Toglo gwelededd dewislen symudol

Gardd Goffa'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn agor

Mae Gardd Goffa dros dro newydd wedi'i hagor yng nghanol y ddinas wrth i Abertawe gofio'r meirwon y mis Tachwedd hwn.

Garden of Remembrance 2025

Garden of Remembrance 2025

Mae'r Ardd Goffa y tu allan i westy Morgans ac fe'i bendithiwyd yn swyddogol ar 2 Tachwedd mewn digwyddiad a arweiniwyd gan Ficer Mystwyr Abertawe, Justin Davies.

Hefyd yn bresennol ar y diwrnod oedd yr Arglwydd Faer, y Cyng. Cheryl Philpott, Arweinydd ar y Cyd y Cyngor y Cyng. Andrea Williams, a Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, y Cyng. Wendy Lewis.

Mae agoriad yr Ardd Goffa yn rhan o'r digwyddiadau a gynhelir yn Abertawe yn y cyfnod sy'n arwain at 11 Tachwedd. Ar y diwrnod hwnnw, bydd pobl wrth brif Senotaff y ddinas ar lan y môr a ger cofebau eraill, ynghyd â busnesau a chartrefi, yn distewi am 11am ar gyfer distawrwydd cenedlaethol am ddwy funud.

Ar 11 Tachwedd bydd arweinwyr dinesig gan gynnwys yr Arglwydd Faer, y Cyng. Hopkins, cynghorwyr, y Lleng Brydeinig Frenhinol, cyn-filwyr a'r cyhoedd yn dod ynghyd wrth Senotaff Abertawe ar gyfer distawrwydd cenedlaethol am ddwy funud Diwrnod y Cadoediad.

Eleni bydd Portland Street yng nghanol y ddinas hefyd yn distewi ar gyfer digwyddiad Abertawe'n Cofio arbennig a drefnwyd gan y cyngor a changen leol y Lleng Brydeinig Frenhinol.

Meddai'r Cyng. Philpott, "Mae dwy funud o fyfyrio'n dawel yn symbol o'n diolchgarwch i'r rheini a wynebodd perygl i amddiffyn ein rhyddid, a'r rheini sy'n dal i wneud hynny heddiw.

"Mae'r ddwy funud hyn sy'n cael eu rhannu gan bobl ar draws Abertawe a gweddill y DU ar yr un pryd yn ein hatgoffa o'n treftadaeth o aberth ac ymdrech a rennir, wrth i ni hefyd goffáu 80 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ."

Ar Sul y Cofio, sef 9 Tachwedd, bydd nifer o ddigwyddiadau cofio cymunedol o gwmpas y ddinas y bydd aelodau ward, cyn-filwyr a theuluoedd lleol yn mynd iddynt. Gallwch gael rhagor o wybodaeth amdanynt yma https://www.abertawe.gov.uk/abertawecofio

Ymysg y digwyddiadau coffa a gynhelir yn ystod tymor y Cofio mae:

  • 8 Tachwedd,
  • 6pm ar gyfer 7pm. Gŵyl y Cofio y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Neuadd Brangwyn, y bydd yr Arglwydd Faer, y Cyng. Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb, a'r Cyng. Lewis yn mynd iddi. Mae croeso i'r cyhoedd. Does dim angen tocynnau arnoch, ond byddwch yn eich sedd erbyn 6.30pm.
  • 9 Tachwedd 
  • 10.30am ar gyfer 11am. Gwasanaeth y Senotaff. Bydd yr Arglwydd Faer a'r Cyng. Hopkins yn mynd iddo.
  • 1.50pm. Cynhelir Gorymdaith Goffa Lleng Brydeinig Frenhinol Abertawe yn Stryd Rhydychen.
  • 2pm ar gyfer 2.30pm. Mystwyr Abertawe. Gwasanaeth Coffa. Bydd yr Arglwydd Faer, y Cyng. Hopkins, y Cyng. King a'r Cyng. Lewis yn mynd iddo.
  • 11 Tachwedd
  • 6.45am ar gyfer 7.15am. Seremoni Pabïau i Paddington yng Ngorsaf Drenau Abertawe, y bydd yr Arglwydd Faer, y Cyng. Hopkins a'r Cyng. Lewis yn mynd iddi.
  • 10.15am ar gyfer 11am. Y Senotaff, Abertawe Gwasanaeth Dydd y Cofio. Bydd yr Arglwydd Faer, y Cyng. Hopkins, y Cyng. King a'r Cyng. Lewis yn mynd iddo.
  • 10.30am ar gyfer 11am. Portland Street. Abertawe'n Cofio.
  • Bydd adeiladau dinesig yn Abertawe'n distewi am 11am ar 11 Tachwedd ar gyfer distawrwydd cenedlaethol am ddwy funud.
  • Bydd Neuadd y Ddinas wedi'i goleuo'n goch fel y pabi ar nosweithiau 9 ac 11 Tachwedd.

Meddai'r Cyng. Hopkins, "Mae'n fraint i ni, fel Cynghorwyr, gael bod yn rhan o wasanaethau coffa sy'n adrodd hanes aberth a gwasanaeth ein lluoedd arfog.

"Byddwn yn mynd i ddigwyddiadau ar draws Abertawe fel cynrychiolwyr lleol i fynegi diolchgarwch ein cymunedau i gyn-filwyr ac aelodau presennol y lluoedd arfog am yr hyn y maent yn ei wneud i ni.

"Ond rwy'n gwybod y bydd llawer o bobl eraill yn ymuno â ni ar gyfer un o achlysuron pwysicaf - a mwyaf teimladwy - y flwyddyn. Os gallwch fynd i ddigwyddiad yn eich ardal chi, gwnewch hynny."

Bydd pabïau ar werth mewn nifer o leoliadau'r cyngor o gwmpas y ddinas, gan gynnwys Marchnad Abertawe, sawl llyfrgell a'r Ganolfan Ddinesig. 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Tachwedd 2025