Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyrsiau achub bywyd

Mae'r tîm Diogelwch Dwr yn cynnal nifer o gyrsiau Cymhwyster Achub Bywyd y Pwll Cenedlaethol (NPLQ) 8fed Rhifyn Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd i roi'r gofyniad sylfaenol i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am swyddi fel achubwyr bywyd pwll/swyddogion hamdden.

Fel darpar achubwyr bywyd pwll, rhaid i ymgeiswyr am gwrs:

  • fod yn 16 oed cyn yr asesiad
  • cwblhau isafswm o 36 o oriau cyswllt mewn hyfforddiant theori ac ymarferol cyn yr asesiad
  • cwblhau ymarferion yn y llyfryn 'Yr Achubwr Bywyd' yn ystod y cwrs

Bydd ymgeiswyr yn cael prawf ar ddiwrnod cyntaf y cwrs a byddant yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gallu pasio'r prawf gallu nofio a hyder yn y dwr. Os na fydd yn cwblhau'r prawf ar ddechrau'r cwrs, ni fydd yr ymgeisydd yn gallu parhau â'r cwrs. Ni roddir ad-daliadau i ymgeiswyr sy'n methu'r asesiad gallu nofio.

Rhaid eich bod yn gallu:

  • neidio i'r pen dwfn
  • nofio 50 metr mewn llai na munud
  • nofio'n barhaus am 100 metr ar eich cefn a'ch blaen
  • plymio i ran ddyfnaf y pwll i ôl manicin
  • troedio dwr am 30 eiliad
  • dringo allan o'r pwll heb gymorth

 

Peidiwch ag Yfed a Boddi

Mae'n cymryd eiliad yn unig i ddiod neu ddwy arwain at hunllef. Yn ôl ffigurau mae gan tua chwarter yr holl oedolion sydd wedi boddi alcohol yn eu gwaed. Os ydych chi wedi cael diod, cadwch draw oddi wrth y dŵr.

Mae'r ymgyrch yn cynyddu ymwybyddiaeth o beryglon bod yn agos at ddŵr pan fydd pobl dan ddylanwad alcohol.

Arhoswch yn ddiogel

  • Peidiwch â cherdded adref yn agos at ddŵr, efallai y byddwch chi'n cwympo i mewn iddo.
  • Cadwch lygad ar ffrindiau i sicrhau eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel.
  • Peidiwch â mynd i mewn i'r dŵr os ydych chi wedi bod yn yfed.
  • Mae alcohol yn amharu'n ddifrifol ar eich gallu i gael eich hunan allan o drafferth.

Effeithiau alcohol

  • Mae alcohol yn gwneud i chi anghofio am eich swildod, gan amharu ar eich synnwyr cyffredin sy'n golygu eich bod yn fwy tebygol o gymryd risgiau a mynd i drafferth.
  • Mae alcohol yn cyfyngu ar allu cyhyrau gan wneud symudiadau syml yn llawer anoddach.
  • Mae alcohol yn arafu'ch ymatebion gan ei gwneud hi'n fwy anodd cael eich hun allan o drafferth.
  • Mae alcohol yn merwino'r synhwyrau, yn enwedig golwg, clyw a chyffyrddiad, gan wneud nofio yn anodd iawn.

Dyddiadau'r cwrs achub bywyd

Dewch o hyd i ddyddiadau'r cyrsiau achubwyr bywydau diweddaraf

Hyfforddiant achubwyr bywyd

Ydych chi'n achubwr bywyd cymwys ac mae angen i chi fynychu hyfforddiant bob mis neu ail-gymhwyso?
Close Dewis iaith