Toglo gwelededd dewislen symudol

Disgwyl i hen uned Debenhams agor yn 2026 gan roi hwb mawr i ganol y ddinas

Disgwylir i dri busnes agor yn hen uned Debenhams ar ddechrau 2026 gan roi hwb mawr i swyddi lleol a chanol y ddinas.

Debenhams Swansea unit

Debenhams Swansea unit

Mae Cyngor Abertawe bellach yn llofnodi cytundebau penawdau'r telerau gyda dau fanwerthwr adnabyddus ar y stryd fawr a gweithredwr hamdden a fydd yn defnyddio'r adeilad.

Bydd enwau'r siopau a'r busnes hamdden yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bydd y trafodaethau prydlesu'n dod i ben.

Bydd llawr gwaelod hen adeilad Debenhams yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant yn cael ei rannu'n ddwy uned ar gyfer y tenantiaid manwerthu adnabyddus, a bydd y llawr uchaf yn cael ei ail-bwrpasu ar gyfer y gweithredwr hamdden.

Mae'r gwaith ailwampio, gan gynnwys ail-doi a chael gwared ar osodiadau ac offer, wedi'i drefnu ar gyfer yr haf fel y gall y tenantiaid baratoi'r adeilad yn yr hydref.

Mae'r newyddion yn dilyn penderfyniad y cyngor i brynu'r adeilad gyda chymorth Llywodraeth Cymru ar ôl i gwmni Debenhams fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn gwybod pa mor bwysig y mae hen adeilad Debenhams i bobl leol a busnesau yng nghanol y ddinas.

"Dyna pam rydym wedi bod yn gweithio'n ddiflino i ddenu tenantiaid manwerthu a hamdden a chyrraedd cam lle gellir gwneud gwaith ailwampio er mwyn paratoi'r adeilad ar gyfer meddianwyr unwaith eto.

"Bydd yr adeilad, y disgwylir iddo agor yn gynnar yn 2026, yn denu llawer mwy o bobl a gweithgarwch yn ôl i'r Cwadrant a chanol y ddinas, a bydd hefyd yn helpu i fagu hyder a denu mwy o fuddsoddiad a swyddi yn y dyfodol.

"Bydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â heriau siopa ar-lein a phobl yn mynd i fannau eraill i siopa."

Mae gwaith hefyd yn dechrau'r haf hwn i ailwampio Sgwâr y Castell i greu cyrchfan llawer gwyrddach yng nghanol y ddinas.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Mai 2025