Swyddi prentisiaethau digidol ar gael yn y cyngor
Mae chwe swydd brentisiaeth ddigidol newydd ar gael yng Nghyngor Abertawe.


Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer rolau yn y tîm gwasanaethau digidol, sy'n cynnwys prentis swyddog cyflawni TGCh, prentis datblygu cymwysiadau a phrentisiaid cymorth technegol.
Gallai eu gwaith gynnwys adeiladu offer TG, cyfrannu at ddatblygu technolegau meddalwedd sy'n dod i'r amlwg neu ffurfweddu a datrys problemau sy'n ymwneud â chysylltiadau rhwydwaith.
Mae prentisiaid blaenorol yn y tîm wedi symud ymlaen i wneud cyrsiau gradd a sicrhau swyddi llawn amser yn y cyngor.
Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd Cyngor Abertawe ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau, "Mae datblygiadau parhaus mewn TG a thechnoleg ddigidol yn golygu bod y cyngor yn newid y ffordd y mae'n gweithio i ddiwallu anghenion a bodloni dyheadau ein preswylwyr a'n staff yn well.
"Mae ein tîm gwasanaethau digidol wrth wraidd y newid hwn, felly mae'r prentisiaethau sydd bellach ar gael yn rhoi cyfle cyffrous i gefnogi anghenion TG adrannau eraill y cyngor a chyfrannu at ddefnyddio technolegau sy'n dod i'r amlwg.
"Bydd y prentisiaethau hyn yn caniatáu i'r ymgeiswyr llwyddiannus gael mynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel bydd yn rhoi'r cyfle iddynt ennill arian wrth ddysgu, gan helpu i sicrhau cyflogaeth amser llawn yn y cyngor yn y dyfodol."
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais ar gyfer swyddi prentisiaethau digidol yw dydd Llun 23 Mehefin.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/swyddiabertawe i wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth.