Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Canlyniadau rhagorol i ddisgyblion TGAU'r ddinas

Mae myfyrwyr TGAU Abertawe'n dathlu canlyniadau heddiw sy'n llawer uwch na'r canlyniadau ar gyfer Cymru gyfan.

GCSE results generic

Mae'r ffigurau'n dangos yr enillodd 22.2% o ddisgyblion y ddinas raddau A* ac A yn eu pynciau CBAC, sydd cryn dipyn yn uwch na'r 19.5 % ar gyfer Cymru gyfan.

Cyflawnodd mwy na 65% o fyfyrwyr raddau uwch A* i C mewn 26 o'r 38 o bynciau gwahanol.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Rwy'n falch iawn bod cynifer o ddisgyblion wedi gwneud cystal a bod eu gwaith caled a gwaith ein hysgolion a'n hathrawon wedi'i wobrwyo.

"Hoffwn longyfarch yr holl ddisgyblion, y rheini sy'n sefyll arholiadau TGAU a'r bobl ifanc sy'n dilyn llwybrau amgen a gynigir mewn llawer o'n hysgolion sy'n arwain at gymwysterau pwysig.

"Mae llawer o lwybrau ar gael i bobl ifanc yn Abertawe, boed hynny'n parhau ag addysg yn yr ysgol neu'r coleg, hyfforddiant neu brentisiaethau neu fynd ymlaen i gyflogaeth. Hoffwn ddymuno'r gorau i'r holl ddisgyblion ar gyfer eu dyfodol, beth bynnag y maent yn penderfynu'i wneud."

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 21 Awst 2025