Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer bwyd, gweithgareddau a lleoedd croesawgar am ddim

Dyrannwyd dros £550,000 yn Abertawe y gaeaf hwn i sicrhau bod bwyd ar gael am ddim i'r rheini y mae ei angen arnynt, i gynnal gweithgareddau cost isel ac am ddim i bobl ifanc a hŷn ac i ddarparu lleoedd cynnes a chroesawgar lle gall pobl gymdeithasu.

Glais Community Centre Winter Support 2025

Glais Community Centre Winter Support 2025

Fel rhan o ymgyrch #YmaIChiYGaeafHwn Cyngor Abertawe, mae 56 o sefydliadau wedi cyflwyno cais am Gronfa Bwyd y Gwyliau a fydd yn golygu y bydd rhai ohonynt yn cynnig bwyd am ddim i blant oedran ysgol sydd ei angen yn ystod hanner tymor mis Hydref yn ogystal â gwyliau'r Nadolig a mis Chwefror.

Mae 94 o glybiau a grwpiau sy'n cynnal gweithgareddau cost isel neu am ddim i blant a phobl ifanc wedi derbyn cyllid ynghyd â 55 arall sy'n gweithio gydag oedolion hŷn.

Mae'r cyngor hefyd yn cefnogi 62 o Leoedd Llesol Abertawe i gynnig lleoedd cynnes a chroesawgar er mwyn i bobl gyfarfod, cymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.

Cynigiwyd grantiau hefyd i 48 o sefydliadau sy'n cynnig cymorth bwyd brys fel banciau bwyd, cynlluniau coginio a chaffis cymunedol.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Rydym yn gwneud popeth y gallwn y gaeaf hwn i sicrhau nad oes unrhyw un yn llwglyd a bod lleoedd i bobl fynd iddynt mewn cymunedau ar draws Abertawe i gymdeithasu er mwyn lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd.

"Hefyd, bydd llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim a chost isel i bobl ifanc a hŷn.

"Yn ogystal â'r grantiau hyn, bydd cymorth wedi'i dargedu i deuluoedd ac unigolion drwy'r cynllun talebau cynghorwyr ac rydym yn cynnig teithiau bws am ddim unwaith eto ar ddyddiadau penodol yn y cyfnod cyn gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, gan gefnogi busnesau ac arbed teuluoedd o bedwar hyd at £20 y dydd mewn costau teithio."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Hydref 2025