanaethau gwella ysgolion.
  • Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion cyrff cyhoeddus - creu synergedd rhwng amcanion y cyngor a datblygiad economaidd.
  • Cynnwys pobl - cynnwys disgyblion yn eu haddysg drwy Lais y Disgybl, Cynghorau Ysgol a digwyddiadau'r Sgwrs Fawr er mwyn dangos ein bod yn gwerthfawrogi'r rhanddeiliaid allweddol hyn.

 

Sut byddwn yn mesur cynnydd.

  • Presenoldeb disgyblion yn yr ysgol, gan gynnwys disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim.
  • Cyrhaeddiad disgyblion yn ystod y Cyfnod Sylfaen.
  • Cyflawniad disgyblion ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4, gan gynnwys disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, plant sy'n derbyn gofal gan y cyngor, plant sy'n derbyn addysg mewn lleoliad heblaw'r ysgol a disgyblion sy'n dod o ardaloedd yr ystyrir eu bod yn yr 20% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
  • Nifer y disgyblion sy'n dewis gwneud mathemateg a gwyddoniaeth a'u cyrhaeddiad yn y pynciau hyn ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4.
  • Nifer y disgyblion sy'n astudio Cymraeg yng Nghyfnod Allweddol 4.
  • Yr amser a gymerir i gwblhau Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig.
  • Y bobl ifanc y gwyddys eu bod yn NEET yn 16 oed.
  • Prentisiaethau gyda'r cyngor a'r gymuned ehangach.
  • Sicrhau wythnosau hyfforddiant ar gyfer y rhai sy'n anweithgar yn economaidd neu'n ddi-waith drwy gymalau budd cymdeithasol mewn contractau.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fod

Pobl yn byw'n dda ac yn heneiddio'n dda

Gweithio gyda Natur

Cymunedau cryf

Yes

 

Yes

Yes

 

 

Trawsnewid ein Heconomi a'n Hisadeiledd

 

Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?

  • Rydym am wella perfformiad economaidd a chreu cyfoeth a chyfleoedd cyflogaeth i wella lles economaidd dinasyddion Abertawe.
  • Sicrhawyd y buddsoddiad mwyaf erioed i dde-orllewin Cymru yn dilyn cymeradwyo Bargen Ddinesig arloesol Bae Abertawe ar 20 Mawrth 2017.
  • Mae'r Fargen Ddinesig yn werth £1.3 biliwn a bydd yn trawsnewid tirlun economaidd yr ardal, yn hybu'r economi leol £1.8 biliwn ac yn creu bron 10,000 o swyddi dros y 15 mlynedd nesaf.
  • Yn Abertawe, caiff 100,000 troedfedd sgwâr o le swyddfa newydd, fforddiadwy a hyblyg ei adeiladu ar Ffordd y Brenin yng nghanol y ddinas ar gyfer busnesau technolegol fel rhan o'r pentref digidol a fydd yn elwa o isadeiledd digidol o'r radd flaenaf.
  • Bydd y Fargen Ddinesig yn arwain at ddatblygiad pellach yn Ardal Arloesedd y Glannau yn SA1 sy'n eiddo i Brifysgol y Drindod Dewi Sant. Bydd hwn yn darparu lle fforddiadwy i gwmnïau newydd.
  • Bydd y Fargen Ddinesig hefyd yn cefnogi digideiddio'r arena dan do arfaethedig sydd â lle i 3,500 o bobl ar gyfer safle datblygu canol dinas Abertawe, yn ogystal â datblygu sgwâr digidol i gynnwys sgriniau digidol a gwaith celf digidol.
  • Bydd y Fargen Ddinesig yn hybu adfywio ffisegol canol y ddinas ymhellach, yn unol â'n Fframwaith Strategol diwygiedig ar gyfer Canol y Ddinas - yn enwedig datblygu a gwella eiddo a gwelliannau isadeiledd cysylltiedig, gan ddarparu isadeiledd galluogi i gefnogi adfywiad.
  • Rydym am fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan y Fargen Ddinesig ac adfywio canol y ddinas drwy greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i'r bobl ddi-waith a'r rhai sy'n anweithgar yn economaidd drwy gymalau budd cymunedol mewn contractau a chyflwyno gwasanaethau cefnogi cyflogadwyedd mewn partneriaeth â gwasanaethau eraill y cyngor a phartneriaid allanol.
  • Rydym am gael fframwaith polisi cynllunio sy'n cefnogi twf ac adfywio ac yn sicrhau bod gan gymunedau dai o safon mewn lleoliadau cynaliadwy i ddiwallu anghenion y gymuned a chefnogi twf economaidd cynaliadwy.
  • Rydym am fanteisio ar botensial twf sydd heb ei ddefnyddio i gynhyrchu ynni cynaliadwy, gwarchod yr amgylchedd a hybu'r economi, gan gynnwys parhau i roi pwysau ar y llywodraeth i gymeradwyo'r Morlyn Llanw.
  • Rydym am fanteisio ar asedau ac isadeiledd naturiol, diwylliannol ac adeiledig Abertawe i ddatblygu'r economi wrth warchod yr amgylchedd a gwella lles.

 

Yr heriau tymor hwy y bydd yr amcan lles hwn yn helpu i fynd i'r afael â hwy.

