Busnesau Abertawe'n annog eraill i wneud cais am arian grant
Mae busnesau ar draws Abertawe sydd wedi elwa o arian grant yn annog eraill i wneud cais.


O fis Mawrth 2025, roedd Cyngor Abertawe wedi rhoi 220 o grantiau i fusnesau lleol gwerth cyfanswm o £1.85m drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Helpodd hyn i ddenu dros £2.2m mewn buddsoddiad preifat, wrth greu 100 o swyddi newydd a diogelu 165 o swyddi.
Dengys ffigurau hefyd fod 187 tunnell o allyriadau CO2 y flwyddyn wedi'u harbed a bod 83 o fentrau newydd wedi'u creu.
Mae ceisiadau bellach ar agor eto gyda rownd newydd o grantiau cyn cychwyn, twf, arloesi a lleihau carbon ar gael.
Meddai Christos Georgakis, o The Gower Deli, "Mae gen i offer newydd sbon o'r radd flaenaf oherwydd y grant hwn.
"Bydd yn para'n hirach. Mae'r offer hefyd yn gweithio'n well ac yn fy ngalluogi i goginio'n well.
Derbyniodd The View in Rhossili - bar-gaffi a chegin - grant lleihau carbon.
Meddai Sarah Bickerstaff, o The View, "Roedd y cyllid wedi caniatáu i ni roi gwres canolog llawn yn yr adeilad, sydd bellach yn ardal gynhesach yn ogystal â bod yn fwy cost-effeithiol.
Mae The View yn lle brafiach i fod oherwydd y gwelliant.
Meddai Ross Miller, o James Miller Solutions, "Gwnaethom gais am grant arloesi, a oedd wedi caniatáu i ni gysylltu â chwmnïau dylunio a pheirianneg sy'n gallu cynhyrchu ein cynnyrch.
"Roedd hefyd yn golygu ein bod yn gallu ariannu prawf hirhoedledd 12 mis a fydd yn caniatáu i'r Grid Cenedlaethol gymeradwyo'r cynnyrch a'i roi yn eu polisi ledled y DU."
Meddai Robert Jenkins, o Gower Brownies, "Fel y gallwch chi werthfawrogi, mae gennym ffwrn enfawr a bains-marie, felly mae popeth yn llyncu trydan yn gyson.
"Mae grant lleihau carbon wedi ein galluogi i roi paneli solar ar y to i helpu gyda chostau trydan rhedeg y ffwrn, sy'n golygu y dylem arbed tua naw tunnell o CO2 y flwyddyn."
Ewch i www.abertawe.gov.uk/ariannubusnesau i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am y grantiau busnes sydd bellach ar gael.