Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cabinet yn cefnogi cynigion buddsoddi uchelgeisiol gwerth £400 miliwn mewn ysgolion

Mae cynigion uchelgeisiol i fuddsoddi mwy na £400 miliwn mewn adeiladau ysgol newydd a gwell ar draws Abertawe wedi cael eu cymeradwyo gan gabinet y Cyngor.

New teaching block at YG Gwyr

New teaching block at YG Gwyr

Byddai'r rhaglen yn cael ei hariannu'n helaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chyfraniad ariannol lleol, gan gynnwys cyfraniadau gan ddatblygwyr a derbyniadau cyfalaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob cyngor yng Nghymru gyflwyno'i syniadau ariannu a'i flaenoriaethau buddsoddi ar gyfer cyfleusterau ysgol dros y naw mlynedd nesaf.

Mae'r rownd newydd o fuddsoddiad yn nyfodol plant sy'n cael ei chynnig gan y Cyngor yn amodol ar gymorth ariannol a chymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y rhaglen newydd yn adeiladu ar stori lwyddiant y degawd diwethaf, sydd wedi cynnwys saith ysgol newydd yn cael eu hadeiladu, gwaith uwchraddio mawr ar saith ysgol arall a thri phrosiect arall sy'n mynd rhagddo o hyd.

Mae cynigion Abertawe'n cynnig opsiynau i gynyddu nifer y plant sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn cynnwys y Cyngor yn edrych ar greu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd neu well mewn pedair ardal, er mwyn sicrhau nad oes angen i ddisgyblion deithio'n rhy bell i fynd i'r ysgol.

Mae cynigion eisoes ar waith ar gyfer gwaith uwchraddio yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, a fydd yn gwella cyfleusterau ac yn cynyddu nifer y lleoedd yn yr ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg.

Caiff y buddsoddiad ei flaenoriaethu ar gyfer yr ysgolion hynny a chanddynt yr anghenion cyflwr ac addasrwydd mwyaf, a gallai'r rhain gynnwys ysgolion cynradd Clydach, Dyfnant, Blaen-y-maes, Portmead, Brynhyfryd ac Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff, yn ogystal ag YGG Bryn y Môr.

Bydd rhaglen cynnal a chadw ysgolion cyfalaf flynyddol y Cyngor yn parhau i leihau'r ôl-groniad o atgyweiriadau mewn ysgolion eraill.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Rydym am i'n pobl ifanc ddysgu mewn amgylchoedd modern a chroesawgar drwy barhau i uwchraddio'n hadeiladau ysgol fel rhan o'r rhaglen buddsoddi mewn ysgolion fwyaf a welwyd erioed yn Abertawe.

"Er ein bod eisoes wedi gwella cyfleusterau ysgol ar gyfer miloedd o ddisgyblion yn y blynyddoedd diwethaf, rydym eisiau sicrhau cymaint o fuddsoddiad pellach â phosib ar gyfer ysgolion yn Abertawe.

"Mae ein cynigion wedi blaenoriaethu cyflwr presennol cyfleusterau, addasrwydd a materion cynaladwyedd, yn ogystal â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y disgyblion yn Abertawe sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg."

Close Dewis iaith