  • Adferiad economaidd y ddinas yn dilyn pandemig COVID-19.
  • Mae twf technoleg glyfar a symudol a diwydiant uwch-dechnoleg yn debygol o barhau.
  • Yng Nghymru, rydym ar ei hôl hi o'i gymharu â gweddill y DU o ran y sgiliau digidol sy'n angenrheidiol ar gyfer yr economi newydd, a bydd angen y rhain yn Abertawe drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
  • Mae gan Abertawe o hyd nifer mawr o bobl oed gweithio nad ydynt yn gweithio
  • Mae tystiolaeth bod bwlch cynhyrchedd Abertawe (GVA) yn culhau, ond mae'r bwlch yn sylweddol o hyd. Ar hyn o bryd, mae nifer cymharol fach o fusnesau yn Abertawe'n cynhyrchu gweithgarwch economaidd o'i gymharu â chyfartaledd y DU, ac mae enillion y gweithle'n sylweddol is wrth gymharu yn yr un ffordd.
  • Mae potensial mawr yng Nghymru ac yn Abertawe i gynhyrchu ynni cynaliadwy drwy'r Morlyn Llanw a phrosiectau cymunedol eraill, gan hybu'r economi leol a helpu i warchod yr amgylchedd.
  • Mae newid yn yr hinsawdd a pheryglon cysylltiedig fel llifogydd yn bygwth ein twf economaidd, ein cynhyrchedd, ein lles, ein hisadeiledd a'n hamgylchedd.
  • Mae'n debygol y bydd y cerbyd preifat yn parhau'n brif ddull cludiant yn y dyfodol, ond mae cludiant cynaliadwy a fforddiadwy, a strategaeth ar gyfer system gludiant integredig i wasanaethu'n hardaloedd gwledig a threfol yn hanfodol er mwyn cael mynediad at gyflogaeth a hyfforddiant a gwarchod yr amgylchedd.
  • Nid yw Abertawe'n cyflawni ei photensial o bell ffordd ac erys diffygion sylweddol yn nifer ac ansawdd y tai a'r isadeiledd cefnogi ar adeg pan fydd yr angen am dai a nifer yr aelwydydd yn tyfu.

 

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn.

  • Paratoi Strategaeth Adferiad Economiaidd COVID-19 a'i rhoi ar waith.
  • Arwain y gwaith o baratoi Cynllun Cyflawni Economaidd De-orllewin Cymru.
  • Manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan y Fargen Ddinesig a pharau i adfywio canolyddinasagweithio gyda phartneriaidiroi'rFargen Ddinesigarwaith ermwyn buddsoddi mewn isadeiledd digidol a chefnogi buddsoddiad, arloesedd, twf, swyddi, sgiliau a chynhyrchedd.
  • Hyrwyddo a gwella economi leol amrywiol a chynaliadwy. Er enghraifft, cydweithio drwy bartneriaeth Adfywio Abertawe i arwain agenda adfywio economaidd Abertawe, gan gynnwys cyflwyno'r Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio a, thrwy roi'r CDLl ar waith, sy'n cefnogi adfywio Abertawe ac yn hyrwyddo cymunedau cynaliadwy.
  • Creu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer y di-waith tymor hir a'r rhai sy'n anweithgar yn economaidd drwy gymalau budd cymdeithasol mewn contractau.
  • Gwella, ehangu ac amrywio cyfleusterau hamdden, diwylliannol a threftadaeth ynghyd ag isadeiledd i helpu i roi hwb i'r economi, hybu twristiaeth i wella iechyd a lles, hyrwyddo cydlyniant cymunedol a darparu buddion economaidd.
  • Gweithio gyda phartneriaid i wella'n cyfleusterau hamdden a diwylliannol fel y bartneriaeth â Phrifysgol Abertawe ar gyfer pentref chwaraeon rhyngwladol a chanolfan rhagoriaeth chwaraeon; atyniadau ffordd o fyw gan gynnwys Skyline, cyfleusterau Gondola a Luge; cwblhau gwaith coridor glannau'r afon; goruchwylio rheoli a datblygu economi nos canol y ddinas, gan gynnwys cadw'r Faner Borffor, i sicrhau bod Abertawe'n lle diogel, glân a chroesawgar i weithio ynddi ac ymweld ag ef.
  • Adeiladu ar etifeddiaeth cais Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU drwy fynd ati i gyflwyno Strategaeth Celfyddydau Canol y Ddinas a gweithredu canlyniadau ein cyfranogiad yn rhaglen beilot Ewropeaidd Culture 21 drwy ymgorffori'r naw ymrwymiad polisi ar gyfer Diwylliant mewn Dinasoedd Cynaliadwy a'r Addewid Amrywiaeth ar gyfer Diwylliant.
  • Parhau i wella a datblygu'n cyfleusterau hamdden mewn partneriaeth â'n partneriaid cyflwyno, Freedom Leisure a Parkwood, a sicrhau bod ein gwasanaethau diwylliannol 'mewnol' yn datblygu strategaethau ar gyfer buddsoddi a modelau cyflwyno arloesol ar gyfer digwyddiadau arbennig, llyfrgelloedd, archifau, theatrau, orielau ac amgueddfeydd.
  • Gwneud cynnydd o rantaistrategolasafleoedd datblygu cymysgiddiwallu'rangen am gartrefi a darparu cyflogaeth.
  • Diogelu a hyrwyddo iechyd, lles, diogelwch a buddion defnyddwyr y bobl sy'n byw yn Abertawe neu'n ymweld â hi drwy weithio gydag eraill i gynnal diogelwch cyhoeddus ar draws amrywiaeth o wasanaethau rheoliadol megis llygredd, twyll a masnachu annheg, materion iechyd cyhoeddus a thai etc.
  • Yn dilyn mabwysiadu' Siarter Newid yn yr Hinsawdd ym mis Tachwedd 2020, cyflwyno'r Strategaeth Ynni i leihau costau, i ddarparu ynni rhatach ac i leihau ein hôl troed carbon, megis gweithio gydag eraill i ddarparu cludiant ac isadeiledd cynaliadwy a charbon isel gan ddarparu cysylltedd a symudedd gwell a rhatach a'r manteision economaidd cysylltiedig am gost amgylchedd is a gwell ansawdd aer.
  • Rheoli ac amddiffyn mannau gwyrdd, arfordir a pharciau Abertawe ar gyfer hamdden a chwarae, hyrwyddo iechyd a lles, gwell ansawdd dŵr ymdrochi a chynnal statws Baner Las ar draethau Abertawe i annog twristiaeth, gwarchod yr amgylchedd a chefnogi lles.
  • Gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a'r tri chyngor rhanbarthol arall i ddatblygu ymateb a fydd yn gwella cysylltedd â'r ddinas a'r rhanbarth ehangach ac ar draws y ddinas.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at y nodau cenedlaethol.

 

Cymru lewyrchus

Cymru gydnerth

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymru o gymunedau cydlynus;

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Cymru iachach

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Yes

Yes

Yes

Yes

Yes

Yes

Y

 

Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio.

Atal problemau rhag digwydd neu waethygu - hyrwyddo ynni adnewyddadwy a chludiant cynaliadwy i ddatblygu'r economi a helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mynd i'r afael â heriau tymor hir - ail-lunio Abertawe a'r economi ranbarthol i ateb heriau economaidd y dyfodol a newid technolegol drwy'r Fargen Ddinesig.

Gweithio mewn partneriaeth ag eraill - gweithio gyda thri awdurdod lleol eraill, prifysgolion, Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a'r sector preifat i gyflwyno'r Fargen Ddinesig.

Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion cyrff cyhoeddus - mabwysiadu'r CDLl i gefnogi adfywio Abertawe a darparu glasbrint ar gyfer penderfyniadau cynllunio defnydd tir da a chyson ar gyfer y genhedlaeth bresennol a rhai'r dyfodol.

Cynnwys pobl - proses ymgynghori ac ymgysylltu helaeth yn ystod pob cam o ddatblygu'n Cynllun Datblygu Lleol er mwyn nodi cyfleoedd i ddiwallu angen tai a darparu cyflogaeth.

 

Sut byddwn yn mesur cynnydd.

  • Prydlondeb wrth asesu ceisiadau cynllunio.
  • Cymeradwyo ceisiadau cynllunio o bwys.
  • Unedau tai a lleoedd masnachol wedi'u creu o ganlyniad i'r rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio.
  • Gwerth buddsoddi mewnol yn Abertawe.
  • Gwariant twristiaeth.
  • Prosiectau sy'n cynnwys cymalau budd cymunedol a chreu nifer o wythnosau hyfforddiant.
  • Cyflwyno'n Strategaeth Ynni Corfforaethol
  • Lleihau carbon yn adeiladau'r cyngor.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fod

Pobl yn byw'n dda ac yn heneiddio'n dda

Gweithio gyda Natur

Cymunedau cryf

Yes

 

Yes

Yes

 

Trechu Tlodi

Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?

  • Mae Cyngor Abertawe'n ymroddedig i leihau tlodi ac effeithiau tlodi ar ei ddinasyddion. Mae tlodi'n cyfyngu ar ddyheadau, yn amharu ar berthnasoedd ac yn sicrhau bod cyfleoedd bywyd yn cael eu colli
  • Rydym am gael Abertawe lle nad yw tlodi yn rhwystr i wneud yn dda yn yr ysgol, cael bywyd iach a bywiog, datblygu sgiliau a chymwysterau a chael swydd ac incwm da.
  • Rydym am herio mynediad annigonol at wasanaethau angenrheidiol o ansawdd da drwy dargedu adnoddau lle maent yn cael yr effaith fwyaf, gyda phenderfyniadau am hynny'n cael eu gwneud ar y cyd â defnyddwyr gwasanaeth.
  • Rydym am i'n holl breswylwyr gael y cyfle a'r adnoddau i ymuno mewn gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a hamdden ac wrth wneud penderfyniadau.
  • Rydym am i bobl fwyafu eu hincwm a chael y gorau o'r incwm sydd ganddynt.
  • Rydym am i bobl osgoi talu'r 'premiwm tlodi', sef y costau ychwanegol y mae'n rhaid i bobl ar incwm isel dalu am hanfodion megis tanwydd a chludiant.
  • Rydym am sicrhau nad oes rhwystrau i gyflogaeth megis cludiant a gofal plant.
  • Rydym am sicrhau ein bod yn cynnwys pobl o gymunedau mwyaf difreintiedig Abertawe fel ein bod yn lleihau anghydraddoldebau rhwng cymunedau ac oddi mewn iddynt.

 

Yr heriau tymor hwy y bydd yr amcan lles hwn yn helpu i fynd i'r afael â hwy.

  • Lefelau tlodi yng Nghymru'n parhau i fod y uchel, yn enwedig i bobl oed gweithio a'r rhai dan 18 oed ac mae'r perygl o dlodi wedi cynyddu ar gyfer aelwydydd â swyddi a'r rheini heb waith.
  • Rhagwelir y bydd tlodi plant yn y DU yn codi'n sylweddol o 29% yn 2014/15 i 36% yn 2020/21.
  • Gall pobl sy'n byw yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Abertawe ddisgwyl i fyw'n iachach am bron 22 o flynyddoedd yn hwy na'r rheini sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Abertawe.
  • Mae costau ychwanegol pobl ar incwm isel er mwyn talu am hanfodion, fel trafnidiaeth, tanwydd a bwyd, yn parhau i fod yn uchel iawn.
  • Yn Abertawe, yr unig ffordd y caiff pobl y gorau o'u harian yw os oes ganddynt ddigon o wybodaeth eisoes, os ydynt wedi'u cysylltu'n dda yn ddigidol ac yn gallu mynd o le i le yn hawdd i fanteisio ar fargeinion. Y bobl sydd lleiaf tebygol o fod yn y sefyllfa hon yw'r rhai sydd eisoes yn dioddef effeithiau tlodi.
  • Mae effaith andwyol yr amddifadedd hwn yn dechrau ar oed ifanc iawn ac yn cynyddu drwy gydol oes person. Gall camau gweithredu sy'n gymesur ag angen i gefnogi teuluoedd a phlant yn ystod y blynyddoedd cynnar iawn helpu i liniaru'r effaith hon.
  • Mae gan Abertawe niferoedd mawr o bobl oed gweithio nad ydynt yn gweithio, ac mae angen mynd i'r afael â rhwystrau i waith megis profiad, gofal plant a chludiant.
  • Mae'r newidiadau parhaus o ran Diwygio Lles yn creu problemau newydd a mwy cymhleth i'r rheini sydd eisoes mewn argyfwng ariannol, gan olygu bod mwy o bobl nag o'r blaen yn wynebu argyfwng ariannol.
  • Y cwymp economaidd a chymdeithasol a goblygiadau uniongyrchol a thymor hwy pandemig COVID-19 ar dlodi yn Abertawe.

 

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn.

  • Darparu ymateb cyfannol ac ar y cyd i dlodi, iechyd y boblogaeth a digartrefedd yn ystod ymateb ac adferiad COVID-19 y cyngor.
  • Parhau i roi'r Strategaeth Tlodi ddiwygiedig ar waith a sicrhau bod mynd i'r afael â thlodi'n fusnes i bawb.
  • Targedu adnoddau i gynyddu mynediad mwyaf posib at gyfleoedd a ffyniant a chanolbwyntio ar ddefnyddio data i dargedu cefnogaeth, cyflogadwyedd a chynhwysiant ariannol.
  • Cefnogi sefydlu Comisiwn Gwirionedd Tlodi i ddod â phenderfynwyr allweddol at ei gilydd â phobl sydd wedi profi tlodi'n uniongyrchol er mwyn ceisio newid pethau.
  • Gweithio gyda'n partneriaid iechyd i sicrhau, drwy ein Strategaeth Blynyddoedd Cynnar, fod plant yn eu blynyddoedd cynnar ac yn y Cyfnod Sylfaen yn cyrraedd y lefel ddisgwyliedig o ran datblygiad ieithyddol, emosiynol, cymdeithasol a gwybyddol a'u bod yn barod i ddysgu ac i fynd i'r ysgol.
  • Sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael mynediad at gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ar ôl cyrraedd 16 oed.
  • Helpu i fynd i'r afael ag effeithiau diwygio lles, megis cefnogi pobl i hawlio'r budd-daliadau llawn y mae ganddynt hawl iddynt fel y gallant fwyafu eu hincwm a hybu mynediad at gredyd fforddiadwy.
  • Cefnogi unigolion i oresgyn eu rhwystrau i gyflogaeth drwy gefnogaeth cyflogadwyedd sy'n canolbwyntio ar y person.
  • Darparu cyfleoedd celf, diwylliant a threftadaeth er mwyn hybu sgiliau, hyder, hunan-barch a dyhead.
  • Buddsoddi i wella tai ac adeiladu tai cyngor mwy ynni-effeithlon a thai fforddiadwy i helpu i ddiwallu'r angen am dai, lleihau biliau tanwydd, adfywio stadau a chyflwyno buddion economaidd a chyflogaeth ehangach.
  • Atal digartrefedd a chefnogi pobl i gynnal eu tenantiaethau i helpu i sicrhau sefydlogrwydd a diogelwch i deuluoedd a chymunedau drwy roi Strategaeth Digartrefedd 2018-2022 y cyngor ar waith.
  • Archwilio'r syniad o greu ein menter ynni ein hunain i ddarparu ynni rhad i gartrefi, gan helpu i fynd i'r afael â biliau tanwydd domestig uchel a thlodi tanwydd. Cefnogi mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, helpu i ddileu tlodi tanwydd a rhoi hwb i ddatblygiad economaidd drwy'r cynllun ARBED a mesurau effeithlonrwydd ynni mewn tai cymdeithasol.
  • Parhau i roi'r Cynllun Cyflwyno Cydlyniant Cymunedol ar waith i hyrwyddo cymunedau cydlynol a chynhwysol yn Abertawe.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at y nodau cenedlaethol.

Cymru lewyrchus

Cymru gydnerth

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymru o gymunedau cydlynus;

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Cymru iachach

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Yes

Yes

Yes

Yes

Yes

Yes

 

 

Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio.

  • Atal problemau rhag digwydd neu waethygu - helpu i atal biliau tanwydd uchel a'r 'premiwm tlodi' drwy adeiladu tai cyngor ynni-effeithlon ac archwilio'r syniad o greu ein menter ynni ein hunain i ddarparu ynni am ddim i aelwydydd.
  • Mynd i'r afael â heriau tymor hir - helpu i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth a chael pobl i weithio drwy gynlluniau cyflogaeth sy'n canolbwyntio ar y person, gofal plant a chludiant fforddiadwy.
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill - gweithio gyda'n partneriaid iechyd drwy gynllun Dechrau'n Deg i sicrhau bod plant yn eu blynyddoedd cynnar yn barod ar gyfer yr ysgol a dysgu.
  • Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion cyrff cyhoeddus - cydnabod bod lleihau tlodi'n fusnes i bawb a bod gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rôl allweddol wrth sicrhau bod hyn yn digwydd ar draws yr holl sectorau.
  • Cynnwys pobl - Gweithio mewn cymunedau a chynnwys pobl ac ymgysylltu â hwy'n llwyddiannus a chydgynhyrchu gyda phobl i ddatblygu gwydnwch a lleihau dibyniaeth.

 

Sut byddwn yn mesur cynnydd.

  • Budd-daliadau lles yn cael eu sicrhau gan y gwasanaeth Hawliau Lles.
  • Prydlondeb wrth brosesu ceisiadau Budd-dal Treth y Cyngor a thai a newid amgylchiadau.
  • Nifer cyfartalog y diwrnodau y mae teuluoedd digartref â phlant yn eu treulio mewn llety gwely a brecwast.
  • Unedau tai fforddiadwy a gyflwynwyd.
  • Nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi drwy Gefnogaeth Cyflogadwyedd.
  • Nifer y cymwysterau achrededig a gyflawnwyd gan oedolion gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol.
  • Cyflwyno'r Strategaeth Trechu Tlodi a'r Strategaeth Atal a dangos cyflawniad profadwy yn y Strategaethau.
  • Cyflwyno'n Strategaeth Ynni Corfforaethol.
  • Cyflwyno'n Strategaeth Rhagor o Gartrefi a'r Strategaeth Digartrefedd.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fod

Pobl yn byw'n dda ac yn heneiddio'n dda

Gweithio gyda Natur

Cymunedau cryf

Yes

Yes

Yes

Yes

 

Cynnal a gwella Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth Abertawe

 

Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?

