Digwyddiadau Llyfrgell Pontarddulais
Digwyddiadau rheolaidd ac untro sy'n cael eu cynnal yn Llyfrgell Pontarddulais.
Hwyl gwyliau'r Pasg
Crefftau Bwni'r Pasg a Helfa Wyau
Dydd Mawrth 15 Ebrill, 2.30pm
Ymunwch â ni ddydd Mawrth 15 Ebrill am 2.30pm am hwyl gyda chrefftau a helfa wyau Pasg.
Tedis yn Cysgu Dros Nos yn y Llyfrgell
Dydd Mawrth 22 Ebrill, 3.30pm
Dewch â'ch tedi neu degan meddal i gysgu dros nos yn llyfrgell Pontarddulais!
Dewch i'r llyfrgell ddydd Mawrth 22 Ebrill am 3.30pm i greu label a blanced ar gyfer eich tedi!*
Yna... bydd eich tedi'n cael cysgu yma drwy'r nos a chael llond trol o hwyl!
Pan fyddwch yn dod i gasglu'ch tedi cewch weld llawer o luniau o'r pethau y buodd y tedis yn eu gwneud!
Beth fyddan nhw'n ei wneud?!
*Os na allwch ddod i'r sesiwn, dewch a'ch tedi/tegan yma a'i adael wrth y ddesg.
Digwyddiadau rheolaidd ar gyfer oedolion
Dydd Llun
Dydd Llun cyntaf y mis
- Grŵp darllen, 11.30am - 12.30pm
Dydd Mawrth
Dydd Mawrth olaf y mis
- Crefftau i oedolion, 11.00am - 12.30pm (efallai fod angen cadw lle, gwiriwch gydag aelod o staff)
Dydd Mercher
Wythnosol
- Sesiwn galw heibio ddigidol, 11.00am - 12.30pm
Oes angen help arnoch gyda thechnoleg symudol? Dewch i'n sesiynau galw heibio i gael arweiniad.
Digwyddiadau rheolaidd i blant
Dydd Llun
Wythnosol
- Amser rhigwm, 10.30am - 11.00am
Dydd Mercher
Wythnosol
- Gemau bwrdd i'ch difyrru, 3.30pm - 5.00pm
Dydd Gwener
Wythnosol
- Crefftau tymhorol i blant, 2.00pm - 3.00pm (yn addas i blant 3 - 5 oed)
- Clwb LEGO, 3.30pm - 5.00pm
Dydd Sadwrn
Wythnosol
- Clwb cymdeithasol Nintendo Switch, 10.30am - 12.30pm