Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyddiadau'r cwrs achub bywyd

Dewch o hyd i ddyddiadau'r cyrsiau achubwyr bywydau diweddaraf

Ffioedd y Cyrsiau

Dyma ffioedd y cyrsiau ar gyfer Cymhwyster Achub Bywyd Cenedlaethol y Gymdeithas Frenhinol Achub Bywyd a gynhelir gan yr adran diogelwch dwr:

Ffi safonol: £320.00 
Ffi gonsesiynol (gan gynnwys myfyrwyr mewn addysg amser llawn): £250.00
Ffi Pasbort i Hamdden: £160.00
 

Mae'r ffioedd uchod yn cynnwys pecyn ymgeiswyr RLSS a ffi yr asesiad cychwynnol. Os bydd ymgeisydd yn methu'r asesiad cychwynnol, bydd yn rhaid i'r ymgeisydd dalu ffi ychwanegol i wneud yr asesiad eto.

Talu ffioedd

Gall y tîm diogelwch dwr dderbyn taliad dros y ffôn drwy gerdyn credyd/debyd ac rydym yn awgrymu eich bod yn gwneud hyn i gadarnhau eich lle ar unwaith.

Gallwch hefyd dalu â siec a'i gwneud yn daladwy i "Dinas a Sir Abertawe". Fodd bynnag, gall y tîm diogelwch dwr gadarnhau eich lle ar y cwrs ar ôl derbyn siec yn unig ac nid ydynt yn gyfrifol am unrhyw ohiriad yn y post.

Os ydych yn gymwys am ddisgownt, gallwn dderbyn taliadau am y ffi wrth i chi wneud cais a rhaid i chi ddangos eich bod yn gymwys am y consesiwn o fewn 14 diwrnod o dalu. Bydd methu â dangos prawf cymhwyster yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu'r ffi safonol.

Y prawf disgownt:

  • cerdyn NUS dilys
  • llythyr gan eich ysgol neu goleg
  • rhif PTL dilys

 

Polisi canslo

Rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ohirio cwrs ar unrhyw adeg. Mae rhai rhesymau dros wneud hyn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, nifer isel o bobl wedi cofrestru a rhybuddion tywydd. Ymdrechwn i roi gwybod i chi o fewn 7 niwrnod cyn i'r cwrs ddechrau, serch hynny, efallai y bydd rhaid i ni ganslo ar fyr rybudd.

Nid yw Dinas a Sir Abertawe yn gyfrifol am unrhyw gostau ychwanegol i chi a geir o ganlyniad, gan gynnwys costau teithio neu letya.

Os caiff cwrs ei ganslo gan y tîm Diogelwch Dŵr, caiff y cyfranogwyr cofrestredig ddewis rhwng cofrestru ar gwrs arall yn y dyfodol neu dderbyn ad-daliad o gost lawn y cwrs. Ble bynnag y bo modd, ymdrechwn i gynnig lle amgen ar ddyddiad arall.*

Mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw'r hawl i gadw rhan o'r ffi a dalwyd, neu'r ffi lawn, os bydd yr ymgeisydd yn canslo neu'n absennol. Bydd y swm a gedwir yn dibynnu ar y rhybudd a roddir:

  • 15 niwrnod neu fwy o rybudd - cadw 25% o'r taliad
  • 7-14 diwrnod o rybudd - cadw 50% o'r taliad
  • 1-6 diwrnod o rybudd  - cadw 75% o'r taliad
  • Rhybudd ar y dydd neu absenoldeb - cadw 100% o'r taliad
  • Methu'r prawf gallu nofio ar ddiwrnod 1 - cadw 100% o'r taliad

Os hoffech ganslo'ch lle, e-bostiwch ni yn diogelwch.dwr@abertawe.gov.uk. Bydd dyddiad eich e-bost yn pennu'r cyfnod o rybudd y bydd yn rhaid i chi ei roi.

* Yn ddibynnol ar argaeledd.