  • Byddwn yn gwneud ymdrech, ar draws yr ystod o gyfrifoldebau sydd gan y cyngor, fel y bo'n briodol, i gynnal a gwella bioamrywiaeth, lleihau ein hôl-troed carbon a gwella'n gwybodaeth am ein hamgylchedd naturiol â'n dealltwriaeth ohono, gan wneud lles i'n hiechyd a'n lles o'r herwydd.
  • Abertawe yw un o'r siroedd mwyaf ecolegol gyfoethog ac amrywiol yn y DU. Mae angen cynnal, gwella a rheoli ei hamrywiaeth unigryw o gynefinoedd a rhywogaethau a'i hamrywiaeth hyfryd o barciau, mannau gwyrdd, gwarchodfeydd natur, traethau a thirweddau yn gynaliadwy er budd pawb nawr ac yn y dyfodol.
  • Mae ein goroesiad a'n hansawdd bywyd yn y dyfodol yn ddibynnol ar amgylchedd naturiol, iach a chydnerth a'r buddion lluosog y mae'n eu darparu i'r gymdeithas.
  • Mae ein hamgylchedd naturiol a bioamrywiaeth dan fygythiad ac yn dirywio oherwydd gweithgareddau anghynaladwy bodau dynol. Mae cynefinoedd a rhywogaethau'n cael eu colli ar gyfradd ddychrynllyd ac anghynaladwy.
  • Mae angen i ni ymdrin â newid yn yr hinsawdd ar unwaith drwy leihau ein defnydd o garbon a thrwy gynnal ecosystemau cydnerth a rhwydwaith isadeiledd gwyrdd a'u gwella er mwyn i ni liniaru ar gyfer pwysau newid yn yr hinsawdd ac addasu iddynt.
  • Cyhoeddwyd Argyfwng Hinsawdd gan Gyngor Abertawe sy'n cydnabod yn ffurfiol yr angen am weithredu ac adrodd am gynnydd drwy'r amcan lles hwn.
  • Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016 ac o dan Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (nod Cymru gydnerth) i warchod a gwella bioamrywiaeth a chynnal ecosystemau cydnerth ac adrodd am ein cynnydd wrth Lywodraeth Cymru.
  • Dengys tystiolaeth fod cael cyswllt â natur yn gwneud lles sylweddol i iechyd corfforol a meddyliol pobl; ategwyd hyn gan dystiolaeth storïol sy'n dod i'r amlwg o bandemig COVID-19
  • Mae ein ffyniant a'n lles ar gyfer y dyfodol yn ddibynnol ar amgylchedd naturiol sy'n iach ac yn gydnerth.
  • Mae angen i ni weithio gyda natur i wella ansawdd ein haer, ein dŵr a'n pridd.
  • Rydym am i bawb ddeall a gwerthfawrogi gwerth unigryw a breuder amgylchedd naturiol eithriadol Abertawe a chwarae ei ran wrth ofalu amdano a'i gyfoethogi.
  • Ein huchelgais yw y gall pawb yn Abertawe gael mynediad at amgylchedd naturiol sy'n ecolegol amrywiol, yn ddeniadol, yn gydnerth ac wedi'i reoli'n dda.
  • Rydym am roi terfyn ar golli bioamrywiaeth a gwrthdroi'r golled hon fel nad yw ei chyfraniad at les economaidd neu gymdeithasol Abertawe'n cael ei golli na'i leihau.
  • Ein nod yw creu sir wyrddach, sy'n fwy cynaliadwy, ecolegol amrywiol a chydnerth, lle y cydnabyddir ei hamgylchedd naturiol unigryw fel un o'i hasedau mwyaf gwerthfawr a nodedig.
  • Mae gennym gyfrifoldeb moesol i ofalu am fioamrywiaeth am ei gwerth cynhenid ei hun.

 

Yr heriau tymor hwy y bydd yr amcan lles hwn yn helpu i fynd i'r afael â hwy.

  • Atal a gwrthdroi colli bioamrywiaeth drwy leihau niwed a defnydd anghynaladwy a symud ymlaen at sefyllfa lle rydym yn gweithio gyda natur i gynnal ecosystemau cydnerth, iach a fydd yn parhau i ddarparu buddion ansawdd bywyd tymor hir (neu wasanaethau ecosystem) rydym yn dibynnu arnynt.
  • Mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, sef un o'r heriau mwyaf rydym yn eu hwynebu ac mae angen i ni weithio gyda natur i leihau ein hôl troed carbon ac i liniaru ar gyfer y risgiau a'r effeithiau tebygol ac addasu iddynt.
  • Creu swyddi gwyrdd, amgylcheddol gyfrifol a chynaliadwy o safon sy'n gwneud yn fawr o'n hadnoddau naturiol unigryw e.e. drwy dwristiaeth amgylcheddol, rheoli tir gwledig yn gynaliadwy a diwydiannau a chrefftau morol.
  • Lleihau anghydraddoldebau iechyd a lles drwy gynnal a gwella amgylchedd naturiol hygyrch o safon ar draws y sir gyfan, ac annog mwy o ddefnydd o dir mynediad cyhoeddus megis parciau, gwarchodfeydd natur, tiroedd comin a choedwigoedd.

 

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn.

