Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hwb Cyflogaeth dros dro yn agor yn y Cwadrant

Mae'r hwb cyflogaeth dan yr unto cyntaf o'i fath yn Abertawe wedi agor yn y Cwadrant.

Pop-up employment hub

Pop-up employment hub

Mae gwasanaeth cyflogadwyedd Cyngor Abertawe, Abertawe'n Gweithio, ynghyd â'i bartneriaid, wedi agor yr hwb dros dro yn Uned 9 yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant gyferbyn â siop HMV.

Mae'n darparu ystod o gefnogaeth i helpu pobl yn Abertawe gael mynediad at y farchnad gyflogaeth.

Mae gwasanaethau'n cynnwys; diwrnodau cyflogwyr, digwyddiadau cyflogaeth benodol, hyfforddiant a llawer mwy.

Diolch i bartneriaid fel Canolfan yr Amgylchedd, Barnardo's Abertawe, Whitehead Ross a Gweithffyrdd mae cyngor a chefnogaeth hefyd ar yr argyfwng costau byw, budd-daliadau lles a dyled.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Pugh, "Drwy leoli'r gwasanaeth dros dro hwn yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant, mae e' mor ganolog a hygyrch â phosib i holl breswylwyr Abertawe."

Cynhelir diwrnod recriwtio gyda phrif gwmni diogelwch a lletygarwch ar brynhawn dydd Gwener 17 Mehefin a bydd diwrnodau recriwtio gyda Ninja Warrior ar 18 a 22 Mehefin.

Close Dewis iaith