Toglo gwelededd dewislen symudol

Arian ychwanegol i helpu i gefnogi banciau bwyd y ddinas

Mae dau ddeg dau o elusennau a grwpiau cymunedol sy'n darparu cefnogaeth mewn argyfwng i bobl sy'n profi tlodi wedi derbyn arian gan Gyngor Abertawe.

Foodbank generic

Foodbank generic

Mae'r galw am fanciau bwyd a chefnogaeth arall wedi cynyddu dros y misoedd diwethaf ac felly mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £42,000 ychwanegol i'r cyngor.

Mae'r sefydliadau a gyflwynodd ceisiadau llwyddiannus am gyllid yn cynnwys banc bwyd Gellifedw, Prosiect Datblygu Congolaidd, Matthew's House, Partneriaeth Pontarddulais, SAM Recovery, Eglwys St Thomas, Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd a The Wallich.

Roedd yr holl arian a glustnodwyd ar gyfer eitemau i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac roedd hyn yn cynnwys prynu bwyd, storio, pacio, costau cludiant ac aelodaeth FareShare Cymru.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Alyson Pugh, "Drwy gydol y pandemig, mae'r cyngor wedi cefnogi'r rhwydwaith o fanciau bwyd a chefnogaeth argyfwng arall i gynnal a chynyddu'r gwasanaethau maent yn eu darparu.

"Ychwanegir yr arian ychwanegol mawr ei angen hwn at oddeutu £200,000 a ddarparwyd gan Gronfa Tlodi Bwyd Cyngor Abertawe, wrth i deuluoedd ac unigolion geisio ymdopi â'r cynnydd sydyn mewn costau byw.

"Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth barhaus ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r rheini sy'n gweithio mor galed yn Abertawe i wneud yn siŵr nad yw'n preswylwyr mwyaf diamddiffyn yn llwgu.

"Rydym yn ffodus iawn i gael rhwydwaith o fanciau bwyd, elusennau a sefydliadau sy'n darparu cefnogaeth mewn argyfwng yn Abertawe a bydd Cyngor Abertawe yn parhau i  wneud popeth y gall i'w cynorthwyo."