  • Datblygu, mabwysiadu a gweithredu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Corfforaethol (Is-adran 6).
  • Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a chyflwyno Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd ar gyfer Abertawe.
  • Datblygu a mabwysiadu polisi coed ar gyfer y cyngor.
  • Dechrau mapio asedau isadeiledd gwyrdd presennol a darpariaeth gwasanaeth ecosystem a nodi ardaloedd sy'n darparu'r cyfleoedd gorau ar gyfer gwelliannau, cyfleoedd gorau i wella cynefinoedd, cysyllted a gwella mynediad at hamdden gyda buddion iechyd a lles cysylltiedig.
  • Cynnal archwiliad bioamrywiaeth rhagarweiniol o dir sy'n eiddo i'r cyngor a lle bo'n bosib, yn rheoli ein hasedau corfforaethol er lles bioamrywiaeth ac adnoddau naturiol.
  • Gweithio gyda partneriaid i ddatblygu cyfleoedd i wella bioamrywiaeth a chysylltedd ecolegol, a'u rhoi ar waith.
  • Gweithio tuag at greu economi carbon isel sy'n hyrwyddo ynni adnewyddadwy ac sy'n cymryd camau i leihau ein hôl troed carbon.
  • Cyflwyno'r Strategaeth Ynni i leihau costau, darparu ynni rhatach a lleihau ein hôl troed carbon.
  • Gweithredu mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.
  • Parhau i gymryd rhan ym Menter Carbon Isel Abertawe a'i chefnogi.
  • Cefnogi mentrau a fydd yn cynyddu nifer y coed a gaiff eu plannu yn Abertawe.
  • Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'n hamgylchedd naturiol drwy ddarparu gwybodaeth, hyfforddiant a digwyddiadau.
  • Darparu cyfleoedd i blant ysgol gael mynediad i'w hamgylchedd naturiol a dysgu amdano.
  • Gweithio tuag at wella gynnal mynediad i'n parciau a'n mannau gwyrdd a chynnal eu hansawdd.
  • Parhau i gyflwyno rhaglen plannu blodau gwyllt a'u rheoli.
  • Ymgysylltu â chymunedau lleol i annog gwirfoddoli a'u cefnogi i weithredu er mwyn gwella a chynnal eu mannau gwyrdd a'u safleoedd bywyd gwyllt lleol.
  • Cymryd camau sy'n helpu i reoli rhywogaethau anfrodorol ymledol.
  • Cymryd nifer o gamau gweithredu i wella ansawdd aer a dŵr.
  • Ymgymryd â gwelliannau (dethol neu wedi'u targedu) i fannau gwyrdd fel rhan o rhaglen waith amgylcheddol i fodloni'n hymrwymiad i Safon Ansawdd Tai Cymru.
  • Lleihau ein defnydd o gynhyrchion a deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu ac ailgylchu rhagor o wastraff.

 

 

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at y nodau cenedlaethol.

 

Cymru lewyrchus

Cymru gydnerth

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymru o gymunedau cydlynus;

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Cymru iachach

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Yes

Yes

 

Yes

Yes

Yes

Yes

 

Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio.

  • Atal problemau rhag codi neu waethygu - Drwy roi terfyn ar ddirywiad bioamrywiaeth a chynnal a chyfoethogi amgylchedd naturiol cydnerth, byddwn yn cynnal gwasanaethau ecosystemau hanfodol (e.e. lliniaru llifogydd, ansawdd aer a dŵr, storio carbon a pheillio) a helpu i gynnal iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl. Drwy helpu pobl i ddeall achosion problemau a sut gallwn, drwy weithio gyda natur, atal problemau rhag codi. Drwy sicrhau y cydymffurfir â deddfwriaeth ac osgoi canlyniadau peidio â chydymffurfio.
  • Mynd i'r afael â heriau tymor hir - Rydym am atal colli bioamrywiaeth, hyrwyddo ecosystemau cydnerth iach a chryfhau isadeiledd gwyrdd i addasu a lliniaru ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd a sicrhau bod ein hamgylchedd naturiol a'r buddion a'r gwasanaethau a ddarperir ganddo'n cael eu gwarchod er budd cenedlaethau'r dyfodol.
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill - Byddwn yn parhau i gefnogi pobl eraill a chydweithio â nhw i gydlynu cyflwyno camau gweithredu a mwyafu'r defnydd o adnoddau.
  • Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion corff cyhoeddus - Drwy gynyddu ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth a sicrhau ei bod yn cael ei hystyried ar gamau cynnar gwneud penderfyniadau/dylunio cynlluniau a phrosiectau, gellir lleihau'r potensial ar gyfer gwrthdaro.
  • Cynnwys pobl - Byddwn yn datblygu gallu ac yn cyflawni mwy drwy gynnwys a chefnogi'r gymuned leol i gyfranogi wrth nodi a chyflwyno mentrau sy'n cynnal ac yn gwella'r amgylchedd naturiol. Galluogir i fwy o bobl gael mynediad i'w hamgylchedd naturiol i'w fwynhau.

 

Sut byddwn yn mesur cynnydd **

  • Byddwn yn adrodd am gynnydd tuag at gyflwyno Is-adran 6 y Cynllun Bioamrywiaeth Corfforaethol a nod Cymru gydnerth drwy ddulliau cynllunio busnes ac adrodd amdano'n flynyddol.
  • Byddwn yn datblygu dulliau ar gyfer mesur colledion ac enillion o ran maint ac ansawdd yr amgylchedd naturiol.
  • Byddwn yn parhau i fonitro ansawdd yr aer a'r dŵr.
  • Byddwn yn cofnodi nifer y bobl sy'n ymwneud â gwirfoddoli amgylcheddol a nifer yr oriau a dreulir.
  • Byddwn yn cofnodi nifer y digwyddiadau amgylcheddol a nifer y cyfranogwyr.
  •  Byddwn yn cofnodi nifer y cyrsiau hyfforddi sy'n ymwneud â bioamrywiaeth a nifer y bobl sy'n cymryd rhan.

