Mae gofalwyr maeth yn Abertawe yn annog eraill i ystyried maethu a darganfod y cysylltiadau pwerus sy'n trawsnewid bywydau.
Yr wythnos hon yw dechrau Pythefnos Gofal Maeth ac mae'r ymgyrch, sef menter ymwybyddiaeth feithrin fwyaf y DU, yn dathlu Pŵer Perthnasoedd yn 2025.

Mae Maethu Cymru yn galw ar ragor o bobl i ddod ymlaen, gyda dros 7,000 o blant mewn gofal ledled Cymru a dim ond 3,800 o deuluoedd yn maethu. Y nod yw recriwtio 800 yn fwy o ofalwyr erbyn 2026.
Ymhlith y rhai sy'n cefnogi'r ymgyrch mae gofalwyr maeth o Abertawe, Holly a Mark Bowtell, a ddechreuodd faethu ym mis Tachwedd 2022, ochr yn ochr â'u plant Oscar a Sofie.
Meddai Holly: "Fe wnaethon ni siarad llawer am y peth a chael cymorth ein plant a oedd yn hollbwysig. Cawsom hefyd anogaeth ein teulu a'n ffrindiau a oedd eisiau ein cefnogi. Pan wnaethon ni ddarganfod y byddai'r cyllid yn gweithio, roeddwn i'n gallu rhoi'r gorau i weithio fel nyrs."
Ychwanegodd Mark: "Roedden ni ond yn meddwl y gallen ni gynnig ein cartref ni. Mae gan y ddau ohonom ni dipyn o galon dros y bregus a'r rhai sydd heb lais. Mae yna ddywediad, 'Peidiwch ag anghofio dangos lletygarwch i ddieithriaid, oherwydd mae rhai sydd wedi gwneud hyn wedi llety angylion yn ddiarwybod!'"
Ar hyn o bryd yn maethu plentyn ifanc yn y tymor hir wrth gynnig hefyd ofal seibiant, mae Holly a Mark wedi gweld pŵer perthnasoedd yn agos. Mae'r plentyn maen nhw'n gofalu amdano yn ddi-eiriau ac roedd e'n dawedog iawn pan gyrhaeddodd, ond trwy gariad a gofal cyson, mae wedi ffynnu.
Meddai Holly: "Pan rydyn ni'n ei godi o'r ysgol ac mae'n ein gweld ni, mae'n goleuo gyda'i wên enfawr. Mae'n lledu o glust i glust. Mae mor hyfryd. Mae'n gwneud i chi deimlo'n gynnes y tu mewn."
Rhannodd Mark: "Dyw e ddim yn gallu dweud wrthym ni 'Rwy'n dy garu di' mewn geiriau ond mae'n dangos hynny yn ei ffordd ei hun. Pan fyddwn ni'n rhoi cwtsh iddo nawr, mae'n caru hynny ac mae e mor hapus."
Mae'r cwlwm rhyngddyn nhw wedi newid bywyd, nid yn unig y plentyn ond hefyd y teulu Bowtell hefyd.
Meddai Mark: "Mae'n gwneud i chi oedi ac edrych ar bethau o safbwynt plentyn. Mae'n therapi eithaf da i ni hefyd, yn enwedig os ydych chi wedi cael diwrnod caled."
Meddai'r Cynghorydd Louise Gibbard, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Gofal: "Mae maethu yn fwy na dim ond darparu to dros ben plentyn - mae'n golygu creu ymdeimlad o gysylltiad, ymddiriedaeth a pherthyn.
"Mae llawer o blant mewn gofal wedi wynebu ansefydlogrwydd, colled, neu drawma, a'r hyn sydd ei angen fwyaf arnynt yw rhywun a fydd yn sefyll wrth eu hymyl nhw, yn gwrando, ac yn eu helpu nhw i deimlo'n ddiogel.
"Gall perthnasoedd cryf, meithringar newid bywydau - gan gynnig sefydlogrwydd i blant wella a'r cymorth i adeiladu dyfodol mwy disglair. Os nad ydych chi wedi meddwl am faethu o'r blaen, nawr yw eich cyfle chi."
Meddai: "Gall pawb ddod â rhywbeth i'r bwrdd pan fydd angen maethu. Mae maethu yn hyblyg; mae cymaint o ffyrdd i faethu, ac mae pob un yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant. Beth bynnag yw eich amgylchiadau presennol chi, gall maethu gyd-fynd â'ch bywyd."
Os hoffech chi ddysgu rhagor am faethu a sut y gall gyd-fynd â deinameg eich teulu neu eich ffordd o fyw chi, mae Maethu Cymru Abertawe yn cynnal digwyddiad gwybodaeth ddydd Mercher 21 Mai, 6-8pm yn yr Ystafell Gymunedol yn Tesco Llansamlet. Dewch draw i siarad â gofalwyr maeth.
Os hoffech chi siarad ag aelod o dîm profiadol y gwasanaeth am sgwrs anffurfiol, ffoniwch 0300 555 0111. Fel arall, os ydych chi'n byw yn Abertawe, gallwch chi ddysgu rhagor am faethu - a'r broses o ddod yn ofalwr maeth - ar wefan Maethu Cymru Abertawe.