Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

GDPR a newid

Mae Cyngor Abertawe yn cefnogi amcanion cynyddu didwylledd, atebolrwydd a thryloywder yn y sector cyhoeddus.

Rydym yn ymroddedig i ymagwedd ragweithiol o ran mynediad at wybodaeth.

GDPR a newid

Rydym wedi ymrwymo i raglen hyfforddi a newid fel bod ein staff yn bodloni'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol o 25 Mai 2018.

  • Rydym yn sicrhau bod egwyddorion y GDPR yn rhan o'n dulliau i drin eich data i sicrhau tegwch, cyfreithlonedd a diogelu data drwy ddylunio.Rydym wedi cyflwyno ymagweddau newydd at ein systemau casglu data personol ac yn adolygu'r data personol cyfredol a ddelir
  • Rydym yn sicrhau y bydd cyn lleied o risg â phosib o golli'ch data personol, a hynny heb effeithio ar ein gallu i barhau i gyflwyno gwasanaethau ar draws Cyngor Abertawe, drwy'r broses Asesiad Effaith Diogelu Data.
  • Rydym yn eich hysbysu mewn Hysbysiadau Preifatrwydd penodol o'r hyn rydym yn ei wneud gyda'ch data a pham, lle y bo'n briodol.
  • Mae gennym ddulliau ar waith i ateb galwadau ceisiadau testun am wybodaeth a'r hawl i'w dileu.

Yr hyn a ddelir gennym

Mae Cyngor Abertawe yn gyfrifol am amrywiaeth eang o swyddogaethau lleol sy'n effeithio ar fywydau pob dydd preswylwyr. Mae gwybodaeth a ddelir gan y cyngor yn hynod berthnasol i'r cyhoedd ac o ddiddordeb mawr iddynt.

Mae rhestr o'r wybodaeth y mae'r cyngor yn sicrhau ei bod ar gael i'r cyhoedd i'w chael yn ein Cynllun cyhoeddi.

Eich hawliau gwybodaeth

Mae darnau niferus o ddeddfwriaeth bellach sy'n llywodraethu'ch hawliau mynediad at wybodaeth a ddelir gan y cyngor. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • Deddf Diogelu Data 2018
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.