    ** Dros dro yn amodol ar ddatblygu data.
     
  •  Byddwn yn sefydlu gweithgor Bioamrywiaeth Corfforaethol ac yn monitro cynnydd tuag at gyflwyno cynllun Is-adran 6.
  •  Cyflwyno'n Strategaeth Ynni Corfforaethol
  • Lleihau carbon yn adeiladau'r cyngor
  • Cyfraddau ailgylchu.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fod

Pobl yn byw'n dda ac yn heneiddio'n dda

Gweithio gyda Natur

Cymunedau cryf

Yes

Yes

Yes

Yes

 

Trawsnewid a Datblygu'r Cyngor yn y Dyfodol

Pam mae'r flaenoriaeth hon yn amcan lles?

  • Rydym am foderneiddio a thrawsnewid y cyngor drwy ein rhaglen Cyflawni Pethau'n Well Gyda'n Gilydd. Yn y tymor byr bydd hyn yn canolbwyntio ar gamau gweithredu ac ymyriadau sy'n gysylltiedig â COVID-19, gan gynnwys sut rydym yn dod drwy'r pandemig ac yn dechrau adfer. Yn y tymor canolig i'r tymor hir bydd y rhaglen yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi newid o ganlyniad i'r pandemig a sut gallwn ddarparu gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd i helpu i fynd i'r afael â'r galw cynyddol a lleihau cyllidebau refeniw.
  • Yn ystod y pandemig, gorfodwyd gwasanaethau'r cyngor i symud ar-lein a thros y ffôn. Rydym am gynnal yr ymagwedd hon er mwyn galluogi preswylwyr i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein yn gyntaf, gan leihau'r glaw am wasanaethau gweinyddu a swyddfa gefn. Rydym am greu incwm ychwanegol i dalu am wasanaethau a helpu teuluoedd yn gynt fel y gallwn leihau costau yn ddiweddarach.
  • Rydym am wella effeithlonrwydd a lleihau costau rheoli a chefnogi busnes ymhellach. Rydym hefyd am adolygu ein holl wasanaethau i sicrhau y cânt eu cyflwyno yn y ffordd orau bosib ac er mwyn arbed arian drwy weithio gyda phartneriaid fel yr Heddlu ac iechyd, neu drwy atal yr angen am fynediad i wasanaethau statudol costus lle gellir diwallu'r anghenion hynny mewn ffordd arall.
  • Rydym am i'r cyhoedd chwarae eu rhan drwy gydgynhyrchu gwasanaethau a helpu i'w cynnal, fel y cynllun llwyddiannus lle mae bowlwyr yn cynnal eu lawntiau eu hunain, neu drwy ailgylchu mwy gartref.
  • Rydym am i fwy o bobl fod yn rhan o fusnes y cyngor ac wrth wneud penderfyniadau am bethau sy'n effeithio arnyn nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau.
  • Rydym am fuddsoddi yn ein blaenoriaethau fel canol y ddinas, gwella ystafelloedd dosbarth, gwella ac ehangu'n stoc tai ynni-effeithlon a chyflwyno'r Fargen Ddinesig sydd â'r potensial i greu 10,000 o swyddi.

 

Yr heriau tymor hwy y bydd yr amcan lles hwn yn helpu i fynd i'r afael â hwy.

  • Mae galwadau a disgwyliad gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gynyddu ond mae llai o arian ar gael i'w cyflwyno.
  • Mae preswylwyr yn disgwyl i wasanaethau gael eu darparu y tu allan i oriau swyddfa arferol, bod yn gydlynus ac yn bersonol i'w hanghenion.
  • Mae pobl yn disgwyl y gallant gysylltu â sefydliadau cyhoeddus ac ymdrin â hwy mewn ffyrdd gwahanol, ac yn ceisio'n gynyddol i gysylltu â'r cyngor drwy'r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol.
  • Gallai datblygiadau yn y defnydd o Ddata Mawr a deallusrwydd artiffisial drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio, gan gynnwys awtomateiddio a gwasanaethau wedi'u targedu'n well.
  • Mae'n debygol y caiff mwy o wasanaethau eu darparu mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys cyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector yn unol â diwygiadau llywodraeth leol.

 

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn.

  • Diweddau cynllun trawsnewid y cyngor i'r Rhaglen Cyflawni Pethau'n Well Gyda'n Gilydd er mwyn trawsnewid gwasanaethau a'u cyflwyno'n well.
  • Rhoi Strategaeth Datblygu Sefydliadol y cyngor ar waith i gyflwyno gwasanaethau wedi'u trawsnewid fel bod gennym y bobl iawn â'r sgiliau iawn yn enwedig yng ngolau COVID-19.
  • Gwreiddio cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth gyflwyno gwasanaethau drwy rwydwaith o Gynrychiolwyr Cydraddoldeb a benodir ym mhob gwasanaeth a llunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-23 newydd ar gyfer y cyngor.
  • Adolygu ymagwedd y cyngor at gaffael i sicrhau buddion economaidd a chymunedol lleol, yn unol â'r egwyddorion datblygu cynaliadwy.
  • Parhau i wreiddio strategaeth "Digidol yn Gyntaf" fel y gall dinasyddion gael mynediad at ragor o wasanaethau a gwybodaeth ar-lein.
  • Hybu cynhwysiad digidol a galluogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein drwy ddarparu cyfleoedd dysgu gydol oes i ddinasyddion fel y gallant ymgymryd â chyrsiau a hyfforddiant cyfrifiadurol am ddim.
  • Archwilio cyfleoedd i gyd-weithio ag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill a rhannu syniadau, gan gynnwys swyddfeydd cefn, er mwyn arbed costau a gwella gwasanaethau ar gyfer dinasyddion.
  • Ymgysylltu'n fwy effeithiol a phenodol er mwyn gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth â'r trydydd sector a'r sector preifat er mwyn cyflawni blaenoriaethau a chanlyniadau a rennir y cyngor.
  • Adolygu gwaith gyda chymunedau, sefydliadau a grwpiau 'ffrindiau' i annog a galluogi mwy o berchnogaeth gymunedol o ran asedau a gwasanaethau a sicrhau eu cynaladwyedd tymor hir.
  • Ymateb i'r Bil Llywodraeth Leol a pharhau i foderneiddio dulliau i gynnwys y cyhoedd mewn democratiaeth leol ac ym mhrosesau gwneud penderfyniadau'r cyngor drwy sicrhau amserau cyfarfodydd mwy hygyrch, gwe-ddarlledu, pleidleisio electronig ac e-ddeisebau.
  • Parhau i gryfhau'r gwasanaeth Cymraeg a'r gwasanaethau iaith a gynigir yn gyffredinol gan y cyngor drwy ddarparu hyfforddiant iaith sylfaenol ar gyfer staff rheng flaen.
  • Sicrhau bod cyllidebau cymunedol ar gael fel y gall pobl leol benderfynu, gyda'u cynrychiolwyr, beth yw eu blaenoriaethau lleol.
  • Darparu cyfle i ddinasyddion ddylanwadu ar sut yr ysgrifennir polisïau a sut y cyflwynir gwasanaethau drwy ddatblygu Fframwaith Strategol Cydgynhyrchu Corfforaethol a Strategaeth Ymgynghori ac Ymgysylltu

