Gliniaduron wedi'u hailgylchu'n helpu i gefnogi pobl ifanc i fynd ar-lein
Mae dau gant o liniaduron wedi'u hailgylchu wedi cael eu dosbarthu'r mis hwn i bobl ifanc na fyddai ganddynt un fel arall, diolch i bartneriaeth rhwng y DVLA a Chyngor Abertawe.


Mae'r DVLA yn rhoi offer digidol wedi'u hailwampio nad oes eu hangen arno mwyach i awdurdodau lleol i'w hailddosbarthu. Mae'r cynllun a lansiwyd yn 2021 wedi galluogi'r DVLA i fod yn un o lofnodwyr cyntaf siarter IT Reuse for Good Llywodraeth y DU, sy'n hyrwyddo ailwampio dyfeisiau TG i annog mwy o gynhwysiant digidol.
Mae'r cynllun yn cefnogi twf sgiliau digidol hanfodol i bawb ac yn helpu i sicrhau nad yw pobl ifanc yn wynebu allgáu digidol.
Mae'r swp diweddaraf o 200 o liniaduron wedi'i ddosbarthu i blant a phobl ifanc sy'n gweithio gyda gwasanaethau cymdeithasol, timau ieuenctid ac addysg y cyngor, yn ogystal â phobl sy'n mynd i'r Ganolfan Cam-drin Domestig a myfyrwyr mewn ysgolion a cholegau.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Ni oedd y cyngor cyntaf i bartneru â'r DVLA ar eu Cynllun Cynhwysiant Digidol arloesol, gyda channoedd o ddisgyblion yn ein hysgolion yn elwa dros y blynyddoedd diwethaf.
"Rwy'n hynod ddiolchgar bod y bartneriaeth hon wedi parhau. Mae defnydd da wedi'i wneud o'r rhodd ddiweddaraf hon o 200 o liniaduron, gan gefnogi pobl ifanc a theuluoedd sy'n cael mynediad at ein gwasanaethau, gan gynnwys plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal sy'n gweithio'n galed i sicrhau hyfforddiant a chyflogaeth.
"Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol iddynt, ac rwy'n falch bod y cyngor a'r DVLA wedi gweithio gyda'i gilydd i gyflawni hyn."
Meddai Tim Moss CBE, Prif Weithredwr y DVLA,
"Mae'n wych gweld sut mae ein Cynllun Cynhwysiant Digidol yn helpu pobl ifanc yn Abertawe. Nid oes gan bawb liniadur gartref, felly mae gallu trosglwyddo ein dyfeisiau wedi'u hadnewyddu'n golygu y gall mwy o bobl fynd ar-lein, dysgu sgiliau newydd a mynd ar drywydd eu nodau. Rydym yn falch o weithio gyda Chyngor Abertawe ar hyn - mae'n ffordd wych o gefnogi'r gymuned a gwneud gwahaniaeth go iawn."
Drwy ailbwrpasu'r offer TG, mae'n ymestyn bywyd gliniadur, gan helpu i leihau nifer y peiriannau sy'n cael eu gwaredu. Mae hyn yn helpu i leihau allyriadau carbon y DVLA tuag at sero net.
Mae'r holl ddyfeisiau sy'n cael eu rhoddi o dan y cynllun yn cael eu glanhau i safonau cytunedig y llywodraeth a darperir trwyddedau system weithredu iddynt drwy raglen Microsoft Authorized Refurbisher.