Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith yn dechrau i ddefnyddio uned Debenhams eto

Mae gwaith wedi dechrau yn hen uned Debenhams yng nghanol dinas Abertawe wrth i brosiect i'w defnyddio eto fynd o nerth i nerth.

Debenhams Swansea unit

Debenhams Swansea unit

Gan weithredu ar ran Cyngor Abertawe, mae tîm o Andrew Scott Ltd bellach yn gwneud gwaith y tu mewn i'r adeilad i dynnu deunydd allan i'w baratoi i gael ei feddiannu.

Mae trafodaethau prydlesu rhwng y cyngor a dau fanwerthwr adnabyddus a gweithredwr hamdden ynghylch yr adeilad ar fin cael eu cwblhau.

Bydd llawr gwaelod yr adeilad yn cael ei rannu'n ddwy uned ar gyfer y tenantiaid manwerthu adnabyddus, a bydd y lloriau uwch yn cael eu haddasu at ddibenion y gweithredwr hamdden.

Cyn gynted ag y bydd y trafodaethau prydlesu wedi'u cwblhau, bydd enwau'r siopau a'r busnes hamdden yn cael eu cyhoeddi.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn gwybod pa mor bwysig y mae hen uned Debenhams i breswylwyr Abertawe a busnesau yng nghanol y ddinas. Dyna'r rheswm pam gwnaethom brynu'r adeilad gyda chymorth Llywodraeth Cymru ar ôl i Debenhams fynd i ddwylo gweinyddwyr, a byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni i'w ddefnyddio eto.

"Mae'r gwaith sydd wedi dechrau i dynnu deunydd allan yn angenrheidiol er mwyn adfer yr adeilad i gyflwr a fydd yn dderbyniol i ddarpar denantiaid ddechrau eu gosodiadau.

"Mae defnyddio hen uned Debenhams eto'n rhan o'n hymrwymiad i sicrhau bod canol y ddinas yn ffynnu er budd pobl leol, busnesau lleol ac ymwelwyr."

Yn ogystal â thynnu gosodiadau a ffitiadau'r adeilad allan, mae gwaith ar do hen uned Debenhams yn yr arfaeth.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Awst 2025