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at y nodau cenedlaethol.

Cymru lewyrchus

Cymru gydnerth

Cymru sy'n fwy cyfartal

Cymru o gymunedau cydlynus;

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Cymru iachach

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Yes

 

Yes

Yes

Yes

 

 

 

Sut byddwn yn mwyafu ein cyfraniad at y nodau cenedlaethol drwy'r ffordd rydym yn gweithio.

  • Atal problemau rhag digwydd neu waethygu - helpu i atal pobl rhag gorfod troi'n syth at wasanaethau statudol drwy lif 'atal' y rhaglen Cyflawni Pethau'n Well Gyda'n Gilydd.
  • Mynd i'r afael â heriau tymor hir - newid y ffordd y mae'r cyngor yn gweithio, gan gynnwys mwy o wasanaethau digidol i adlewyrchu'r cam yn ystod COVID-19 tuag at fwy o bobl yn dymuno cael mynediad at wasanaethau drwy ddulliau digidol, symudol, y rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol.
  • Gweithio mewn partneriaeth ag eraill - cydweithio â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i gyflwyno gwasanaethau.
  • Osgoi gwrthdaro rhwng amcanion cyrff cyhoeddus - gwella ymgysylltu â phartneriaid, gan gynnwys y trydydd sector, drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i helpu i gefnogi trawsnewid gwasanaethau'r cyngor.
  • Cynnwys pobl - cynnwys defnyddwyr gwasanaeth mewn adolygiadau comisiynu o wasanaethau'r cyngor, ac mewn mentrau gweithredu yn y gymuned a pherchnogaeth.

 

Sut byddwn yn mesur cynnydd.

  • Arbedion ac incwm rhagweledig refeniw'r gronfa gyffredinol a nodwyd ar gyfer y flwyddyn o'u cymharu â'r gyllideb a gymeradwywyd gan y cyngor.
  • Nifer y taliadau a ffurflenni a gwblhawyd ar-lein.
  • Unrhyw achosion o dorri diogeledd data.
  • Y gweithlu'n cael ei gefnogi i ddatblygu sgiliau a dysgu pethau newydd fel rhan o strategaeth datblygu sefydliadol wedi'i thargedu tuag at weithlu mwy hyblyg a gweision cyhoeddus yr 21ain ganrif.
  • Cyfraddau salwch staff.

 

Cyfraniad yr amcan lles hwn at Amcanion Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

Plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd i fod y gorau y gallant fod

Pobl yn byw'n dda ac yn heneiddio'n dda

Gweithio gyda Natur

Cymunedau cryf

 

Yes

 

Yes

 

 4. Monitro cyflawniad - monitro perfformiad yn barhaol

Byddwn yn monitro'r cyflawni ac yn adolygu'n cynnydd wrth gyflawni'n hamcanion lles fel a ganlyn:

 

Sut byddwn yn monitro cynnydd

  • Drwy adroddiadau monitro perfformiad chwarterol a blynyddol i'r Cabinet.

 

Sut byddwn yn adrodd am gyflawniadau

  • Yn chwarterol ac yn flynyddol drwy'r Cabinet.
  • Adroddiad Blynyddol.

 

Pryd a sut caiff y cynllun hwn ei ddiwygio

  • Adolygiad a diweddariad blynyddol.

 

 5. Camau nesaf - yr hyn ydym yn bwriadu ei wneud nesaf

Gwnaed cynnydd da wrth wreiddio ffyrdd cynaliadwy o weithio yn ein ffordd o wneud busnes, fel y dangoswyd yn y cynllun hwn; rydym am barhau i adeiladu ar hyn.

Er mwyn bodloni'n rhwymedigaethau'n llawn o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, rydym am

 

  • sicrhau bod digon o allu ac adnoddau cydlynol wrth gynllunio'n strategol,
  • parhau i chwilio am ffyrdd o gynyddu cyfranogaeth dinasyddion;
  • ceisio creu arolwg strategol tymor hwy, yn edrych hyd at 25 neu fwy o flynyddoedd i'r dyfodol,
  • sicrhau integreiddio strategol a chydlyniant rhwng cynlluniau a strategaethau,
  • gweithio i sicrhau bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy yn llywio'r strategaeth a'r broses gwneud penderfyniadau, a
  • pharhau i wreiddio ffyrdd cynaliadwy o weithio ymhellach.

 

6. Ble i gael rhagor o wybodaeth 

Strategaethau, cynlluniau a pholisïau

Perfformiad ac ystadegau

Cyllid a chyllideb

Craffu

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Diogelu a cham-drin

Ysgolion a dysgu

Hawliau plant a phobl ifanc

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg westernbay.org.uk

Ein Rhanbarth ar Waith (ERW) www.erw.wales

Dweud eich Dweud - ymgynghoriadau Cyfle i ddweud eich dweud

Cynllun cydraddoldeb strategol

Yr iaith Gymraeg

Close Dewis iaith