Toglo gwelededd dewislen symudol

Diffodd goleuadau ar gyfer yr Awr Ddaear

Mae preswylwyr Abertawe yn cael eu hannog i gefnogi digwyddiad diffodd goleuadau Awr Ddaear Cymru'r wythnos nesaf i ddathlu'r blaned a nodi'r angen i'w diogelu.

Earth Hour

Earth Hour

Nos Sadwrn, 26 Mawrth am 8.30pm, bydd Neuadd y Ddinas a Chanolfan Ddinesig Abertawe yn ymuno â miliynau o aelwydydd a chymunedau i ddangos cefnogaeth ar gyfer digwyddiad Y Gronfa Natur Fyd-eang (WWF).

DywedoddMartin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd Cyngor Abertawe - a'r Prif Weithredwr Dros Dro o fis Mai eleni - ei fod yn gobeithio y bydd preswylwyr yn rhan o'r ffenomenon byd-eang hwn hefyd.

Meddai, "Rydym yn falch o gymryd rhan yn Awr Ddaear unwaith eto. Mae'r cyngor yn chwarae ei ran drwy gydol y flwyddyn wrth ddatgan argyfwng hinsawdd, ailddyblu'n gwaith i leihau ein hôl troed carbon a cheisio gwneud y cyngor yn sefydliad ddi-garbon net erbyn 2030. 

"Rydym am wneud y ddinas yn un sero-net erbyn 2050.

"Mae diffodd y goleuadau nad ydynt yn hanfodol yn y Ganolfan Ddinesig a Neuadd y Ddinas, yn ogystal â mewn cartrefi ledled y ddinas yn anfon neges bwerus ynghylch cymaint rydym i gyd yn poeni am yr amgylchedd yn Abertawe. Dyna pam ei fod wedi dod yn ddigwyddiad mor arbennig yma bob blwyddyn.

"Rydym yn gobeithio y bydd preswylwyr o bob oed yn ymuno yn eu ffordd eu hunain, p'un ai yw hynny'n golygu bod pobl ifanc yn diffodd eu consolau gemau neu deuluoedd yn diffodd eu teledu, neu bobl yn mynd yr holl ffordd ac yn diffodd eu holl oleuadau.

"Mae'n bwysig am ei fod yn gwneud i ni feddwl am ein hamgylchedd a'r ffaith bod gan bob un ohonom rôl i'w chwarae wrth amddiffyn ein planed ar gyfer y cenedlaethau i ddod."

Mae arddangosiad unigryw o dywyllwch yr Awr Ddaear wedi dod yn ffenomen ryngwladol, gyda channoedd o filiynau o unigolion yn dod ynghyd bob blwyddyn.

Gall pawb gofrestru ar gyfer Awr Ddaear Cronfa Natur Fyd-Eang 2021. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i www.wwf.org.uk/earth-hour